Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

 

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

13.1    46C427K/TR/EIA/ECON – Cais cynllunio hybrid sy'n cynnig: Amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer: Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys porthdai a bythynnod newydd; adeilad canolbwynt canolog newydd yn cynnwys derbynfa gyda chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr isdrofannol dan do, neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai ac adwerthu; adeilad canolog newydd ar gyfer Marchnad Ffermwyr; adeilad hamdden a sba canolog newydd; canolfan chwaraeon dŵr a chaffi newydd ar safle'r hen Dŷ Cwch; dymchwel y Baddondy ac adeiladu bwyty ar ei safle; dymchwel adeiladau eraill gan gynnwys tair ysgubor amaethyddol a thair annedd; darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r Llwybr Arfordirol gan gynnwys: rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar o goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; creu trywydd cerfluniau a llwybrau pren newydd trwy goetir a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.

 

Tir yn Cae Glas: Codi llety a chyfleusterau pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: hyd at 315 o borthdai i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer gweithwyr niwclear; adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; gwesty newydd; adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, adwerthu a bar; cae pêldroed glaswellt newydd a chae criced; a Canolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: porthdai ac adeiladau cyfleuster wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o borthdai i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Chanolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.

 

Tir yn Kingsland: Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i'w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys: hyd at 320 o dai newydd i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn ddatblygiad preswyl a fyddai'n cynnwys: hyd at 320 o anheddau mewn tirwedd o safon uchel a llecynnau agored.

 

Bydd datblygiadau atodol ar gyfer pob cam o'r gwaith datblygu, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer parcio, ardaloedd gwasanaeth, llecynnau agored a pheiriannau\gwaith. Manylion llawn ar gyfer newid defnydd yr adeiladau Stad cyfredol ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi gan gynnwys newid defnydd: Tŵr y Beili ac adeiladau allanol yn Fferm Penrhos o dŷ clwb criced i fod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr, bwyty, caffi, bariau ac adwerthu; Ysgubor y Fferm ac Adeiladau Trol o fod yn adeiladau fferm i fod yn ganolfan ar gyfer hurio beiciau ac offer chwaraeon; Y Tŵr o ddefnydd preswyl i fod yn llety i reolwyr a swyddfa atodol; a Thŷ Beddmanarch o annedd i fod yn ganolfan ymwelwyr.

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio yn nodi prif delerau’r cytundeb adran 106 mewn perthynas â’r Penawdau Telerau a gymeradwywyd ynghyd â’r amodau cynllunio arfaethedig.  Yn ogystal, cafwyd diweddariad mewn perthynas â’r newidiadau i bolisïau cynllunio a’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol a dderbyniwyd ers cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2013.

 

Soniodd y Prif Swyddog Cynllunio am y sefyllfa gyffredinol a’r gwaith a wnaed ers cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2013; cyfeiriodd at drafodaethau maith gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac at ohebiaeth y corff hwnnw (ynghlwm wrth yr adroddiad) yn nodi ei sefyllfa mewn perthynas â materion penodol oedd yn berthnasol iddo. 

 

Aeth Mr Gary Soloman, Burges Salmon yn ei flaen i gynghori’r Pwyllgor ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â phob un o’r 32 o Benawdau Telerau a hynny o ran yr ymrwymiad a wnaed neu ar statws y trafodaethau ac, mewn achos lle penderfynwyd neu lle y cytunwyd mewn egwyddor i roi cyfraniad ariannol penodol (yn seiliedig ar werthoedd cyfredol ond wedi eu mynegeio i werth yn y dyfodol ar sail mynegeion i’w cadarnhau) i gwrdd â galwadau/

ymrwymiadau ychwanegol, nododd y swm fel a ddangosir isod.  Yn ogystal, dygodd sylw’r Pwyllgor at Reoliad 123 y Rheoliadau Ardoll Isadeiledd Cymunedol 2010 sydd, ers Ebrill 2015, wedi cyflwyno dull rheoli newydd y cyfeirir ato fel “cyfyngiad cronni” y mae ei ganlyniadau wedi eu hegluro yn yr adroddiad.

 

           Addysg – £1.5m

           Gofal Meddygol – cytunwyd ar swm rhwng £530k a £600k.

           Hamdden – cyfraniad cyfalaf o dros £1m a chyfraniad cynnal a chadw blynyddol o £300k y flwyddyn tuag at gyfleusterau chwaraeon sydd eisoes yn bodoli (hyn os na fydd y ganolfan chwaraeon arfaethedig yng Nghae Glas yn mynd yn ei blaen).

           Nofio – cyfraniad cyfalaf o £560k a chynnal a chadw blynyddol o £165k y flwyddyn mewn egwyddor ar gyfer y cynllun gweithredol ar gyfer gweithwyr niwclear a chyfraniad cyfalaf o £60k a chynnal a chadw blynyddol o £17k ar gyfer y cyfnod adeiladu.

           Llyfrgelloedd – £400k i adleoli’r cyfleusterau llyfrgell cyfredol.

           Gwaith Lleol – 5% o brentisiaethau trwy gydol y cyfnod gweithwyr adeiladu. Targed o 35% o lafur lleol yn ystod y cyfnod adeiladu ac 80% llafur lleol yn ystod y cyfnod gweithredu.  £67.5k tuag at gyllido swyddog hwyluso am 18 mis.

           Addasu llety gweithwyr niwclear yn ddefnydd etifeddol – taliad o £25k fesul uned i’w hadnewyddu sy’n cyfateb i swm oddeutu £16m.

           Yr Iaith Gymraeg – £60k y flwyddyn am 10 mlynedd ar gyfer y cyfnod gweithwyr niwclear a £10k y flwyddyn am 5 mlynedd ar gyfer y cam twristiaeth.

           Ymrwymiadau twristiaeth – £100k ar gyfer yr isadeiledd twristiaeth; £75k ar gyfer marchnata a hyrwyddo; £715k ar gyfer effaith, lliniaru a monitro a £50k ar gyfer Swyddog Twristiaeth am gyfnod o 12 mis.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Achos Cynllunio Arweiniol at y drafft cyfredol o’r amodau cynllunio yn Atodiad 1 yr adroddiad, y wybodaeth amgylcheddol bellach a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd yn unol ag Atodiad 2 yr adroddiad ac asesiad o’r newid mewn polisïau cynllunio ers gwneud y penderfyniad i ryddhau caniatâd cynllunio ym mis Tachwedd 2013 fel y cânt eu nodi yn Atodiad 3 yr adroddiad.  Cadarnhaodd y Swyddog mai barn y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio yw na fyddai’r wybodaeth yn Atodiad 2 neu Atodiad 3 yn effeithio’n sylweddol neu’n newid y penderfyniad/argymhelliad a wnaed eisoes.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad pellach ynglŷn â’r meysydd isod ac/neu gwnaed sylwadau ychwanegol yr ymatebodd y Swyddogion iddynt trwy ddarparu gwybodaeth bellach ac/neu drwy esbonio’r cytundeb a wnaed –

 

           Y diffiniad o “lleol” mewn perthynas â llafur lleol

           I ba raddau os o gwbl y bydd Land a Lakes yn cefnogi Coleg Menai o ran prentisiaethau.

           Dan Ymrwymiad (27) – “cyfathrebiadau yn yr iaith Gymraeg”, dylai’r cyfeiriad yn y drydydd golofn ddarllen “bydd ymrwymiadau o ran enwau ffyrdd yn yr iaith Gymraeg yn unig”.

           Y dylid rhoddi blaenoriaeth i arwyddion yn yr iaith Gymraeg.

           Y ffaith na wnaed unrhyw gyfeiriad at gyfraniad ariannol i Dŵr Cymru yn wyneb y pwysau sylweddol a fydd yn cael ei roddi ar y system garthffosiaeth gyhoeddus.

           Diffyg penawdau telerau penodol i roi sylw i unrhyw ollyngiadau i Fôr Iwerddon a’r cynnydd a wnaed o ran rhoi sylw i’r mater hwn.

           A ystyrir bod y £530k a negodwyd ar gyfer gofal meddygol yn ddigonol ac i ba raddau yr ymgysylltwyd gyda BIPBC ar hyn a materion eraill sy’n ymwneud ag iechyd.

           A ystyrir fod £1.5m yn gyfraniad digonol o ystyried y pwysau ychwanegol ar addysg.

           Yr angen i ailystyried y cytundeb y daethpwyd iddo o ran yr ymrwymiad mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant lle mae problemau yn debygol o ymestyn y tu hwnt i’r tymor o 5 mlynedd y cytunwyd i gyflogi gweithiwr cymdeithasol i blant ar ei gyfer.

           Yr angen am ddulliau diogelu cadarn lle mae un rhan o’r datblygiad yn gysylltiedig â/neu’n ddibynnol ar un arall o ran yr hyn fydd yn mynd ymlaen a dealltwriaeth glir o’r sbardunau.

           Yr angen am well system gyfathrebu ar gyfer hysbysu’r cyhoedd yn arbennig o ran meysydd lle mae trafodaethau amlasiantaethol er mwyn rhoddi sicrwydd i’r cyhoedd nad yw’r datblygwr yn gweithio ar ei ben ei hun a bod cyrff cyhoeddus eraill yn gysylltiedig ac yn cael mewnbwn i faterion fel sy’n angenrheidiol.

           Yr angen i ddarparu rhybudd digonol pan fydd gwybodaeth ddiwaddaredig megis yr adroddiad ar gael.

 

Eglurodd y Swyddog Achos Arweiniol fod Dŵr Cymru wedi cadarnhau eu bod yn fodlon i’r datblygiad gael ei gymeradwyo gydag amod cynllunio a fydd efallai’n golygu y bydd angen i’r datblygwr uwchraddio’r system garthffosiaeth yn ôl yr angen.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnodd am adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor pan fydd holl delerau’r cytundeb adran 106 a’r amodau wedi eu cwblhau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes yr argymhellion yn yr adroddiad gyda’r amodau uchod ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r ymrwymiadau a fydd yn cael eu diogelu dan gytundeb yn unol ag adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy’n unol â’r Penawdau Telerau a awdurdodwyd gan y Pwyllgor ar 6 Tachwedd 2013.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pholisi cynllunio a’r wybodaeth amgylcheddol bellach gan gynnwys ymgynghori ac ymatebion eraill a dderbyniwyd ac fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

           Yn wyneb yr uchod, cymeradwyo’r penderfyniad blaenorol a rhoddi’r awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio gwblhau telerau’r cytundeb adran 106 a’r amodau.

           Bod adroddiad yn dod yn ôl i’r Pwyllgor unwaith y bydd telerau’r cytundeb 106 a’r amodau wedi cael eu cwblhau a hynny cyn cwblhau’r cytundeb cyfreithiol a rhyddhau caniatâd cynllunio.

 

Dogfennau ategol: