11.1 22C224 – Tan y Ffordd Isaf, Llandddona
11.2 45C83C/DEL – Trewen, Penlon, Niwbwrch
(Adroddiad i ddilyn)
Cofnodion:
11.1 22C224 – Cais amlinellol i godi annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa ar dir ger Tan y Ffordd Isaf, Llanddona
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yn Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.
Adroddodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio y gwnaed yr argymhelliad yn adroddiad ysgrifenedig y swyddog i wrthod y cais ar sail y nodyn gweithredu dan Bolisi 50, a chan nad oes unrhyw bwysau yn cael ei roi i’r nodyn gweithredu ar hyn o bryd, yr argymhelliad nawr yw gohirio ystyried y cais er mwyn ei ailystyried yng ngoleuni Polisi 50.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.
11.2 4583C/DEL – Cais dan Adran 73 i wneud i ffwrdd ag amod (05) (bydd y gweithdy’n cael ei defnyddio er budd Mr T W Owen a phan na fydd ef ei angen mwyach, bydd yn cael ei ddefnyddio i bwrpas amaethyddiaeth) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 45C83A (codi gweithdy) yn Nhrewen, Penlon, Niwbwrch
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Mae'r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais.
Adroddodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio fod y caniatâd gwreiddiol yn dyddio'n ôl i 1989 a’i fod yn dilyn cais tebyg am weithdy a wrthodwyd oherwydd ei effaith bosib ar fwynderau. Wrth roi’r caniatâd cynllunio i’r cais yn 1989, gosodwyd amod cynllunio arno yn cyfyngu defnydd y gweithdy i Mr T W Owen, a bu raid i’r ymgeisydd hefyd lofnodi cytundeb adran 52 oedd yn golygu pe na fyddai ef neu ei fab angen y sied bellach (roedd yr ail amod ynghylch ei fab yn unol ag amrywiad i eiriad yr amod cynllunio), byddai'n dychwelyd i ddefnydd amaethyddol yn gysylltiedig â’r tyddyn 6.5 acer. Derbyniwyd dau lythyr yn gwrthwynebu dileu’r amod personol ac roedd y rhain yn seiliedig ar bryderon ynglŷn â’r defnydd o’r safle yn dwysáu o bosib. Dywedodd y Swyddog fod yna eisoes amod yn cyfyngu sŵn ar y caniatâd ac y byddai’r amod hwn yn parhau mewn grym. Yr argymhelliad oedd caniatáu'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfreithiol ar y pwynt hwn fod y Pwyllgor bellach wedi bod yn eistedd am dair awr (daethpwyd â chais 13.1 ymlaen i’w ystyried yn gynharach yn nhrefn rhaglen y Pwyllgor) a bod angen, dan ddarpariaethau paragraff 4.1.10 Cyfansoddiad y Cyngor, i’r mwyafrif o’r Aelodau hynny o’r Pwyllgor a oedd yn bresennol gytuno i barhau gyda’r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai’r cyfarfod barhau.
Dogfennau ategol: