Eitem Rhaglen

Dogfen Gyflawni Flynyddol 2015/16

Cyflwyno’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol am 2015/16.

Cofnodion:

Estynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol wahoddiad i’r Pwyllgor gyflwyno eu sylwadau a’u syniadau mewn perthynas â’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn y cyfarfod hwn a hefyd yn y cyfnod hyd at ddiwedd mis Ebrill cyn y byddai’r ddogfen yn cael ei chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cyngor Sir ym Mai yn unol â thelerau’r Cyfansoddiad.  Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y ddogfen yn seiliedig ar flaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol a’r rheini a amlygwyd yn yr hunanasesiad corfforaethol a’i bod wedi ei chwblhau erbyn hyn i bob pwrpas yn amodol ar wneud rhai newidiadau i fanylion.

 

Dywedodd y Rheolydd Rhaglenni a Chynllunio Busnes mai’r cwestiwn allweddol yw a oes modd cyflawni amcanion y ddogfen yn ymarferol a beth yw’r sail dystiolaeth ar gyfer hynny.  Mae’r dystiolaeth o’r gallu i gyflawni amcanion y ddogfen wedi ei thynnu o dair ffynhonnell:-

 

           Cynlluniau Darparu Gwasanaeth.  Cwblhawyd y rhain yn dilyn setlo Cyllideb 2015/16 ac maent yn seiliedig felly ar y ddealltwriaeth bod yr adnoddau sydd eu hangen i’w gwireddu ar gael. 

           Prosiectau unigol sy’n parhau ac sydd hefyd yn cydnabod yr angen i adnoddau priodol fod ar gael.

           Casgliadau’r Hunanasesiad Corfforaethol.  Mae’r Penaethiaid Gwasanaeth a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi nodi bod angen alinio blaenoriaethau i sicrhau bod modd cyflawni allbwn yr hunanasesiad a bydd yr agwedd hon yn cael sylw cyn i’r ddogfen gyflawni gael ei chyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i bob maes blaenoriaeth unigol a nodwyd yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a gwnaed y sylwadau a ganlyn arnynt:-

 

           Ein bod yn Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion Hŷn

 

           Mewn perthynas â’r crynodeb awgrymwyd y dylid ail-eirio’r paragraff cyntaf i adlewyrchu’r posibilrwydd na fydd y gwaith cynllunio a’r prosesau mewn perthynas â’r cynllun gofal ychwanegol yn Amlwch wedi aeddfedu i’r un graddau â’r cynllun yn Llangefni erbyn diwedd 2015/16 fel bod modd cychwyn y gwaith adeiladu arno.  Cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglenni a Chynllunio Busnes y byddai’r paragraff dan sylw’n cael ei ail-eirio yn y ffordd a awgrymwyd.

 

           Adfywio ein Cymunedau a Datblygu’r Economi

 

           Mewn perthynas â’r crynodeb, awgrymwyd bod yr ymadrodd “gobaith” yn anarferol yng nghyd-destun dogfen sy’n nodi sut y bydd blaenoriaethau’n cael eu cyflawni ac y dylid ei ddileu.  Fel rhan o waith i gwblhau’r ddogfen gyflawni’n derfynol, cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes y bydd y ddogfen yn cael ei hadolygu ar gyfer cysondeb iaith a therminoleg.

           Mynegodd y Pwyllgor rywfaint o bryder fod y ddogfen gyflawni’n cynnwys rhai ymrwymiadau sydd y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod ac y gallai felly fod yn gosod ei hun i fyny i fethu.  Cyfeiriodd at ffactorau fel creu swyddi newydd a diogelu swyddi cyfredol fel enghraifft o hynny.  Pwysleisiodd y Pwyllgor bod rhaid dangos bod y blaenoriaethau’n realistig ac yn gyraeddadwy ac felly rhaid iddynt fod o fewn maes dylanwad yr Awdurdod.  Dywedodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes y byddai’r agwedd honno’n cael ei hadolygu. 

           Mewn perthynas â’r nod o sicrhau cynnydd o 2% mewn lefelau twristiaeth yn 2015/16, awgrymodd y Pwyllgor bod angen i’r ddogfen nodi sut y byddir yn mynd ati i gyflawni hynny.  Roedd y Pwyllgor hefyd yn cwestiynu a oedd dyhead o’r fath yn ymarferol o gofio  ffactorau megis yr hinsawdd economaidd, faint o arian sydd gan bobl i’w wario a’r tywydd sydd oll yn ystyriaethau sydd tu allan i reolaeth yr Awdurdod.  Cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes fod y dyhead yn seiliedig ar y cynllun sydd wrth wraidd  gwaith twristiaeth y Cyngor.

           Fel rhan o’r gwaith i adfywio cymunedau a datblygu’r economi, dylai’r Ddogfen Gyflawni gyfeirio at adfywio gweithgynhyrchu mewn ardal drefol fel Caergybi.  Dywedodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes y byddai’n ymgynghori gyda’r Adran Datblygu Economaidd i sefydlu a oes unrhyw gynllun o’r fath yn yr arfaeth.

           Mewn perthynas â datblygu cynlluniau sy’n cynyddu cyfleon cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc fel rhan o’r rhaglen Ynys Ynni, nododd y Pwyllgor nad yw’r ddogfen yn gwneud unrhyw gyfeiriad at hyrwyddo cyfleon cyflogaeth i bobl ifanc yn y presennol; nododd y Pwyllgor y cyfnod amser rhwng hyfforddi pobl ifanc yr Ynys i roi’r sgiliau iddynt baratoi ar gyfer cyfleon cyflogaeth sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Ynys Ynni a gwireddu’r cyfleon hynny mewn gwirionedd yn sgil datblygiadau mawr megis Wylfa Newydd.  Roedd yn bryderus yn y cyfamser y gallai gweithlu medrus ifanc yr Ynys fod wedi chwilio am gyfleon gwaith mewn mannau eraill.  Esboniodd y Prif Weithredwr sut y mae Strategaeth Sgiliau esblygol yr Awdurdod a ddatblygwyd mewn cydweithrediad gyda phartneriaid yn y sector addysg wedi ei hanelu tuag at gwrdd â’r galw am sgiliau yn yr economi leol dros y degawd nesaf a sut y mae eisoes yn cael effaith.

 

           Gwella Addysg, Sgiliau a Moderneiddio ein Hysgolion.

 

Nododd y Pwyllgor yr adran hon heb wneud sylwadau arni.

 

           Cynyddu ein Hopsiynau Tai a Gostwng Tlodi

 

           Nododd y Pwyllgor nad yw’r ddogfen yn cynnig unrhyw ddatrysiad radical o ran sut y bydd stoc dai’r ynys yn cael ei huwchraddio’n gyffredinol ac eithrio yng Nghaergybi. Dywedodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes fod y ddogfen yn darparu ar gyfer gwaith adnewyddu ac atgyweirio ar raddfa lai trwy wahanol gynlluniau a mentrau grant yn ystod 2015/16.  Esboniodd y Swyddog ymhellach bod y targed o ddod â 60 o gartrefi a oedd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn ôl i ddefnydd yn 2015/16 y rhan o Gytundeb Canlyniadau’r Awdurdod gyda Llywodraeth Cymru (roedd 90 eisoes wedi dod yn ôl i ddefnydd fel rhan o’r cytundeb) a bod cyflawni’r cytundeb yn sicrhau y rhyddheir arian yn unol â thelerau’r cytundeb hwnnw.

 

           Trawsnewid ein Darpariaeth Hamdden a Llyfrgelloedd

 

           Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor fod Panel Llyfrgelloedd wedi ei sefydlu a bod Strategaeth Hamdden wedi ei chymeradwyo’n ddiweddar gan y Pwyllgor Gwaith. 

           Awgrymodd y Pwyllgor y dylid asesu llyfrgelloedd y Cyngor yn unigol ac y dylid osgoi mabwysiadu un dull penodol o weithredu sy’n ceisio bod yn addas i gwrdd â phob sefyllfa a hynny ar y sail bod llyfrgelloedd yn darparu cymysgedd gwahanol ac amrywiol o weithgareddau a gwasanaethau i gwrdd ag anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

 

           Canolbwyntio ar y Cwsmer, y Dinesydd a’r Gymuned

 

Nododd y Pwyllgor yr adran hon heb wneud sylwadau arni.

 

           Trawsnewid ein Technolegau Cyfathrebu a Gwybodaeth

 

           Awgrymodd y Pwyllgor y dylai’r adran hon gynnwys cyfeiriad at gyfathrebu ar y ffôn fel ffordd sylfaenol o gyfathrebu sy’n parhau i gael ei defnyddio.  Dywedodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes fod cyfathrebu ar y ffôn yn rhan annatod o’r Siarter Cwsmeriaid oherwydd bod y dull hwn o gyfathrebu yn cael ei gydnabod fel un sy’n boblogaidd gyda chwsmeriaid ac y gellid amlygu’r disgwyliadau’r Siarter Cwsmeriaid yn well yn yr adran hon o’r Ddogfen Gyflawni.

 

           Blaenoriaethu Gwelliannau Eraill

 

Nodwyd y rhain gan y Pwyllgor.

 

           Awgrymodd y Pwyllgor y dylid ymgorffori monitro’r Dogfen Gyflawni yn y Flaenraglen ar gyfer y Pwyllgor fel bod modd iddo asesu a mesur cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r Awdurdod am y cyfnod 2015/16 ac i ddibenion cymharu gyda 2014/15.  Esboniodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes fod disgwyl i’r Awdurdod, yn ogystal â chyhoeddi Dogfen Gyflawni Blynyddol cyn gynted ag y bo modd ar ôl Ebrill bob blwyddyn, gyhoeddi adroddiad blynyddol ar berfformiad ym mis Hydref sy’n rhoi sylw i gyflawniadau’r flwyddyn flaenorol h.y. 2014/15  a bod rhaid i’r Cyngor llawn ei gymeradwyo dan y Fframwaith Polisi.  Bydd drafft cychwynnol o’r adroddiad perfformiad ar gael fis Mehefin ond ni fydd hwnnw’n cynnwys meincnodi gydag Awdurdodau eraill yng Nghymru oherwydd nad yw’r DP yn cael eu gwirio gan Lywodraeth Cymru tan fis Awst, sef y rheswm am y dyddiad cyhoeddi statudol ym mis Hydref.

 

Er yn nodi na fyddai data ar gael i gymharu perfformiad yr Awdurdod gydag awdurdodau eraill hyd nes y bydd yr adroddiad terfynol wedi ei gyhoeddi mis Hydref, nododd y Pwyllgor y byddai’n hoff cael y copi drafft o’r adroddiad perfformiad blynyddol ar gyfer ei gyfarfod ym mis Gorffennaf er mwyn cael syniad cyffredinol o’r hyn y mae’r Awdurdod wedi ei gyflawni o ran cwrdd â’i flaenoriaethau am y cyfnod 2014/15.

 

Penderfynwyd cyfeirio sylwadau’r Pwyllgor ar y Ddogfen Gyflawni Blynyddol am 2015/16 i’r Pwyllgor Gwaith gydag argymhelliad eu bod yn cael eu hymgorffori yn y fersiwn swyddogol i’w chymeradwyo gan y Cyngor llawn.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI:  Swyddog Sgriwtini i drefnu i gynnwys drafft cychwynnol yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2014/15 yn rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2015.

Dogfennau ategol: