Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 33C295B – 4 Nant y Gors, Pentre Berw

 

7.2 45C452 – Stâd Berllan, Llangaffo

Cofnodion:

7.1       33C295B  - Cais llawn i godi annedd newydd ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol ar dir ger 4, Nant y Gors, Pentre Berw

 

Cyflwynwyd  y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cadeirydd.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 18 Mawrth 2015.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mrs Eileen Smith annerch y Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais ac fe ddygodd hi sylw at y pryderon  a ganlyn –

 

           Gwnaed y cais sawl gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac fe gafodd ei wrthod oherwydd nad yw'r Adran Priffyrdd yn ystyried bod y ffordd sy’n rhoi mynediad yn ddigonol i gymryd mwy o draffig.

           Mae’r cynnig y tu allan i’r ffiniau cynllunio ar gyfer Pentre Berw.

           Nid yw'r cynnig yn cydweddu â gweddill y pentref o ran ei faint a’i ddyluniad.

           Mae anawsterau eisoes mewn perthynas â pharcio - yn ei hachos hi roedd y man parcio ar gyfer ei heiddo ar y gongl ac yn aml roedd anawsterau oherwydd eu bod wedi eu blocio i mewn.

           Byddai lledu’r porth i safle'r cais yn gostwng nifer y lleoedd parcio hyd yn oed ymhellach ac yn gwneud pethau hyd yn oed yn anoddach.

           Yn dilyn salwch yn ddiweddar a oedd wedi ei gadael yn gaeth i gadair olwyn, roedd hi angen gwasanaethau ambiwlans i'w chludo i driniaeth adsefydlu.  Mae gyrwyr ambiwlans wedi cwyno nad ydynt yn medru cael mynediad rhwydd bob amser sy’n codi’r cwestiwn o’r hyn fyddai’n digwydd mewn sefyllfa argyfwng.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau i Mrs Eileen Smith gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Siaradodd Mr Ieuan Davies o blaid y cais ar ran ei bartner yr oedd y cais yn ei henw. Tynnodd sylw at yr ystyriaethau a ganlyn –

 

           Oherwydd materion fforddiadwyedd, yr anawsterau iddo ef, ei bartner a’i blant o ran prynu eiddo o faint addas yn y pentref.

           Ei ddymuniad i aros o fewn cymuned pentref agos Pentre Berw i fagu ei deulu.  Y cynnig hwn yw’r unig ffordd o fedru cwrdd â’r dymuniad hwnnw’n lleol ac mae’r cais am annedd 4 ystafell wely wedi ei wneud ar sail ymarferol i gwrdd ag anghenion teulu sy'n tyfu.

           Mae'r cais wedi bod ar fynd am ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae ef a’i bartner wedi ateb pob pryder a godwyd gan gynnwys comisiynu arolygon ystlumod a choed.

           Mae'r cynnig yn darparu digon o le ar gyfer parcio o fewn safle'r cais sy'n golygu na fydd unrhyw gerbydau ychwanegol yn cael eu parcio ar y briffordd gyhoeddus.  Bydd trefniadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod traffig i'r safle yn medru troi a mynd allan o fewn ffiniau’r plot.

           Mae trafodaethau a gafwyd gyda chymdogion wedi dangos eu bod yn credu y byddai lledu'r ffordd yn creu anawsterau i blant a fyddai’n gorfod defnyddio palmant culach.

           Mae llawer o'r cymdogion wedi dweud y byddent yn fodlon defnyddio’r maes parcio cyhoeddus cyfagos os oes angen yn ystod y dydd i hwyluso mynediad i’r plot.

           Ei fod yn fodlon cydweithredu gyda’r Cyngor i gael caniatâd cynllunio.

 

Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor sawl cwestiwn i Mr Davies er mwyn cael eglurhad ar y sefyllfa o ran parcio a mynediad mewn perthynas â’r safle ac fe gyfeiriodd yr Aelodau a fu’n bresennol yn yr ymweliad safle at yr ymweliad hwnnw gan ddweud ei fod wedi cadarnhau bodolaeth problemau parcio a oedd yn golygu bod cerbydau eraill yn gorfod mynd ar y cyrbin i basio ac i gael mynediad i safle’r cais.  Gofynnodd yr Aelodau yn benodol am sicrwydd gan Mr Davies y byddai mynediad dilyffethair ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau argyfwng a gofynnwyd am gadarnhad ganddo hefyd y byddai’n fodlon gwneud gwelliannau o ran mynediad i’r safle pe bai angen.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd Mr Ieuan Davies na fyddai’r plot mynediad ond yn cael ei ddefnyddio fel mynedfa i’r safle ac y byddai cyfleusterau parcio ar gael o fewn y plot.  Dywedodd hefyd mai mynedfa gyda giât i mewn i gae oedd y dull mynediad beth bynnag ac nad oedd neb i fod i barcio yno ar hyn o bryd.  Ni fydd y cynnig yn newid dim ar y sefyllfa fel ag y mae ar hyn o bryd.  Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda’r cynlluniau ac mae’r cymdogion wedi dweud y byddent yn fodlon peidio â defnyddio’r rhan honno o'r lôn yn ystod y dydd. Dywedodd hefyd y byddai’n cydweithredu o ran gwneud gwelliannau pe bai’r Cyngor angen.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod caniatâd amlinellol yn bodoli ers 2012 a bod yr egwyddor o ddatblygu ar y safle felly wedi ei sefydlu.  Ystyrir hefyd bod y cynnig yn cydymffurfio â Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn trwy fod yn estyniad rhesymol a bychan i’r pentref.  Oherwydd y pellter rhwng y cynnig a'r anheddau cyfagos nid ystyrir y bydd yn cael unrhyw effaith andwyol ar ddeiliaid yr eiddo hynny.  Ymgynghorwyd gyda’r Adran Briffyrdd ar y cais ac nid yw wedi gwrthwynebu.  Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Er i’r Aelodau nodi’n gyffredinol eu bod yn cefnogi'r cynnig, mynegodd amryw ohonynt bryderon difrifol a pharhaus ynghylch y materion mewn perthynas â pharcio a mynediad i'r fath raddau bod rhai Aelodau yn ystyried bod y materion hyn yn rhwystr i gymeradwyo’r cais.  Awgrymodd y Cynghorydd Victor Hughes bod yr ymgeisydd yn cynnal trafodaethau gyda'r Awdurdod Priffyrdd i sefydlu pa welliannau y gellid eu gwneud i liniaru’r sefyllfa ac i hwyluso llif cerbydau ar y ffordd sy'n arwain i’r safle. O gofio hefyd ei bod yn ardal sensitif awgrymodd ymhellach y dylai’r datblygiad arfaethedig gysylltu â'r brif system garthffosiaeth os oes modd er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd o lygru ffrwd gyfagos.  Cadarnhaodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod y system garthffosiaeth gyhoeddus ar gael ac y byddai disgwyl i’r ymgeisydd, dan y polisi cynllunio, sicrhau bod y datblygiad yn cysylltu â'r system honno.

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod y sefyllfa mewn perthynas â cherbydau yn mynd ar y palmant yn bodoli eisoes, ac na fyddai’n newid o ganlyniad i’r cynnig hwn.  Er bod yr Awdurdod Priffyrdd yn ymwybodol bod y lôn yn gulach nag y byddai ei angen ar gyfer ffordd newydd nid oedd y cynnig ond  yn golygu codi un annedd ac ni fydd yn ychwanegu'n sylweddol at y sefyllfa draffig.  Fodd bynnag, er y byddai'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon trafod y posibilrwydd o ledu’r ffordd fynediad gyda’r ymgeisydd pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo ni fydd yn mynnu ei fod yn gwneud hynny - mater i'r Pwyllgor ei benderfynu yw hynny - oherwydd bod yr Awdurdod Priffyrdd yn credu na fyddai modd amddiffyn sefyllfa o'r fath mewn apêl oherwydd bod caniatâd cynllunio amlinellol eisoes yn bodoli a hynny wedi sefydlu'r egwyddor o ddatblygu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad yw’r ffaith bod problemau parcio a mynediad eisoes yn bodoli yn gwneud y problemau hynny’n dderbyniol a'i fod yn pryderu ynghylch y goblygiadau posib i’r Cyngor pe na bai’r sefyllfa’n cael ei hunioni.  Awgrymodd bod y cynnig hwn yn rhoi cyfle i roi sylw i’r sefyllfa.

 

Er bod amryw o’r Aelodau o blaid caniatáu ar yr amod bod yr ymgeisydd yn gweithio gyda’r Awdurdod Priffyrdd i wella'r sefyllfa o ran mynediad, roedd Aelod arall yn credu na ddylid gofyn i’r ymgeisydd gywiro problemau nad yw ef ei hun wedi eu creu ac roedd yn amheus a oedd yn deg ceisio cael sicrwydd o'r fath gan yr ymgeisydd pan fo dan bwysau mewn amgylchedd cyhoeddus cyfarfod pwyllgor ffurfiol.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio fod amodau cynllunio yn destun prawf cyfreithiol a bod rhaid dangos eu bod yn angenrheidiol. Mae'r Awdurdod Priffyrdd, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel y corff statudol, yn credu yn yr achos hwn nad oes angen gwneud gwelliannau i’r mynediad er mwyn cymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai’r Pwyllgor wneud un o ddau beth, sef cymeradwyo’r cais fel y cafodd ei gyflwyno neu ohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel bod modd i’r ymgeisydd a'r Awdurdod Priffyrdd gael trafodaeth ynghylch gwella’r mynediad ond yng nghyd-destun gwybod nad yw’r Awdurdod Priffyrdd yn ystyried bod gwaith gwella o'r fath yn angenrheidiol ar y sail nad yw’n debygol y byddai’r sefyllfa gyfredol yn cael ei gwaethygu’n sylweddol yn sgil ychwanegu’r datblygiad arfaethedig er nad yw’r sefyllfa honno’n ddelfrydol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais fel y cafodd ei gyflwyno. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y Pwyllgor yn gohirio’r penderfyniad fel bod modd i drafodaethau ddigwydd ar y llinellau a amlinellwyd gan y Rheolydd Gwasanaethau Cyfreithiol, ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Yn y bleidlais ddilynol pleidleisiodd y Cynghorwyr John Griffith, Kenneth Hughes, Vaughan Hughes, Richard Owain Jones a Nicola Roberts o blaid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans, Ann Griffith, Victor Hughes, Raymond Jones a W T Hughes i ohirio’r cais.  Cafodd y bleidlais i ohirio ei chario.

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn gofyn i’r Swyddogion Priffyrdd gynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd er mwyn sefydlu a fyddai modd gwneud gwaith gwella ar y fynedfa i safle’r cais.

 

7.2       45C452 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd yn cynnwys manylion llawn y fynedfa ar dir ger Stad Berllan, Llangaffo

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn i’w ystyried gan y Pwyllgor.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 18 Mawrth 2015.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r materion allweddol yw i ba raddau y mae’r cynnig yn cydymffurfio â Pholisi 50 yn y Cynllun Lleol yn yr ystyr ei fod yn estyniad bychan a rhesymol i'r pentref, a materion draenio.  Barn y Swyddog oedd y byddai'r datblygiad arfaethedig a’i gefn i’r pentref ac felly, o ran materion tirwedd, byddai’n cael ei weld fel datblygiad ar wahân mewn lleoliad cefn gwlad yn hytrach na mewnlenwi bychan neu estyniad i’r rhan o’r anheddiad sydd eisoes wedi ei datblygu.  Byddai'r cynnig yn torri trwy'r ffin resymol gyfredol i’r pentref a byddai’n cychwyn erydu’r diffiniad clir sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y lleoliad hwn rhwng ffurf adeiledig y pentref a’r cefn gwlad.  Codwyd materion priffyrdd o ran darparu mynediad diogel ac addas hefyd yn ystod yr ymweliad safle.  Byddai trefn ddiwygiedig ar gyfer mynediad yn golygu y byddai angen cael gwared ar y gwrychoedd ar ymyl y ffordd a byddai hynny, yn ei dro, yn gwaethygu'r dirwedd ac effaith weledol y cynnig.  Gan gyfeirio at yr ystyriaethau draenio, nid yw'r Awdurdod Cynllunio wedi ei argyhoeddi bod y cynnig wedi rhoi sylw digonol i gysylltu â'r brif system garthffosiaeth fel sy'n ofynnol dan bolisi cynllunio cenedlaethol a chyngor cynllunio sydd wedi ei gynnwys yng Nghylchlythyr 10/99.  Am y rhesymau hyn argymhellwyd gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn sefyll i lawr fel Is-Gadeirydd ar gyfer y cais hwn fel y gallai siarad yn y cyfarfod fel Aelod Lleol i gefnogi’r cais.  Cyfeiriodd at gysylltiadau teuluol yr ymgeiswyr â’r ardal, a’u hawydd oherwydd hynny ac ymrwymiadau gofalu, i barhau i fyw yn y pentref.  Nododd mai cynnig oedd hwn am ddatblygiad bychan tebyg i fwthyn a fyddai oherwydd ei faint a'i ddyluniad yn ymdoddi i mewn gyda’r pethau o’i gwmpas ac ni fyddai yn ymwthiol nac yn rhywbeth dieithr yn yr ardal.  Dywedodd ei bod o’r farn bod y cynnig, gydag arwynebedd y safle yn cyffwrdd â rhan o ardd un eiddo ar y stad dai gyfagos, yn ffurfio estyniad bychan i bentref Llangaffo a’i fod felly yn cydymffurfio â Pholisi 50.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig ac roedd Cyngor Cymuned Rhosyr yn gefnogol iddo.  Darllenodd y Cynghorydd Ann Griffith lythyr gan yr ymgeiswyr yn nodi eu hachos i gefnogi’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies bod ganddo bryderon ynglŷn â’r cynnig ac y gallai rhoi caniatâd agor gweddill y cae lle y mae’r cais a thu hwnt i ddatblygwyr tebygol eraill ac y byddai hynny yn  ymwthio ymhellach i’r cefn gwlad, ond roedd ganddo bryderon hefyd ynglŷn â’r fynedfa, dileu gwrychoedd a hynny’n arwain at ddifa cynefin, a’r effaith ar y dirwedd ac ar y pentref.  Cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Victor Hughes..

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ni wnaeth y Cynghorydd Ann Griffith fel Aelod Lleol, bleidleisio ar y mater)

Dogfennau ategol: