Eitem Rhaglen

Ymweliadau Addoli ar y Cyd

Trafod ymweliadau a wnaed a’r pro forma.

 

(Dogfennaeth arweiniol gan Cymdeithas CYSAGau Cymru a chan Estyn ynglyn ag ysgolion anenwadol ynghlwm)

Cofnodion:

Rhoddodd y CYSAG sylw i ymweliadau a wnaed gan Aelodau ac i ffurflen safonol arfaethedig ar gyfer cofnodi’r ymweliadau hynny a amlinellwyd gan yr Ymgynghorydd Her Gwe mewn cyflwyniad gweledol.

 

Cafwyd adroddiad llawn gwybodaeth gan y Cynghorydd Gwilym O. Jones ar ei ymweliadau i Ysgol y Fali ac Ysgol y Tywyn i arsylwi’r arferion addoli ar y cyd yn y ddwy ysgol. Ar adeg ei ymweliadau roedd yr arferion yn y ddwy ysgol yn seiliedig ar y thema rhoi diolch a’r teulu byd eang yn y naill ysgol ac ar y thema cyfeillgarwch yn y llall.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her Gwe at y cyd-destun addoli ar y cyd a dyletswyddau CYSAG fel y corff sy’n gyfrifol am fonitro addoli ar y cyd yn yr ysgolion hynny yn ei ardal i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r gofyn statudol i ddarparu gweithred ddyddiol o addoli ar y cyd ar gyfer yr holl ddysgwyr.  Dywedodd fod aelodau’r CYSAG wedi datgan eu bod yn fodlon cyflawni’r ddyletswydd honno trwy archwilio adroddiadau hunanwerthuso AG yr ysgolion, sy’n cynnwys adran ar addoli ar y cyd, a thrwy ymweld ag ysgolion. Dywedodd hefyd eu  bod wedi cael canllawiau gan Gymdeithas CYSAGau Cymru ac Estyn i'w cynorthwyo yn y dasg honno.  Pwrpas y ffurflen safonol yw darparu dull cyson a threfnus i aelodau’r CYSAG fedru cofnodi eu hymweliadau a chyflwyno sylwadau arnynt.  Cynigiodd y dylai’r ffurflen gynnwys darpariaeth ar ffurf ticio blwch i gofnodi’r agweddau a ganlyn -

 

           Y math o sesiynau addoli ar y cyd a arsylwyd;

           Y rheini sy’n arwain ac yn cyfrannu at y sesiwn;

           Hyd y sesiwn;

           Y thema(âu) a oedd yn sail ar gyfer y sesiwn;

           P'un a wahoddwyd pobl grefyddol o’r gymuned leol i gyfrannu;

           P'un a oedd gweddïo yn rhan o’r sesiwn neu p’un a adroddwyd hanesion o’r Beibl neu straeon moesol neu a ganwyd emynau;

           Pa 3 datganiad ym marn y sylwedydd oedd yn disgrifio orau’r sesiwn addoli ar y cyd a arsylwyd (darperir cyfres o ddatganiadau).

 

Croesawodd y CYSAG y ffurflen safonol fel ffordd o ddarparu fframwaith syml i’r Aelodau roi  adborth ar eu hymweliadau addoli ar y cyd mewn ffordd unffurf ac nad yw’n feirniadol, gyda’r amod y dylid ychwanegu adran ar gyferunrhyw sylwadau eraill”.  Cytunwyd i fwrw ymlaen ar y sail honno am gyfnod prawf.  Awgrymwyd hefyd y dylid codi’r mater gyda’r ysgolion trwy’r grwpiau strategol cynradd ac uwchradd i gael eu cefnogaeth ar gyfer y broses adrodd arfaethedig.  Cadarnhaodd y Cynrychiolwyr Athrawon ar y CYSAG eu bod yn gyfforddus gyda’r cynnig ar y ddealltwriaeth fod yr ysgolion yn cael gwybod am bwrpas y ffurflen safonol a sut y dylid ei defnyddio.

 

Ystyriodd y CYSAG sut y dylid rhannu’r wybodaeth ar y ffurflenni a gwblheir ac, ar ôl trafodaeth, cytunwyd fel a ganlyn -

 

           Trefnu i’r wybodaeth fod ar gael i’r ysgolion ac mai cyfrifoldeb yr aelod o’r CYSAG sydd wedi gwneud yr ymweliad addoli ar y cyd yw rhoi copi i’r ysgol o’r ffurflen safonol wedi iddi gael ei chwblhau.

           Wrth anfon y ffurflen ymlaen i’r Swyddog Addysg Gynradd (i’w chyflwyno i’r CYSAG) dylai’r aelod o’r CYSAG nodi a yw’r ysgol wedi cael y wybodaeth ai peidio neu, fel arall, dylai drefnu i’r Swyddog Addysg Gynradd anfon y wybodaeth ymlaen i’r ysgol.

 

Cytunwyd

 

           Derbyn y ffurflen arfaethedig ar gyfer cofnodi ymweliadau addoli ar y cyd ag ysgolion fel y cyflwynwyd hi gan yr Ymgynghorydd Her GwE, gan ychwanegu adran ar gyfer unrhyw sylwadau eraill.

           Bod y wybodaeth yn cael ei rhannu ar y llinellau a gynigwyd.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

           Ymgynghorydd Her GwE i gylchredeg y ffurflen safonol i Aelodau’r CYSAG

           Swyddog Addysg Gynradd i hysbysu’r ysgolion, trwy’r grwpiau strategol cynradd ac uwchradd, o bwrpas y ffurflen a sut y caiff ei defnyddio

Dogfennau ategol: