Derbyn diweddariad ar unrhyw fater perthnasol yn codi.
Cofnodion:
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr isod -
• Gan gyfeirio at y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Gorffennaf 2015, y cafodd wybod fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol perthnasol, yn unol â darpariaethau paragraff 4.6.16.10 y Cyfansoddiad, na fyddai’r trefniadau galw i mewn yn berthnasol i’r penderfyniad arfaethedig i ymgynghori ynghylch dyfodol cartref preswyl Heulfre oherwydd tybiwyd bod y mater yn un brys.
• Bod cyfarfodydd o’r Panelau Canlyniad Sgriwtini a Rheoli Asedau a Dileu Dyledion wedi cael eu cynnal ac wedi cychwyn yn addawol iawn. Cynhelir cyfarfod pellach o’r Panel Rheoli Asedau yn y dyddiau nesaf. Dywedodd wrth y Pwyllgor bod y Cynghorydd Llinos Medi Hughes wedi penderfynu sefyll i lawr fel Aelod o’r Panel Canlyniad Sgriwtini Dileu Dyledion oherwydd ymrwymiadau eraill a rhoes wahoddiad i unrhyw Aelod arall o’r Pwyllgor a oedd yn dymuno llenwi’r swydd wag i nodi eu diddordeb.
• Roedd Fforwm y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion Sgriwtini wedi cyfarfod yn ddiweddar. Cyfeiriodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro at y drafodaeth ar y sesiynau cymorth y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn bwriadu eu cynnal ar ddulliau sgriwtini a’r cyfarfod o’r Fforwm Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned a gynhelir y dydd Iau hwn 9 Gorffennaf fel materion o ddiddordeb i’r Pwyllgor yn codi o gyfarfod y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion Sgriwtini.
• Bod cyfarfodydd o’r Byrddau Rhaglen Trawsnewid yn mynd rhagddynt.
• Bod cyfarfod o Banel Sgriwtini mewn perthynas ag adolygiad achos Gwasanaethau Plant wedi cael ei gynnal. Roedd y Panel wedi ystyried amgylchiadau’r achos ynghyd â meysydd yn ymwneud â phroses, gweithdrefn a chyfathrebu a gwnaed argymhellion i wella ymarfer yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro ei bod wedi cael trafodaeth gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant ynglŷn â’r dull mwyaf priodol o ddwyn y darn o waith hwn i ben ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol arno.
• Roedd Aelodau wedi cael eu diweddaru ar gynnydd mewn perthynas â symud ymlaen gyda’r prosiect Gweithio’n Gallach yn y sesiwn friffio fisol i Aelodau ar 2 Gorffennaf a bod hynny felly wedi cwrdd â chais y Pwyllgor hwn am eglurhad ar y mater yn y cyfarfod blaenorol ym mis Mehefin.
• Mewn perthynas â chais gan Aelod am adroddiadau llawnach i Sgriwtini ar faterion yn ymwneud ag Iechyd Meddwl Oedolion ac Anableddau Dysgu Oedolion, dywedodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro ei bod wedi ymgynghori gyda Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â rhoddi sylw i’r mater hwn a’i fod ef wedi dweud wrthi y bydd yn cyfarfod gyda’i Reolwyr Gwasanaeth yn o fuan i ystyried rhaglen o bynciau posibl mewn perthynas ag iechyd meddwl oedolion ac anableddau dysgu oedolion y gellid eu cyflwyno i Sgriwtini drwy raglenni gwaith y ddau Bwyllgor. Ymgynghorwyd hefyd gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant oherwydd bod iechyd meddwl oedolion yn faes sy’n cael effaith ar y gwasanaethau plant a mater penodol iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Roedd sawl maes yn y Gwasanaethau Plant wedi cael eu nodi gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc yn eu Harddegau (CAMHS) i’w cynnwys fel eitemau ar raglenni gwaith y ddau Bwyllgor Sgriwtini. Ymgynghorir gyda Chadeiryddion y ddau Bwyllgor Sgriwtini ar rannu’r baich gwaith a sicrhau bod rhaglenni gwaith y naill Bwyllgor a’r llall yn gytbwys.
Nodwyd y diweddariad a dim camau gweithredu yn codi.