Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad - Y Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch4 2014/15

Cyflwyno’r cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 4 2014/15.

(Adroddiad i Bwyllgor Gwaith 26 Mai, 2015)

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes yn ymgorffori’r cerdyn sgorio diwethaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15 ac yn dangos sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar gyfer y flwyddyn fel y cawsant eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Mai, 2015. Roedd yr adroddiad yn amlygu’r rhannau hynny o’r Cerdyn Sgorio a oedd yn dangos bod y rhaglen wella a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth gyfredol yn cael ei gwireddu ynghyd ag eithriadau lle yr oedd cofnod o danberfformiad ynghyd â’r mesurau lliniaru a gynigir i fynd i’r afael â’r meysydd hynny. 

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r meysydd isod mewn perthynas â Rheoli Perfformiad a oedd wedi eu dynodi’n Goch - meysydd yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi gofyn yn benodol i’r Pwyllgor eu sgriwtineiddio fel y gall fodloni ei hun ynglŷn â’r rhesymau am fethiant i gyflawni’r targed perfformiad a chael sicrwydd fod camau unioni wedi eu cynllunio neu ar waith-

 

           SCC/041a: Y ganran o blant cymwys, perthnasol a phlant a oedd yn flaenorol yn rhai perthnasol, sydd â chynlluniau llwybr yn ôl yr angen.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Rhiantu Corfforaethol a Phartneriaethau bod y mesur perfformiad hwn yn ymwneud â’r bobl ifanc hynny sydd wedi bod mewn gofal neu sy’n parhau i dderbyn gofal ac y mae’n rhaid i’r Awdurdod fod â chynlluniau llwybr ar eu cyfer er mwyn hwyluso eu trosglwyddiad i fyw’n annibynnol. Cynigiodd yr esboniadau lliniaru isod am y tanberfformiad –

 

           Ar gyfer yr un cyfnod llynedd, roedd 23 o bobl ifanc yn y categori oed hwn ac roedd perfformiad yr Awdurdod yn erbyn y targed wedi llithro o 78.26% am 2013/14 i 77.28%. Er mai dim ond 4 o bobl ifanc oedd heb gynllun llwybr, mae’r ffigwr hwn yn cynrychioli canran uwch oherwydd roedd y nifer berthnasol yn isel i gychwyn ac o’r herwydd, mae’r ganran o ran perfformiad wedi cael ei sgiwio.

           Unigolion bregus yw’r rhain sydd, yn aml, wedi cael profiadau negyddol ac maent yn glir am yr hyn y maent eisiau a dim eisiau ei wneud ac nid ydynt bob amser eisiau bod yn rhan o gynlluniau ffurfiol ar gyfer eu dyfodol. Yn aml, mae stigma ynghlwm wrth fod yn blentyn sy’n derbyn gofal ac mae rhai o’r bobl ifanc hyn yn dewis torri’r cysylltiadau hynny ar y cyfle cyntaf. O’r herwydd, mae sicrhau eu bod yn cyfranogi yn her. 

           Mae gan y Gwasanaeth raglen glir ar gyfer sicrhau y bydd cynlluniau llwybr yn cael eu cwblhau ar gyfer y 4 unigolyn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf – mae un eisoes wedi’i gwblhau a bydd y tri arall yn cael eu cwblhau’n o fuan.

           Mae’r Gwasanaeth yn bwriadu cynnal adolygiad o’r trefniadau ôl-ofal yn ystod y flwyddyn nesaf ac, fel rhan o’r adolygiad hwnnw, bydd yn ailedrych ar ganllawiau statudol ac arfer dda ac yn ceisio annog pobl ifanc i gymryd rhan er mwyn dylanwadau ar gynllunio gofal ac ymarfer y cynlluniau gofal.  Bydd y swydd newydd, Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn allweddol i’r ymdrech honno. 

           Yn ogystal, bydd y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol yn cael ei hadolygu gyda’r nod o ymgysylltu’n well gyda gwasanaethau eraill y Cyngor o ran trefniadau rhiantu corfforaethol er mwyn sicrhau nad mater i’r Gwasanaethau Plant yn bennaf fydd hwn.

           Mae hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig ar eu cyfrifoldebau rhiantu corfforaethol wedi cael ei drefnu a bydd yn cael ei ddarparu gan berson ifanc sydd â phrofiad uniongyrchol o dderbyn gofal.

           Er y derbynnir y dylai perfformiad yn erbyn y dangosydd fod yn 100%, nid yw’r ffigyrau moel bob amser yn cyfleu’r darlun gwirioneddol neu lawn. 

 

Nododd a derbyniodd y Pwyllgor yr eglurhad a gafwyd gan y Swyddog a chafwyd sicrwydd ganddo y bydd modd i’r Gwasanaeth, oherwydd bod y nifer dan sylw yn isel, gydymffurfio’n llawn gyda’r DP.

 

           HHA/017a: Nifer y dyddiau ar gyfartaledd y mae’r holl aelwydydd digartref yn eu treulio mewn llety gwely a brecwast.

 

Dywedodd y Rheolydd Opsiynau Tai fod y dangosydd yn cyfeirio at unigolion sydd wedi treulio cryn amser mewn llety gwely a brecwast ac sy’n unigolion y mae gan yr Awdurdod gyfrifoldeb amdanynt, a rhoes y diweddariad isod i’r Pwyllgor –

 

           Dim ond un cwpl a chanddynt blant sy’n rhan o’r grŵp hwn a bu’r teulu mewn llety gwely a brecwast am 8 diwrnod a’u bod wedi eu lletya oherwydd sefyllfa argyfyngus. Roedd gweddill y grŵp yn 8 o bobl sengl ac, oherwydd eu cefndiroedd bregus, mae’n anoddach dod o hyd i lety addas ar eu cyfer. Ychwanegwyd at yr anawsterau gyda’r newidiadau a wnaed yn ddiweddar i’r rheoliadau o ran budd-daliadau. 

           Daethpwyd o hyd i lety addas ar gyfer y rhan fwyaf o’r unigolion hyn drwy landlordiaid preifat.

           Rhagwelir y bydd y diwygiadau i’r Ddeddf Ddigartrefedd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2015 yn golygu y bydd llai o bobl yn cael eu lleoli mewn llety gwely a brecwast – ar hyn o bryd, dim ond 3 o unigolion sydd gan y Gwasanaethau Tai mewn llety Gwely a Brecwast o gymharu â 10 efallai fel arfer. Mae’r Ddeddf yn awr yn hwyluso ymyrraeth gynharach ac yn caniatáu i’r Awdurdod gymryd camau rhesymol mewn perthynas â’r sawl sydd angen llety a rhoi cymorth iddynt yn gynt. 

           Mae mesurau wedi cael eu sefydlu a chychwynnwyd ar broses o ailstrwythuro 4 o swyddi mewn ymateb i ofynion diwygiadau Llywodraeth Cymru ac er mwyn cwrdd â’r gofynion hynny.

           Oherwydd nifer yr unigolion y llwyddwyd i ddod o hyd i lety ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn – rhoddwyd sylw i 270 o geisiadau digartrefedd ac mae 250 o unigolion pellach wedi derbyn cyngor a dim ond 9 sydd ar ôl mewn llety gwely a brecwast – mae’r Gwasanaeth yn hyderus y bydd ei lefel perfformiad yn gwella erbyn y chwarter nesaf.

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a chododd nifer o faterion dilynol yr oedd yn dymuno cael eglurhad yn eu cylch gan y Swyddog fel a ganlyn –

           Y modd y mae unigolion sy’n cysgu allan fel grŵp arbennig o fregus yn cael eu trin a’r cyfrifoldeb tuag atynt

           Effaith (os o gwbl) cyflwyno credyd cynhwysol a gwneud i ffwrdd â’r cymhorthdal ystafell wely sbâr

           Argaeledd opsiynau llety addas ar hyd a lled yr Ynys

           Yr effaith ar y gwasanaeth yn sgil y toriad yn y gyllideb Ddigartrefedd fel rhan o’r broses o  resymoli’r gyllideb ar gyfer 2015/16. Ar y pwynt hwn, eglurodd y Pennaeth Adnoddau Dros Dro fod yr adolygiad gwasanaeth wedi sefydlu nad oedd y gyllideb hanesyddol o £250k a neilltuwyd i ddigartrefedd erioed wedi cael ei gwario’n gyfan gwbl a bod y gwariant gwirioneddol yn agosach at  £50k i £60k. Gwnaed yr arbediad ar ôl alinio’r gyllideb gyda gwariant yn y gorffennol. Fodd bynnag, gan mai cyllideb sy’n cael ei harwain gan y galw amdani yw hon, mae cronfa wrth gefn sylweddol wedi cael ei sefydlu er mwyn cwrdd ag unrhyw bwysau ychwanegol ar y gyllideb hon a chyllidebau eraill sy’n cael eu harwain gan y galw amdanynt. 

 

Nododd a derbyniodd y Pwyllgor y diweddariad ar y sefyllfa a gyflwynwyd gan y Rheolydd Opsiynau Tai.

 

           DP 23 a 24: Nifer y dyddiau a gollwyd oherwydd gwaharddiad dros dro – cynradd ac uwchradd 

 

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ysgrifenedig gan y Cyfarwyddwr Dysgu ac fe’i nodwyd. Nododd y Pwyllgor hefyd bod hwn yn faes y byddai’n dymuno parhau i’w fonitro yng nghyd-destun mewnbwn y Swyddog Lles.

 

           O ran perfformiad mewn perthynas ag absenoldeb salwch, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch lefel y gwelliant yng nghyd-destun perfformiad yn erbyn awdurdodau eraill yng Nghymru o ran y mesur hwn. Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Rhaglen Fusnes y gwelwyd gwelliant oddeutu 1 diwrnod fesul ALlC o gymharu â  2013/14. Ni fydd data cymharol ar gyfer awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ar gael tan yn ddiweddarach eleni ond mae cymhariaeth gydag awdurdodau eraill o faint tebyg yn seiliedig ar wybodaeth hanesyddol yn dangos fod perfformiad Ynys Môn yn salach. Er nad oes ateb syml i fynd i’r afael ag absenoldeb salwch, bydd yr Awdurdod yn ceisio sicrhau gwelliant drwy ddeall a rheoli’n well y rhesymau am yr absenoldeb salwch a thrwy ddatblygu a sylfaenu’n gadarn brosesau ac arferion rheoli da. Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i roi sylw i absenoldeb salwch a dygodd sylw at y gwerth o ddysgu o arferion da mewn awdurdodau eraill.  

           Nododd a chroesawodd y Pwyllgor y nifer o ganmoliaethau a dderbyniwyd ac a gofnodwyd ond awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol cael dadansoddiad o’r canmoliaethau fesul gwasanaeth neu adran. Yn ogystal, pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd cyfleu'r canmoliaethau i staff y gwasanaeth perthnasol.

           Yr un modd, nododd y Pwyllgor y byddai dadansoddiad pellach o ddangosyddion 10 ac 11 dan Rheoli Pobl o ran nifer y staff yn yr awdurdod cyfan gan gynnwys a heb gynnwys athrawon wedi bod yn ddefnyddiol. Gwnaed y pwynt cyffredinol gan y Pwyllgor y byddai efallai’n  ddefnyddiol cynnwys mwy o wybodaeth yn y cerdyn sgorio fel eglurhad ynghylch arwyddocâd rhai dangosyddion.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch y fethodoleg a ddefnyddir i benderfynu ar dargedau a lefel yr her i’r gwasanaethau. Holodd y Pwyllgor a oedd rhai o’r targedau a osodwyd ar gyfer gwasanaethau wedi bod yn realistig. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes y bydd y targedau/dangosyddion a’r chwarteli y maent wedi eu gosod ynddynt yn cael eu gwerthuso mewn gweithdai gyda’r Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol a hefyd gyda’r gwasanaethau er mwyn penderfynu a fyddai modd gwneud cynnydd pellach. Cadarnhaodd y Swyddog y bydd perfformiad mewn awdurdodau eraill sy’n perfformio i lefel uchel yn cael eu craffu.

           Nododd y Pwyllgor fod cydymffurfio gyda chais y Pwyllgor Gwaith i ymchwilio i feysydd perfformiad ‘Coch’ wedi cyfyngu ar y meysydd hynny (nid rhai Coch o angenrheidrwydd) y byddai’r Pwyllgor fel arall efallai wedi dymuno ymchwilio iddynt a dwyn sylw atynt yn y cyfarfod hwn. Dywedodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro y bydd y broses adrodd ar gyfer y cyfarfod nesaf yn dilyn y drefn arferol gyda’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch1 2015/16 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini cyn cael ei drafod gan y Pwyllgor Gwaith. 

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn llwyddo i’w gwella ar gyfer y dyfodol fel y cânt eu nodi yn adran 4.1 yr adroddiad.

           Nodi a derbyn y mesurau lliniaru mewn perthynas â’r meysydd a amlinellir yn 4.1 ynghyd â’r esboniadau a gafwyd ar lafar yn y cyfarfod o ran lliniaru meysydd sy’n tanberfformio yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi gofyn i’r Pwyllgor eu hystyried.

           Nodi hefyd y bydd gweithdai pellach yn cael eu cynnal gyda’r UDA/Pwyllgor Gwaith ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol er mwyn adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer 2015/16 ddiwedd mis Mai/Mehefin, 2015

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI: Y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes i ddarparu ar gyfer y Pwyllgor ddadansoddiad fesul gwasanaeth mewn perthynas â DP (10) ac (11) dan Rheoli Pobl a DP (06) dan Gwasanaeth Cwsmer.

Dogfennau ategol: