Eitem Rhaglen

Trefniadau'r Awdurdod Lleol i Gefnogi Diogelu Plant

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant ynglyn â’r adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant ar adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau sicrwydd ac atebolrwydd yr Awdurdod ar gyfer sicrhau bod trefniadau corfforaethol priodol ar gyfer diogelu wedi cael eu sefydlu ac yn gweithio’n effeithiol.  Roedd adroddiad llawn Swyddfa Archwilio Cymru ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad ynghyd â Chynllun Gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion SAC yn Atodiad 2.

 

Dygodd y Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu a Sicrwydd Ansawdd) sylw at yr isod fel pwyntiau allweddol i’r Pwyllgor -

 

  Mae nifer o’r argymhellion a wnaed yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru eisoes wedi cael eu gweithredu.

  Mae polisi diogelu wedi cael ei fabwysiadu a Bwrdd Diogelu Corfforaethol wedi cael ei sefydlu.

  Er bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod bod yr Awdurdod wedi sefydlu nifer o brosesau a threfniadau, mae hefyd yn nodi angen i -

 

  Gwblhau’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Diogelu

  Gynyddu perchenogaeth o’r agenda Ddiogelu ar draws y sefydliad.

  Sefydlu’n gadarn sicrwydd sefydliadol ynghylch swyddogaeth ddiogelu’r Awdurdod Lleol yn y broses o gynllunio busnes, rheoli risgiau sefydliadol a fframweithiau rheoli perfformiad.

  Sicrhau fod sefydlu trefniadau sgriwtini ffurfiol a rheolaidd mewn perthynas â diogelu yn cael blaenoriaeth ynghyd â chadarnhau fod gwaith archwilio mewnol yn cael ei wneud yn rheolaidd ar ddiogelu.   

 

  Bod proses i’r holl benaethiaid gwasanaeth nodi a llunio blaenoriaethau diogelu erbyn 2015/16 ar gyfer eu cynnwys mewn cynlluniau darparu gwasanaeth a fydd wedyn yn cael eu monitro drwy’r cerdyn sgorio Diogelu.

  Bydd adroddiad corfforaethol ar ddiogelu yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac i’r Byrddau Rhanbarthol Diogelu Plant ac Oedolion bob blwyddyn.

  Mae angen cwblhau’r rhaglen hyfforddiant diogelu a’i defnyddio ar draws y Cyngor ac mae angen rhoddi sylw penodol i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu mewn perthynas ag oedolion a phlant gyda chyfeiriad penodol at fasnachu plant, camddefnyddio plant yn rhywiol, camdriniaeth yn y cartref a chaethwasiaeth fodern.

  Mae nifer o’r polisïau allweddol a restrir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Polisi Diogelu wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru ac eithrio’r Polisi Gwirfoddoli, y Polisi Disgyblu a’r canllawiau ar ddefnyddio ataliaeth ac amser a bydd y rhain yn cael eu hadolygu yn unol â’r amserlenni a bennir yn y Cynllun Gweithredu.  

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r adroddiad gan mofyn sicrwydd mewn perthynas â’r canlynol

 

  Nododd y Pwyllgor fod SAC wedi dwyn sylw at y ffaith fod angen cwblhau ar frys saith o bwyntiau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu’r Polisi Diogelu sy’n ymwneud â hyfforddi staff ac Aelodau mewn materion diogelu sef gwaith sy’n mynd rhagddo a bod y Cyngor ychydig islaw’r cyfartaledd o ran nifer y bobl sydd wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu yn y 6 mis diwethaf.

  Nododd y Pwyllgor hefyd, er bod SAC yn cydnabod bod ymrwymiad clir ar ran y Cyngor i wella, roedd y cynnydd yn araf deg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu a Sicrwydd Ansawdd) fod hyfforddiant ar faterion diogelu, yn y gorffennol, wedi canolbwyntio’n benodol ar staff y Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a’i ymestyn i staff Gofal Cymdeithasol o asiantaethau eraill drwy’r Uned Datblygu’r Gweithlu.  Mae angen gwella ymwybyddiaeth o faterion diogelu ymysg staff ar draws Gwasanaethau’r Cyngor a darparu hyfforddiant ar themâu diogelu penodol sy’n arbennig o gyfredol sef masnachu mewn pobl, camddefnyddio plant yn rhywiol, caethwasiaeth fodern ac ati.  Meysydd yw’r rhain lle mae pwyslais cenedlaethol ar godi ymwybyddiaeth o risgiau i blant ac oedolion mewn cymunedau yn arbennig felly yng nghyd-destun achosion proffil uchel yn ddiweddar yn Rotherham a Swydd Oxford ynghyd ag achosion caethwasiaeth fodern y cafwyd gwybod amdanynt.  Mae swydd Cydlynydd Caethwasiaeth Fodern wedi cael ei sefydlu yn Heddlu Gogledd Cymru ac mae’n arwain prosiect penodol yn y maes hwn.  Fodd bynnag, mae angen cynnal ychwaneg o sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff allweddol yn y Cyngor a dylai Penaethiaid Gwasanaeth nodi staff allweddol y mae angen iddynt fod yn ymwybodol o faterion diogelu a’u deall.

 

Nododd y Pwyllgor yr eglurhad ac awgrymwyd y gall fod yn fuddiol ac yn ddefnyddiol efallai o ran codi ymwybyddiaeth o ddiogelu ar lefel gorfforaethol petai Cydlynydd Caethwasiaeth Fodern Heddlu Gogledd Cymru yn cael gwahoddiad i roddi cyflwyniad i’r Cyngor Sir.

 

  Yn wyneb achosion y rhoddwyd cyhoeddusrwydd mawr iddynt yn ddiweddar ar gam-drin oedolion mewn unedau iechyd meddwl, gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad fod Gweithwyr Cymdeithasol yn Ynys Môn sy’n gysylltiedig â chyfeiriadau iechyd meddwl wedi cael eu hyfforddi a bod ganddynt sgiliau addas i nodi arwyddion camdriniaeth.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod pob Gweithiwr Cymdeithasol yn derbyn hyfforddiant diogelu i lefel briodol.  Cydnabyddir bod angen i Weithwyr Cymdeithasol fod yn wyliadwrus a bydd angen dwyn hyn at eu sylw.

  Cyfeiriodd y Pwyllgor at athrawon ysgol fel staff allweddol o ran diogelu a thanlinellwyd pwysigrwydd cael eu hatborth nhw ynghylch priodoldeb unrhyw gyfeiriadau y maent yn eu gwneud neu achosion y maent yn dwyn sylw atynt a’u bod yn dawel eu meddwl nad ydynt yn torri rheolau cyfrinachedd.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu a Sicrwydd Ansawdd) bod y canllawiau ar gyfer staff dysgu mewn ysgolion a ryddhawyd ym mis Ionawr eleni - Cadw Disgyblion yn Ddiogel - yn fanwl o ran cyfrifoldebau staff dysgu mewn ysgolion mewn perthynas ag adrodd ynghylch pryderon gan nodi’n glir y llinellau adrodd a’r broses ar gyfer gwneud cyfeiriadau i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Rhoddir sylw arbennig i barchu cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth gyda’r rheini sy’n gwneud y cyfeiriadau ac o ran cadw cofnodiadau.

  Oherwydd pwysigrwydd diogelu fel swyddogaeth a’r ffaith ei fod yn thema gyffredin, ystyriodd y Pwyllgor a fyddai’n cwrdd â’i gyfrifoldeb i sgriwtineiddio diogelu yn well drwy dderbyn Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol gan y Pwyllgor llawn neu gan banel o Aelodau a fedrai roddi sylw manylach i’r adroddiad ac i ddiogelu fel pwnc.  Cytunwyd y dylid sefydlu Panel Sgriwtini ar yr adeg briodol.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol -

 

  Yn argymell bod y camau gwella a nodir yn Atodiad 2 yn yr adroddiad yn debygol o alluogi’r Awdurdod Lleol i gydymffurfio gyda’r argymhellion a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru.

  Yn cytuno i fonitro cydymffurfiaeth gyda’r gofynion ac i ddal Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn atebol am eu cwblhau.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a’r Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu a Sicrwydd Ansawdd) i wneud trefniadau i gynnal Panel o’r Pwyllgor hwn i sgriwtineiddio adroddiad blynyddol ar ddiogelu corfforaethol ar yr adeg briodol.

Dogfennau ategol: