12.1 12C266P/FR – Penrhyn Safnas, Biwmares
12.2 12C266Q/FR – ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares
12.3 14LPA1010/CC – Cefn Trefor, Trefor
12.4 17C476A – 13 Glyn Garth Court, Glyn Garth
12.5 19C690C – 14 Cae Braenar, Caergybi
12.6 19C1156 – 74 Queens Park, Caergybi
12.7 32C193 – 7 Tre Ifan, Caergeiliog
12.8 34LPA1009/CC – Saith Aelwyd, Rhosmeirch
Cofnodion:
12.1 12C266P/FR – Cais llawn i godi is-orsaf newydd ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 12C266Q/FR – Cais llawn i altro’r fynedfa bresennol, ynghyd ag adeiladu maes parcio newydd yn ABC Power Marine, Biwmares
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 14LPA1010/CC – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir yn Cefn Trefor, Trefor
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan yr Awdurdod Lleol a’r Cyngor sydd biau’r tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law gan yr ymgeisydd a chynigiodd y dylid gohirio’r cais tan y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
12.4 17C476A – Cais llawn i ail-leoli ffenestri yn 13 Glyn Garth Court, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Dywedodd yr Is-gadeirydd ei bod yn gwrthwynebu’r cais oherwydd llythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd mewn perthynas â’r cais hwn a nododd y byddai’n pleidleisio yn ei erbyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 19C690C – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ehangu yn 14 Cae Braenar, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr aelod lleol wedi gofyn am ymweliad safle oherwydd materion yn ymwneud ag edrych drosodd, colli preifatrwydd a lefelau amrywiol y tir ar y stad.
Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones y dylid ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle’n unol â chais yr aelod lleol.
12.6 19C1156 – Cais llawn i ymestyn y cwrtil ynghyd â gwaith altro ac ehangu yn 74 Queen’s Park, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid cefnogi’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.7 32C193 – Cais llawn i ymestyn cwrtil 7 Stad Tref Ifan, Caergeiliog
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Ms. Catrin Williams sy’n cefnogi’r cais, i annerch y cyfarfod. Roedd Ms. Williams yn dymuno rhoddi sicrwydd y byddai llecynnau parcio ar gyfer 2 gar ar gael wedi ymestyn y cwrtil yn 7 Tre Ifan, Caergeiliog.
Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones y dylid cefnogi’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.8 34LPA1009/CC – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Saith Aelwyd, Rhosmeirch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn pryderu am orddatblygiad pentref Rhosmeirch ac am faint y tai sydd wedi cael eu hadeiladu yn yr ardal. Roedd yr Aelodau o’r farn bod angen ffin ddatblygu ar gyfer Rhosmeirch. Ym marn y Cynghorydd Nicola Roberts, roedd y cais hwn yn ymwthio mewn modd annerbyniol i ardal wledig Rhosmeirch a chynigiodd y dylid gohirio’r cais fel y gellir cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd mewn perthynas â’r datblygiad hwn. Eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais fel y gellir cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd.
Dogfennau ategol: