11.1 16C197A – Dridwen, Bryngwran
11.2 19C1140/CA/ENF – 4 & 5 Pentre Pella, Mynydd, Caergybi
11.3 23C323 – 1 Penbonc, Talwrn
11.4 33C258C/RUR – Cefn Poeth, Llangefni
11.5 36C338 – Henblas School, Llangristiolus
11.6 48C182A/DA – 2 Bryn Twrog, Gwalchmai
Cofnodion:
11.1 16C197A – Cais llawn i ddymchwel y sied bresennol ynghyd â chodi annedd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dridwen, Bryngwran
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Anerchodd y Cynghorydd Dylan Rees y cyfarfod fel Aelod Lleol a gofynnodd am ymweliad safle oherwydd bod deiliaid eiddo cyfagos o’r farn y câi’r cais effaith andwyol ar eu heiddo.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle’n unol â chais yr aelod lleol.
11.2 19C1140/CA/ENF – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle yn 4 a 5 Pentre Pella, Mynydd Twr, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mae eiddo yng nghanol teras yw’r eiddo yn Ardal Gadwraeth ddynodedig Pentre Pella, Caergybi. Mae’r safle hefyd yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gwneir y cais ôl-ddyddiedig ar gyfer dymchwel yn rhannol yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.3 23C323 – Cais llawn ar gyfer gwaith altro ac ehangu yn 1 Penbonc, Talwrn
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i berson sy’n gweithio yn yr Adran Gynllunio. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.4 33C258C/RUR – Cais llawn i godi annedd amaethyddol, adeiladu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Cefn Poeth, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Miss Alaw Griffith i annerch y cyfarfod fel un sy’n cefnogi’r cais.
Dywedodd Miss Griffith y caniatawyd cais amlinellol ym mis Hydref 2014 a bod egwyddor y datblygiad o’r herwydd, eisoes wedi’i gymeradwyo. Cyflwynwyd y cais llawn i’r Pwyllgor heddiw oherwydd bod mwy o fanylion ar gael mewn perthynas â lleoliad y fynedfa i’r safle ac oherwydd bod maint y ffiniau wedi newid. Roedd y cais amlinellol a gymeradwywyd eisoes yn un am annedd sengl a oedd yn mesur 9.5m x 10.5m ar y cynllun a hyd at 7.5m i’r grib.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.5 36C338 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Cadeirydd fod aelod lleol wedi gofyn am ymweliad safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle’n unol â chais yr aelod lleol.
11.6 48C182A/DA – Cais i ganiatáu materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd ar dir yn 2 Bryn Twrog, Gwalchmai
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: