Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb - Canlyniad Dros Dro y Gyllideb Refeniw 2014/15

Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad dros dro y Gyllideb Refeniw am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar sefyllfa ariannol dros dro y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2014/15 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro bod y Cyngor, ym mis Chwefror 2014, wedi gosod cyllideb refeniw net ar gyfer 2014/15 o £126.7m.  Roedd angen gwneud arbedion o £6.3m i’r gyllideb.  Y sefyllfa ariannol ddrafft yn gyffredinol yw tanwariant o £599k (0.47%) ac roedd yr adroddiad yn darparu eglurhad am amrywiaethau sylweddol rhwng y gwasanaethau.  Y gwasanaeth oedd yn perfformio waethaf oedd y Gwasanaeth Cyllid, a’r prif beth oedd yn gyfrifol am hyn oedd defnyddio staff asiantaeth i gynorthwyo gyda chau cyfrifon 2013/14.  Nid yw’r mwyafrif o’r staff hyn ar gontract bellach.  Yn ogystal â bod yn ganlyniad eithaf da i’r Cyngor, llwyddwyd i gyflawni hyn yng nghyd-destun bod rhai rheolwyr gwasanaeth yn gorfod cystadlu â symiau negyddol mawr yn eu cyllidebau ar ffurf arbedion i’w canfod.  Dywedodd y Swyddog fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi awgrymu ei fod yn dymuno parhau i fonitro’r rhaglen arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2015/16 a’i fod yn dymuno gwneud hynny ar sail chwarterol.  Cynigiodd y Cadeirydd y dylid gwneud i ffwrdd â’r ymrwymiad chwarterol ac y dylai’r Panel Sgriwtini Effeithlonrwydd y Gyllideb gwrdd pan fo hynny’n briodol, a chytunwyd i hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod llawer o waith wedi’i wneud i gyflawni’r rhaglen arbedion ar gyfer 2014/15.  Fe wnaed y difrod i gyllideb y Gwasanaeth Cyllid yn Chwarter 1 ac ers hynny mae wedi bod yn fater o reoli a chyfyngu’r gorwariant.  Mae’r canlyniadau wedi amlygu sawl maes lle bu gorwariant y byddai’n werth ymchwilio ymhellach iddynt e.e. costau trafnidiaeth addysg, Oriel Ynys Môn a chyllideb y Parc a Chyfleusterau Awyr Agored.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn

 

           Nododd y Pwyllgor er bod yr adroddiad yn dangos gostyngiad yn nifer y staff asiantaeth oedd yn cael eu cyflogi, roedd Cerdyn Sgorio Chwarter 4 yn dangos fod y nifer wedi cynyddu mewn gwirionedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod angen gwahaniaethu rhwng staff asiantaeth sy’n gweithio i gyflenwi swyddi gwag a’r rheini sydd wedi cael eu tynnu i mewn yn ychwanegol i staff y sefydliad.  O ran y Gwasanaeth Cyllid roedd gorwariant o £780k wedi cael ei ragweld ar ddechrau’r flwyddyn ac roedd hynny wedi lleihau erbyn diwedd y flwyddyn.  Mae costau trafnidiaeth ysgol ar hyn o bryd yn destun prosiect caffael ac mae’r gyllideb Parciau Hamdden a Chyfleusterau Awyr Agored yn enghraifft o gyllideb nad yw’n cydymffurfio â’r arbedion effeithlonrwydd a dderbyniwyd ar y pryd.

 

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ar raddfa’r  lleihad yn staff y Sefydliad fel y maes gwariant mwyaf. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro y byddai’n cylchredeg y wybodaeth honno i Aelodau’r Pwyllgor.   

 

           Roedd y Pwyllgor yn bryderus y byddai’r gwasanaethau hynny oedd wedi llwyddo i aros oddi mewn i'w cyllideb neu wedi cyflawni eu harbedion yn canfod eu hunain mewn sefyllfa lle byddent yn gorfod cario a/neu wneud i fyny am wasanaethau oedd wedi gorwario.  Awgrymwyd y byddai problemau’r gwasanaethau hynny ond yn gwaethygu gan y byddai’n rhaid iddynt ganfod arbedion pellach yn 2015/16 ar ben y rheini nad oeddent wedi eu gweithredu yn 2014/15.  Cyfeiriwyd yn benodol at orwariant corfforaethol e.e. Adran y Dirprwy Brif Weithredwr, a’r angen i ganolbwyntio ar y meysydd hyn er mwyn lleihau’r baich ar y gwasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cyhoedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro, yn achos adran y Dirprwy Brif Weithredwr, bod hwn yn faes lle rhoddwyd cyllideb negyddol i mewn fel arbediad i’w ganfod.  Gan ystyried fod hon yn adran fach a bod costau cyflog yn 60% i 70% roedd yn arbediad afrealistig i’w gyflawni heb gael gwared ar swyddi.  Er yn cydnabod y pwynt a wnaed ynglŷn â gwasanaethau oedd wedi tanwario yn gorfod cario’r rheini oedd wedi gorwario, dywedodd y Swyddog nad oedd yn wir bod gwasanaethau eraill wedi gorfod sybsideiddio’r Gwasanaeth Cyllid. 

 

Roedd angen i’r holl wasanaethau gydymffurfio â’u cyllidebau ac roedd hynny'r un mor wir i’r Adran Gyllid. Ni fyddai unrhyw orwariant adrannol fodd bynnag yn effeithio’r arian ar gael i wasanaethau eraill. Bydd y Cyngor yn mynd i’r afael â gorwariant gan unrhyw wasanaeth trwy ariannu o’r cronfeydd wrth gefn.  Ni ragwelir y bydd yr un sefyllfa yn digwydd eto eleni ac nid oes unrhyw wasanaeth yn wynebu sefyllfa o orwariant ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a roddir yng nghyswllt perfformiad ariannol 2014/15 a hefyd nodi bod y canlyniad a adroddir yn un dros dro hyd nes bod yr archwiliad statudol wedi’i gwblhau.

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn monitro meysydd lle bu gorwariant yn 2014/15 yn agos.

 

GWEITHRED YN CODI: Y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro i ddarparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor am sefyllfa staffio’r sefydliad a’r gostyngiadau.

Dogfennau ategol: