Eitem Rhaglen

Gweinyddu'r Ymddiriedolaeth

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd yr Ysgrifennydd bod trafodaeth wedi bod yn y cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol a gynhaliwyd ar 29 Mai 2012 ynghylch priodoldeb sefydlu trefniadau gweinyddol gwahanol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth a fyddai’n annibynnol ar drefniadau gweinyddol y Cyngor. Cafwyd trafodaeth

gyffredinol ar rai opsiynau ar gyfer allanoli’r gwaith gweinyddol neu sefydlu system weinyddol benodol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth. Cyfeiriwyd at roi swm o £20,000 o’r neilltu ar gyfer cynnal astudiaeth ar ddichonoldeb y cynnig, ond ni wnaed penderfyniad ffurfiol i’r perwyl. Nodwyd Panel I roi rhagor o sylw i’r mater gyda’r bwriad iddo ateb yn ôl i’r Ymddiriedolaeth. Nid yw’r Panel wedi

cyfarfod hyd yma, ond, yn y cyfamser, cafwyd nifer o gyfarfodydd rhwng Swyddogion, a rhwng Swyddogion a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth.

 

Ar hyn o bryd mae cwestiynau wedi codi ynghylch y berthynas rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth sy’n mynd y tu draw i’r trafodaethau ynghylch gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth oddi wrth weinyddiaeth y Cyngor. Yn y lle cyntaf, roedd y Swyddogion yn credu nad oedd ganddynt, yn

eu barn hwy, yr arbenigedd na’r capasiti i ddarparu cymorth cynhwysfawr ac effeithiol i’r Ymddiriedolaeth. Erbyn hyn, roedd ystyriaethau eraill yn dod i’r wyneb mewn perthynas â sicrhau bod cyfansoddiad yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn addas i’r pwrpas fel endid elusennol a chanddi’r nod o fod o fudd cyhoeddus cyffredinol i drigolion Ynys Môn y tu draw i’r meysydd y

mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol amdanynt.

 

Roedd y Cadeirydd a’r Swyddogion o’r farn y dylai’r Ymddiriedolaeth ofyn am gyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer yr aelodau fel bod modd iddynt benderfynu pa mor addas i’r pwrpas yw’r cyfansoddiad cyfredol, y priodoldeb o sefydlu terfynau clir rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth a’r ffordd o ddelio gydag asedau’r Ymddiriedolaeth a’r dulliau a fabwysiedir i hyrwyddo budd

cymunedol trwy ddyfarnu grantiau ac ati.

 

Adroddodd yr Ysgrifennydd ymhellach bod busnesau allanol wedi datgan diddordeb mewn prynu safle Rhosgoch, sydd ym mherchenogaeth yr Ymddiriedolaeth. Mae’r Ymddiriedolaeth eisoes wedi

cymeradwyo caffael cyngor arbenigol, yn unol â rheoliadau’r Comisiwn Elusennol, er mwyn cynorthwyo yn y broses o werthu’r safle, yn dilyn arweiniad a roddwyd gan ei Swyddogion ei hun nad oedd ganddynt y sgiliau na’r wybodaeth arbenigol i gynghori a chefnogi’r broses.

 

Roedd yr Aelodau yn cytuno bod rhaid i fusnes yr Ymddiriedolaeth Elusennol a’r Cyngor Sir fod ar wahân. Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD :-

 

·           Caffael cyngor arbenigol i ystyried pa mor addas i’r pwrpas yw cyfansoddiad cyfredol yr Ymddiriedolaeth a’i threfniadau gweinyddol yng nghyd-destun y newidiadau diweddar i strwythur gwleidyddol y Cyngor ei hun a’r cyfleon newydd sy’n codi ar gyfer

budd cymunedol yn Ynys Môn;

 

·           Cadarnhau’rangen i gaffael gwasanaethau Syrfëwr Cymwys i hwyluso’r broses o werthu safle Rhosgoch;

 

·           Awdurdodi Trysorydd yr Ymddiriedolaeth, i gaffael y cyngor arbenigol angenrheidiol, gan lynu wrth drefniadau caffael y Cyngor, fel pecyn cynhwysfawr ac i ryddhau swm o £20,000 ar gyfer y gwaith mewn perthynas ag adolygu’r cyfansoddiad a’r weinyddiaeth;

 

·           Nodi y bydd gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol a’r tir yn Rhosgoch yn cael eu trin ar wahân.