Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn codi

7.1  33C304B/ECON – Cyffordd 7 o’r A55 wrth ymyl Cefn Du, Gaerwen

7.2  33C295B – 4 Nant y Gors, Pentre Berw

7.3  34C553ATy’n Coed, Llangefni

Cofnodion:

7.1 33C304B/ECON – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel y fferm gyfredol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio a mynedfa newydd i gerbydau ar Gyffordd 7 yr A55 (ger Cefn Du), Gaerwen

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Einion Parry Williams, Is-Gadeirydd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog i annerch y pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais. Dygodd Mr. Williams sylw at bryderon a fynegwyd gan drigolion lleol fel a ganlyn yn ystod cyfarfod cyhoeddus yn y pentref ym mis Chwefror 2015:-

 

· Lleoliad – bydd yn dinistrio treftadaeth leol pentref Gaerwen;

· Carthffosiaeth – dim digon o gapasiti carthffosiaeth ar gael;

· Cludiant - byddai’n cael effaith andwyol ar draffig yn y Gaerwen.

 

Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor sawl cwestiwn i Mr. Williams er eglurhad mewn perthynas â lleoliad y safle a’r rhesymau pam mae’r trigolion lleol yn gwrthwynebu.

 

Ymatebodd Mr Williams fod y cais yn golygu dymchwel adeiladau allanol hanesyddol y fferm a bod hynny’n annerbyniol. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch materion carthffosiaeth a draenio. Ymatebodd Mr Williams fod y safle’n llawn dop o ddŵr glaw yn ystod tywydd gwlyb a bod y priffyrdd cyfagos yn gorlifo fel arfer ar y fath adegau. Gofynnodd yr Aelodau ragor o gwestiynau mewn perthynas â materion traffig a godwyd gan y trigolion. Ymatebodd Mr Williams trwy ddweud fod traffig trwm yn

parhau i fynd trwy bentref Gaerwen er gwaethaf adeiladu’r A55. Nododd bod y Stad Ddiwydiannol yn cynhyrchu traffig di-baid trwy’r pentref.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Pryderi ap Rhisiart annerch y cyfarfod I gefnogi’r cais. Roedd yn cynrychioli Prifysgol Bangor a nododd fod Ms Hayley Knight o Bilfinger GVA ar gael i ateb unrhyw gwestiynau technegol y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cael eglurhad yn eu cylch. Dygodd Mr Pryderi ap Rhisiart sylw at y materion a ganlyn:-

 

· Mae Parc Gwyddoniaeth yn wahanol i barciau busnes a stadau diwydiannol. Mae Parc Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar rannu cyfleusterau ac yn aml yn denu busnesau bychan a chanolig eu maint h.y. busnesau ymchwil;

· Bydd y Parc Gwyddoniaeth yn cynnig cyfleon cyflogaeth i bobl ifanc leol a swyddi o safon;

· Fel y rhan fwyaf o Barciau Gwyddoniaeth, byddai gan y cynnig hwn gysylltiadau cryf gyda Phrifysgol Bangor. Bydd y ffocws ar dechnoleg amgylcheddol a sefydliadau carbon isel sy’n adlewyrchu cryfderau’r Brifysgol ynghyd â’r cysylltiadau amlwg gyda Rhaglen Ynys Ynni’r Cyngor;

· Dewiswyd y safle oherwydd mai hwn yw’r lleoliad gorau oherwydd maint y tir oedd ar gael a’i agosrwydd i’r A55 a Phrifysgol Bangor. Roedd nifer o safleoedd eraill yn Ynys Môn a Gwynedd wedi cael sylw hefyd. Hwn fydd yr unig safle dynodedig yn Ynys Môn fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol;

· Mae nifer o faterion technegol wedi cael eu hasesu’n ofalus sy’n cynnwys priffyrdd, perygl o lifogydd, effaith weledol, ecoleg a’r effaith economaidd. Mae'r Cyngor a’r cyrff statudol wedi derbyn yr adroddiadau technegol;

· Er mai cynnig amlinellol yw hwn ar hyn o bryd, ymgynghorwyd dros y 10 mis diwethaf gyda’r Cyngor Cymuned Lleol ynghyd â thrigolion lleol;

· Mae llwybr troed wedi ei ail-leoli ac mae'r safle wedi ei ostwng yn dilyn sylwadau a wnaed;

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor sawl cwestiwn i gynrychiolwyr y Parc Gwyddoniaeth.  Roedd y cwestiynau’n ymwneud â phryderon trigolion Gaerwen ynghylch diogelu treftadaeth yr adeiladau fferm ger y safle; materion traffig a’r isadeiledd carthffosiaeth.

 

Ymatebodd y cynrychiolwyr trwy ddweud y rhagwelir y bydd y tŷ fferm yn cael ei gadw ac y bydd yr arteffactau ffermio diddorol yn cael eu harddangos yn y parc. Bydd yr isadeiledd traffig yn cael sylw trwy gynllun penodol i reoli traffig a thrafnidiaeth. Rhagwelir na fydd llawer o draffig yn mynd trwy bentref Gaerwen. Bydd gwaith uwchraddio ar y system garthffosiaeth yn cael ei drafod yn fanwl gyda Dŵr Cymru.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd H.E. Jones annerch y cyfarfod fel aelod lleol. Dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd ei gyd-gynghorydd, sef y Cynghorydd T.V. Hughes yn gallu dod i’r cyfarfod heddiw ond ei fod wedi gofyn i’r Cynghorydd Jones ddarllen ei sylwadau i'r Pwyllgor. Byddai’r Parc Gwyddoniaeth yn creu cyfleon cyflogaeth i bobl ifanc i’r dyfodol. Fodd bynnag, mae trigolion yn bryderus ynghylch y lleoliad a ddewiswyd ar gyfer y Parc Gwyddoniaeth. Gofynnwyd

cwestiynau ynghylch pam y dewiswyd Gaerwen o gofio’r ystyriaethau hanesyddol. Yn Ebrill penderfynodd y Pennaeth Cynllunio na ddylai ymyrryd ac na allai gefnogi meddygfa ddeintyddol/doctoriaid ar y safle oherwydd y byddai’n creu datblygiad rhubanaidd ac yn ymwthiad amlwg i gyrion y pentref. Mae’r cynnig y tu allan i’r ffin ddatblygu ar gyfer Gaerwen ac yn tynnu’n groes i Bolisi 51 a Pholisi 17 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Mae'r Brifysgol yn mynnu bod y safle hwn yn ddelfrydol oherwydd ei fod o fewn cyrraedd rhwydd i Fangor. Ni fyddai ond yn cymryd ychydig o funudau i deithio i’r gyffordd gyda Llangefni. Byddai Llangefni yn croesawu datblygiad o'r fath a allai gynorthwyo busnesau bychain yn stryd fawr y dref. Roedd y Cynghorydd Hughes yn ystyried nad oedd digon o sylw wedi ei roi i ‘r safleoedd eraill. Nid yw'r cais yn golygu

gwneud unrhyw welliannau i’r A55 a byddai angen cylchfannau ar y ddwy slipffordd. Roedd y Cynghorydd Hughes wedi gofyn am i Brifysgol Bangor ailystyried lleoliad y safle ac wedi gofyn i’r Pwyllgor ohirio rhoi sylw i’r cais heddiw oherwydd bod safle yn Llangefni sydd â chysylltiadau ffyrdd digonol a Llwybr Beicio ger y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd H.E. Jones ei fod yn cytuno gyda’r rhan fwyaf o'r sylwadau a wnaed gan ei gyd-aelod lleol, ond roedd yn glir bod y Pwyllgor angen eglurhad ynghylch pam yr oedd yr Arolygwyr Cynllunio yn gwrthwynebu’r safle hwn 10 mlynedd yn ôl fel safle diwydiannol. Mae’n ymddangos yn awr fod swyddogion yn cefnogi'r cais.  Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r Cyngor Cymuned am drefnu’r cyfarfodydd

cyhoeddus i drafod y cynnig. Diolchodd hefyd i'r ymgeisydd am newid y cais gwreiddiol yn dilyn pryderon a fynegwyd gan y gymuned leol.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio fod cais o’r maint hwn yn mynd i arwain at godi nifer o faterion. Mae’r prif ystyriaethau cynllunio wedi eu hamlygu yn yr adroddiad i'r Pwyllgor. Amlinellodd y Swyddog y prif ystyriaethau cynllunio fel y nodwyd nhw yn yr adroddiad a oedd ar gael i'r Pwyllgor. Cyfeiriodd at y paragraff yn yr adroddiad sy'n delio gyda chyfyngiadau technegol neu amgylcheddol penodol h.y. draenio, ecoleg,

priffyrdd, asesiadau gweledol a thirwedd, yr iaith Gymraeg, tir amaethyddol, archeoleg, mwynderau preswyl a'r effaith ar fwynderau lleol eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod fframwaith yn ei le i gymeradwyo'r cais amlinellol ar gyfer Parc Gwyddoniaeth yn y Gaerwen. Ystyrir bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda nifer o amcanion a blaenoriaethau'r Cyngor ac y byddai o gymorth I greu amrywiaeth o gyfleon cyflogaeth ar gyfer pobl leol ac yn helpu economi'r Ynys.

Argymhellir felly y dylid cymeradwyo’r cais gyda Chytundeb Adran 106 ar gyfer cyfraniad ariannol i hwyluso gwelliannau i’r safle bws a thuag at adeiladu ffordd gyswllt i gerddwyr a beicwyr ar ochr ddeheuol yr A5. Byddai angen trafodaeth bellach ynghylch nifer o amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd, yn arbennig Amod 10 yn yr adroddiad. Gofynnodd i’r Pwyllgor roi pwerau dirprwyol i’r Swyddogion Cynllunio drafod y rhain gyda’r datblygwr.

 

Dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes fod pawb yn dymuno creu cyfleon cyflogaeth lleol i bobl ifanc a chynorthwyo busnesau i ddatblygu ar y parc. Byddai’r cyswllt gyda’r Brifysgol o fudd ar gyfer manteisio ar eu harbenigedd. Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies bod manteision ac anfanteision i ddatblygiad o'r fath. Bydd y Parc Gwyddoniaeth yn creu llawer o gyfleon cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc. Mae'r ynys wedi colli gormod o raddedigion ac efallai y byddai hyn yn gyfle iddynt ddychwelyd. Eiliodd y Cynghorydd Davies y cynnig a wnaed i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog (fel y cafodd ei ddiwygio yn y cyfarfod) a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.2 33C295B – Cais llawn i godi annedd a gwaith altro i’r fynedfa gyfredol ar dir ger 4 Nant-y-Gors, Pentre Berw

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Cadeirydd y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio fod y cais wedi ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf oherwydd bod angen i’r ymgeisydd a’r Awdurdod Priffyrdd gynnal rhagor o drafodaethau. Roedd y mesuriadau ar gyfer lled y ffordd a’r droedffordd i’w gweld yn adroddiad y Swyddog. Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Priffyrdd) nad oedd ond modd lledu’r lôn i’r annedd arfaethedig drwy gael gwared ar y palmant sydd yno ar hyn o bryd.

 

Nododd y byddai hynny’n annerbyniol oherwydd ystyriaethau diogelwch i

gerddwyr.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3 34C553A Cais amllinellol ar gyfer datblygiad preswyl, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod wedi ei hysbysebu fel un sy’n tynnu’n groes i’r cynllun datblygu ond yr argymhellir ei gymeradwyo. Ymwelwyd â’r safle ar 21 Awst, 2013.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mrs. Moore annerch y Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Dygodd Mrs. Moore sylw at y pryderon a ganlyn:-

 

· Yn ystod cyfarfodydd cyhoeddus, roedd yn amlwg nad oedd yr effaith y byddai’r cais yn ei gael ar isadeiledd y dref wedi cael fawr o sylw a bod effeithiau andwyol posibl ar eiddo cyfagos wedi eu hanwybyddu’n llwyr;

· Ardal gleiog yw hon, sy’n tueddu i gael llifogydd a llithriadau tir mewn mannau sy’n gwneud yr ardal yn un anodd a drud i’w datblygu fel y mae’r datblygwr wedi cyfaddef;

· Bydd amharu ar ddraeniad naturiol y tir yn creu risg o lifogydd i eiddo islaw’r safle ac yn is i lawr y cwrs dŵr y mae'n draenio iddo;

· Mae pryderon mawr ynghylch gallu rhwydwaith carthffosiaeth y dref i ymdopi yn wyneb profiadau trigolion Bro Ednyfed;

· Pryderon ynghylch mwy o draffig y tu allan i ysgol a ddyluniwyd i hwyluso mynediad i gerddwyr;

· Mae ysgol gynradd eisoes yn llawn ac nid yw’r cyfraniad gan y datblygwr i’w hehangu yn ddigon i gwrdd â’r costau tymor hir;

· Mae'r cynnydd yn y traffig eisoes yn bryder hyd yn oed gyda ffordd liniaru Coleg Menai a bydd yn golygu mwy o draffig drwy Ganol y Dref;

· Codwyd cwestiynau ynghylch a fyddai'r meddygfeydd lleol yn gallu ymdopi pe bai’r datblygiad hwn yn cael ei gymeradwyo;

· Dywedwyd bod y Cyngor eisoes wedi cwrdd â’i gwota o dir ar gyfer tai yn Llangefni.  Gofynnwyd cwestiynau a oedd angen y tai hyn yn Llangefni;

· A fyddai'r mynwentydd yn Llangefni yn medru ymdopi â chynnydd yn sgil datblygiad o'r fath ac yn arbennig oherwydd mai Cam 1 y cais yw hwn a bod ail ddatblygiad yn cael ei gynllunio;

· Mae angen datblygiadau llai, sef cartrefi 1 a 2 ystafell wely ar draws yr Ynys i helpu’r holl gymunedau i dyfu a chynnal amrywiaeth yr ardal.

 

Roedd Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Nicola Roberts, yn bryderus nad oedd trigolion yn ymwybodol tan ddechrau’r wythnos y byddai’r cais yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwn. Yn y dyfodol, gofynnodd bod gwrthwynebwyr/ cefnogwyr ceisiadau cynllunio yn cael rhybudd digonol pan fo ceisiadau’n cael eu trafod yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Berwyn Owen annerch y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Dygodd Mr Owen sylw at y materion a ganlyn:-

 

· Cynhaliwyd arolwg o fusnesau yn nhref Llangefni ac roedd 96% ohonynt yn croesawu’r datblygiad hwn yn Ty’n Coed. Mae’r busnesau bychain hyn yn cyflogi bron i 250 o bobl leol ac yn rhan bwysig o economi’r dref;

· Mae Llangefni angen mwy o dai i bobl leol er mwyn eu denu i ddefnyddio’r Canolfannau Hamdden, hybu masnach i siopau lleol, y farchnad a busnesau eraill yn Llangefni;

· Mae’r datblygiad yn bwysig i Langefni oherwydd ei fod o faint na welwyd ei debyg yn Llangefni ers deng mlynedd o gymharu ag ardaloedd eraill o Fôn;

· Mae thema o fewn adroddiad a gyflwynwyd i Bwyllgor Gwaith y Cyngor Sir yn darllen fel a ganlyn: ‘Gall tai fod yn gyfrwng ar gyfer adfywio. Gall adeiladu o’r newydd ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cyflwyno cyfleon newydd ar gyfer datblygu tai lleol. Gall y farchnad dai greu cyflogaeth a chynorthwyo i sicrhau bod cartrefi a lleoedd deniadol ar gael i gadw pobl ifanc a llafur sgiliedig yn yr ardal”:

· Bydd canran o’r datblygiad ar gyfer tai fforddiadwy a fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc leol brynu eu cartrefi eu hunain;

· Mae’r datblygiad yn cydymffurfio gyda’r polisïau tai y mae’r Cyngor wedi eu mabwysiadu;

· Mae’r safle wedi ei glustnodi yn y Cynllun Datblygu Lleol;

· Mae’r datblygiad arfaethedig yn gyfle anferth i Langefni adfywio ac yn gyfle i gynyddu’r dref ac mae hynny’n cydweddu â strategaeth y Cyngor Sir ar gyfer prosiectau tai a chyflogaeth.

 

 

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor sawl cwestiwn i Mr Owen er eglurhad ynghylch materion fforddiadwyedd a thai fforddiadwy ac ynghylch yr arolwg a wnaed gyda’r busnesau lleol. Holwyd a oedd Asesiad ar yr Iaith Gymraeg wedi ei gynnal. Yn ei ymateb dywedodd Mr Owen mai cais amlinellol yw hwn ar hyn o bryd ac nad oedd manylion penodol wedi eu cadarnhau ynghylch faint o gartrefi fforddiadwy fydd ar gael a’r cyfraniad gan y datblygwr tuag at fwynderau lleol. Dywedodd hefyd fod polisïau

Cenedlaethol yn dweud yn benodol bod raid i ddatblygiadau tebyg gynnwys

darpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy. Efallai y bydd gan Sefydliadau Tai diddordeb mewn darparu tenantiaethau ar y cyd ar gyfer y tai fforddiadwy fel bod modd i bobl ifanc leol fforddio cartref.

 

Ymatebodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio i’r cwestiwn ynghylch a oedd Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi’i gynnal ac a oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn fodlon gyda chanfyddiadau’r asesiad. Roedd yr asesiad hefyd wedi ei gynnal yn unol â methodoleg y Cyngor.

 

Fel aelod lleol gofynnodd Cynghorydd Nicola Roberts i Mr Owen a yw’r datblygwr wedi comisiynu arolwg ar gyfer draenio'r safle. Ymatebodd Mr Owen fod Dŵr Cymru a thrigolion lleol wedi codi gwrthwynebiadau i’r cynnig oherwydd materion draenio. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi sylw manwl i’r pryderon hyn ond roedd bellach wedi ymateb gan ddweud nad oedd yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen amlwg am dai yn Llangefni a bod tystiolaeth a pholisi’n profi hynny. Roedd angen tai mewn lleoliadau cynaliadwy. Nid yw’r sawl yr ymgynghorwyd â nhw’n statudol yn gwrthwynebu’r cais amlinellol. Cynigir ymrwymiad cynllunio i ddarparu 50% tai fforddiadwy i gychwyn dan y polisi; cyfraniad at y ddarpariaeth addysg – fel y manylir ar hynny yn yr adroddiad a chyfraniad i wella ac uwchraddio’r cyfleusterau trin carthffosiaeth fel y cytunwyd gyda Dŵr Cymru. Byddai

union delerau’r ymrwymiad cynllunio’n fater ar gyfer trafodaeth bellach a bydd adroddiad ar gasgliadau’r trafodaeth hynny’n cael ei gyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor hwn.

 

Fel Aelod Lleol, roedd y Cynghorydd Dylan Rees yn cytuno bod tref Llangefni angen cael ei hadfywio gyda mwy o bobl yn byw ac yn gweithio yn yr ardal. Dywedodd ei fod o blaid datblygu cymunedau cynaliadwy gyda thwf bychan mewn tai. Mae'r cynnig yn un ar gyfer 138 o dai sy’n ddatblygiad anferth ac roedd yn ystyried na fyddai isadeiledd y dref yn gallu ymdopi gyda datblygiad o'r fath.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Councillor R.O. Jones.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Dyma oedd y bleidlais :-

 

Cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog :-

 

Y Cynghorwyr Jeff Evans, K.P. Hughes, W.T. Hughes, R.O. Jones. Cyfanswm: 4

 

Gwrthod y cais :-

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Cyfanswm: 6

Vaughan Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd gorddatblygu, ymwthio i ardal wledig ac ni fedr iasdeiledd y dref gefnogi datblygiad o’r fath.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

Dogfennau ategol: