Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb - Canlyniad y Gyllideb Gyfalaf 2014/15

Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad y Gyllideb Gyfalaf am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgoradroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf am y cyfan o flwyddyn ariannol 2014/15.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf o £25m ar gyfer 2014/15 ar draws y Cronfeydd Cyffredinol a Thai gan gynnwys cyllid grant a chan gynnwys llithriad. Y canlyniad dros dro yn erbyn y gyllideb yw £21.3m sy’n cynrychioli gwariant 85%. Nid ystyrir bod y canlyniad yn broblemus oherwydd mae gwariant cyfalaf yn cynnwys eitemau a darnau o weithgaredd unwaith ac am byth sydd yn aml, yn parhau am flwyddyn neu ragor ac y gellir eu gohirio am nifer o resymau. Mae fformat y canlyniadau yn Atodiad B yn seiliedig ar y fformat a oedd yn cael ei ddefnyddio cyn 2014/15 ac o’r herwydd mae’n gyfyngedig o ran y manylion y mae’n eu darparu. Yn Atodiad C, gwelir y rhaglen gyfalaf yn y fformat diwygiedig sy’n rhoddi mwy o fanylion am y gwariant cyfalaf sydd wedi ei gynllunio. Wedi i’r broses o gymeradwyo’r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2015/16 gael ei sgriwtineiddio, dywedodd y Swyddog y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf er mwyn egluro’r pwysoliadau cyfalaf a ddefnyddiwyd fel rhan o’r broses honno. 

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth y pwyntiau isod 

 

           Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y diffyg sy’n parhau mewn perthynas â’r rhaglen ar gyfer gwella’r mân-ddaliadau sydd, ar ôl ei gario drosodd i 2015/16 yn £1.393m a holodd am yr hyn y bwriedir ei wneud i ostwng y diffyg ac i gyflymu’r broses ar gyfer gwerthu asedau. Cyfeirioddy Pwyllgor at lefel arwyddocaol y buddsoddiad yn y stad mân-ddaliadau ac awgrymodd y dylai’r Awdurdod fod yn edrych yn awr at sicrhau dychweliad ar yr ased hwn.  

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, er gwaethaf y sefyllfa o ran y mân-ddaliadau, fod y sefyllfa ar y cyfan gaiff ei hadlewyrchu yn yr adroddiad yn foddhaol.  Roedd yn cydnabod y pryder ynglŷn â’r rhaglen mân-ddaliadau oedd yn awr yn ei phumed flwyddyn (y flwyddyn derfynol) ac er bod perfformiad wedi gwella’n ddiweddar o ran lleihau’r diffyg a chynyddu derbyniadau cyfalaf, cadarnhaodd ei fod yn bwriadu ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin i gomisiynu dadansoddiad ar gynnydd gyda’r rhaglen gwella mân-ddaliadau, yn cynnwys camau y gellid eu cymryd i bontio’r diffyg.  Gan edrych i’r dyfodol, mae’n debyg y byddai hyd yn oed llai byth o arian ar gael ar gyfer y rhaglen gyfalaf sy’n golygu y bydd angen monitro pob cynllun yn ofalus, ac felly roedd y matrics sgorio ar gyfer 2015/16 yn cael ei gyflwyno.  Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio hefyd at fenthyca digefnogaeth fel ffordd newydd ond gostus serch hynny o ariannu gwariant cyfalaf.  Rhybuddiodd, er bod y cyfraddau llog dal yn isel, na fyddant yn aros yn isel am byth sy’n golygu bod angen i’r Awdurdod fod yn ofalus o ran y modd y mae’n gwario a benthyca.

 

Awgrymodd y Cadeirydd efallai bod y materion ynghylch y rhaglen gwella mân-ddaliadau yn faes y byddai’r Panel Canlyniad Sgriwtini ar reoli asedau yn dymuno ei ystyried hefyd.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro y byddai’r adroddiad arfaethedig y cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ato yn cynnwys dadansoddiad ariannol llawn o holl elfennau’r rhaglen gwella mân-ddaliadau a byddai’n ymgorffori gwerthoedd cynyddol, incwm rhent a buddsoddiad cyfalaf.  Roedd yn eilio barn yr Aelod Portffolio ynglŷn â’r risgiau o fenthyca, a dywedodd fel rheol gyffredinol fod pob £1 miliwn roedd yr Awdurdod yn ei fenthyca yn ychwanegu £40k at ei gostau refeniw.  Roedd angen i Aelodau fod yn ymwybodol o'r cyd-destun hwnnw wrth wneud penderfyniadau i fenthyca.

 

           Er yn nodi bod y lefel gwariant o 85% ar y rhaglen gyfalaf i’w weld yn dderbyniol, awgrymodd y Pwyllgor y dylai’r Awdurdod fod yn anelu am 100% o wariant ac er mwyn cyflawni hynny, roedd angen rhoi ystyriaeth i wella rheolaeth prosiectau fel y cânt eu cyflawni o fewn amserlenni a bod eu cyllidebau neilltuol yn cael eu gwario’n llawn.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro bod mater yn codi ynglŷn â rheoli prosiectau.  Fodd bynnag, roedd peth o’r llithriad o 2014/15 yn ei gwneud yn bosib i geisiadau penodol a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini gael eu hariannu fel rhan o wariant cyfalaf 2015/16, neu fel arall byddent wedi gorfod cael eu gwrthod.  Byddai darparu mwy o fanylder ar gynlluniau unigol fel rhan o’r fformat adrodd diwygiedig ar y rhaglen gyfalaf yn galluogi gwell sgriwtini ar gynnydd a chyflawniad prosiectau.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd gyda gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2014/15.

           Argymell i’r Pwyllgor Gwaith bod proses benodol yn cael ei chyflwyno ar gyfer rheoli prosiectau fel eu bod yn cyflawni oddi mewn i’r amserlenni ac yn cael eu gwario’n llawn.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: