Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 19C1145 – Byngalo Harbour View, Ffordd Turkey Shore Road, Caergybi

 

12.2 20C289A/DEL – Arfordir ger yr Harbwr, Cemaes

 

12.3 25C28C – Tafarn y Bull, Llanerchymedd

 

12.4 36LPA827B/CC – Bodhenlli, Cerrigceinwen

 

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

12.1  19C1145 – Cais llawn i godi rhandy yn Harbour View Bungalow, Ffordd Turkey Shore, Caergybi.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd i Aelod Lleol ei alw i mewn.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio mai’r argymhelliad yn awr yw gohirio ystyried y cais hyd oni fydd Tystysgrif B mewn perthynas â’r ffordd wedi dod i law.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2  20C289A/DEL – Cais dan Adran 73 i wneud i ffwrdd ag amod (03) (caniatâd dros dro) o gais gynllunio cyfeirnod 20C289 (Gosod cloch “Amser a Llanw”) yn y blaen draeth, ger yr harbwr, Cemaes.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno ac sy’n cael ei rentu gan Stad y Goron.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio fod y Gloch Amser a Llanw wedi cael ei gosod yn Ebrill 2014 yn y lleoliad a gymeradwywyd ac na chafwyd unrhyw sylwadau negyddol gan gymdogion.  Ymgynghorwyd gyda’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac mae wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

12.3  25C28C – Cais llawn i ddymchwel y dafarn bresennol a’r adeiladau cysylltiedig yn y Bull Inn, Llannerch-y-medd.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. 

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio y derbyniwyd y cais yn wreiddiol fel rhybudd ymlaen llaw o’r bwriad i ddymchwel y tŷ tafarn a’r adeiladau cysylltiedig cyfredol er mwyn gweld a oedd angen i’r Cyngor gymeradwyo’r dull a’r manylion dymchwel ymlaen llaw. Y gofyniad hwn oedd testun y drafodaeth heddiw. Dywedodd y Swyddog bod y bwriad i ddymchwel wedi creu llawer iawn o bryder yn lleol oherwydd ystyrir bod yr adeilad o arwyddocâd hanesyddol i’r ardal leol.  Derbyniwyd gwybodaeth ynghylch y dull dymchwel a’r modd y bwriedir adfer y safle wedi hynny, cynigion y mae deilydd eiddo cyfagos wedi gwrthwynebu iddynt oherwydd pryderon ynglŷn â’r wal gydrannol.  O ran y dull y bwriedir ei ddefnyddio i ddymchwel yr adeilad ac adfer y safle, yr argymhelliad yw un o gymeradwyo.

 

Siaradodd John Griffith yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Lleol ac eglurodd nad oedd yr ymadrodd “pentref yn marw ar ei draed” a briodolwyd iddo yn yr adroddiad ysgrifenedig yn adran 3 wedi cael ei ddweud ganddo ef mewn gwirionedd, a chredai mai’r gwrthwyneb oedd yn wir – bod y pentref gyda’i gyngor cymuned ymroddgar, yr ysgol gynradd lewyrchus a hyderus a’r llu o sefydliadau dygn a phrysur yn fodel ardderchog i gymunedau eraill ynghylch sut i ffynnu a datblygu er mwyn gwella’r gymuned. Wrth alw’r cais i mewn, cyfeiriodd at yr isod:

 

           Gwrthwynebiad cryf yn lleol i’r cynnig gan gynnwys y Cyngor Cymuned

           Hanes hir yr adeilad a ystyrir yn lleol fel rhan bwysig a hanfodol o hanes a threftadaeth y pentref. Soniwyd am agweddau o’r rhain yn rhai o’r llythyrau o wrthwynebiad – darllenodd y Cynghorydd Griffith ddarnau o ddau ohonynt.

           Y ffaith nad oes sôn yn yr adroddiad ysgrifenedig am unrhyw gyfeiriad at arwyddocâd hanesyddol yr adeilad a fyddai wedi cael ei ddwyn at sylw’r Gwasanaeth Cynllunio gan un o’r llythyrau o wrthwynebiad ar adeg cyflwyno’r cais gwreiddiol ym mis Ionawr 2015.

           Mae Adran 3 Deddf Ardaloedd Cadwraeth 1990 yn rhoi’r grym i Awdurdod Cynllunio Lleol gyflwyno rhybuddion cadwraeth adeiladau mewn perthynas ag adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac sydd mewn perygl o gael eu dymchwel neu eu haltro mewn modd a fyddai’n cael effaith ar eu cymeriad fel adeiladau o’r fath ddiddordeb.  Dan yr un ddeddfwriaeth, mae modd hefyd cyflwyno cais i CADW i restru adeiladau sydd dan fygythiad o gael eu haltro neu eu dymchwel yn y dyfodol agos.

           Nid yw’r Gwasanaeth Cynllunio wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r adeilad fel un arbennig y dylid ei warchod ac er na fedr y Cyngor yn awr wneud cais i gael rhestru’r adeilad yn y fan a’r lle oherwydd bod y cyfnod rhybudd o 28 diwrnod wedi dod i ben, mae’r Cyngor Cymuned wrthi’n ymchwilio i’r camau y mae angen eu cymryd i wneud hynny.

           Yr angen i’r Gwasanaeth Cynllunio ymgynghori gyda Swyddog Cadwraeth y Cyngor mewn perthynas â’r adeilad ac i ystyried y manteision o wneud ymholiadau gyda CADW neu ymchwilio i unrhyw fodd arall o ddiogelu’r adeilad.

           Yr ymrwymiadau yn codi o’r ddeddfwriaeth ar gyfer waliau cydrannol. Nid yw’r manylion a gafwyd gan yr ymgeisydd yn egluro sut y byddir yn ymdrin â’r to a rennir a’r wal gydrannol gyda’r eiddo cyfagos o ran gwaith, gwella neu eu hadfer.

           Yr angen i gynnal arolwg ystlumod

           Eglurhad ynghylch beth fydd yn cymryd lle y Bull yn y lleoliad hwnnw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith i’r Pwyllgor ystyried gohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel y gellir ymgynghori gyda Swyddog Cadwraeth y Cyngor a chyda CADW ar yr opsiynau posibl o ran cadwraeth a hefyd i ganiatáu amser i’r Cyngor Cymuned gwblhau ei ymholiadau ei hun gyda CADW.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio mai’r dull yn hytrach na’r egwyddor o ddymchwel sydd dan sylw a bod unrhyw gynnig i ddatblygu’r safle yn fater ar gyfer cais yn y dyfodol.  O ran y cyfeiriad a wnaed at ddeddfwriaeth mewn perthynas ag adeiladau rhestredig mewn ardal gadwraeth, mae’r ddarpariaeth honno’n berthnasol i adeiladau sydd eisoes wedi eu rhestru yn hytrach nag adeiladau cyffredin; petai’r Bull yn adeilad rhestredig, byddai’r cais i’w ddymchwel yn cael ei ystyried dan delerau gwahanol fel cais i ddymchwel adeilad rhestredig. Mae’n bosibl i’r Cyngor, dan y ddeddfwriaeth, gyflwyno Rhybudd Gwarchod ar yr adeilad ac, ar yr un pryd, gyflwyno cais i CADW am ei gofrestru fel adeilad rhestredig. Byddai’r rhybudd mewn grym am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw, byddai disgwyl i CADW gadarnhau’r statws adeilad rhestredig ac yna, byddai’r cais yn derbyn sylw fel cais adeilad rhestredig. Petai CADW yn penderfynu nad yw’r adeilad yn cwrdd â’r meini prawf angenrheidiol ar gyfer statws adeilad rhestredig, gallai’r ymgeisydd ofyn am iawndal gan y Cyngor am unrhyw golledion a gafodd yn sgil peidio â gallu gwneud y gwaith datblygu.  Mewn trafodaethau cychwynnol gyda’r Swyddog Cadwraeth, mae’r Swyddog yn credu mai adeilad Fictoraidd yw’r Bull sydd wedi cael ei altro sawl gwaith ers hynny. I gyflwyno rhybudd cadwraeth adeilad, byddai angen ymchwilio i hanes yr adeilad cyn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn am ganiatâd i ryddhau rhybudd o’r fath, sef proses sy’n debygol o gymryd amser maith i’w chwblhau gan arwain yn ei dro at risg y byddai apêl ar sail diffyg penderfyniad yn cael ei chyflwyno yn y cyfamser.  Mae ystyriaethau o ran waliau cydrannol yn fater cyfreithiol dan ddeddfwriaeth ar wahân. 

 

Roedd cytundeb cyffredinol yn y Pwyllgor y dylid gwneud ymdrech i gadw’r Bull fel adeilad o ddiddordeb hanesyddol lleol ac ymchwilio i ddulliau i’r perwyl hwnnw.  Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel y gallai’r Cyngor gael sylwadau’r Swyddog Cadwraeth ar y Bull Inn, Llannerch-y-medd. (Ni wnaeth y Cynghorydd John Griffith  bleidleisio ar y cais)

 

12.4  36LPA827B/CC – Cais llawn i godi sied amaethyddol yn Bodhenlli, Cerrigceinwen

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: