Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro ar faterion a oedd yn parhau i fod angen sylw yn codi o’r cerdyn sgorio corfforaethol am Chwarter 4. Yn yr adroddiad, nodwyd ymateb y gwasanaeth i danberfformiad yn erbyn y 3 dangosydd perfformiad a nodir isod sy’n ffurfio cyfres o 6 o DP yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi eu cyfeirio i’r Pwyllgor i’w sgriwtineiddio o Ch4 (rhoddwyd sylw i’r 3 cyntaf yng nghyfarfod o’r Pwyllgor ar 10 Mehefin):
• SCA/01b – canran gofalwyr oedolion sydd wedi cael asesiad neu adolygiad o’u hanghenion yn ystod y flwyddyn.
Rhoes Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion eglurhad o ran y targed a gollwyd a chyfeiriodd yn benodol at nifer y gofalwyr a oedd wedi gwrthod asesiad (348) ac sydd hefyd yn cael eu cofnodi gan y dangosydd, fel ffactor dylanwadol allweddol yn y tanberfformiad yr adroddwyd arno. Dywedodd y Swyddog, o’r rheini a gytunodd i dderbyn asesiad yn 2014/15, roedd 564 (neu 92%) wedi derbyn asesiad yn y flwyddyn. Pan gaiff y rheini a wrthododd asesiad (348) eu ffactora i mewn, mae’r ganran yn gostwng i 57.1%
Nododd a derbyniodd y Pwyllgor yr eglurhad a gafwyd.
Gwnaed pwynt ynglŷn â’r angen i weithredu rhaglen hyfforddiant gynlluniedig ynghylch Alzheimer a Dementia yn y Cyngor. Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol i’r Cyngor fod mewn sefyllfa i gyflwyno ei hun fel sefydliad sy’n ymwybodol o anghenion unigolion gydag Alzheimer a Dementia ac sydd wedi datblygu rhaglen hyfforddiant penodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned y byddai’n rhoi sylw i’r mater hwn sy’n berthnasol o ran y Rhaglen Ranbarthol a Rhaglen Drawsnewid y Cyngor ei hun a hefyd yng nghyd-destun y Ddeddf Iechyd a Llesiant( Cymru).
• LCL/004 – nifer y deunyddiau llyfrgell a roddwyd allan yn ystod y flwyddyn.
Soniodd y Pennaeth Dysgu am yr isod fel ystyriaethau lliniarol -
• Er bod perfformiad yn erbyn y dangosydd wedi gostwng, gwelwyd cynnydd o 73k yn nifer yr ymweliadau i wasanaethau llyfrgelloedd. Nid yw pawb sy’n ymweld yn benthyca eitemau ymhob achos gyda nifer yn defnyddio gwasanaethau eraill megis y cynnig o gyngor ac ymchwil, ymholiadau a defnyddio cyfrifiaduron.
• Bydd y Gwasanaeth yn adrodd am y tro cyntaf eleni ar ddeunyddiau a “e-fenthyciwyd” a rhagwelir y bydd gwelliant sylweddol o ran nifer yr eitemau a roddwyd allan hefyd yn sgil lansio’r gwasanaeth e-adnodd newydd drwy Gonsortiwm Caffael Cymru Gyfan.
• Mae cyswllt clir rhwng y Gronfa Lyfrau a nifer y deunyddiau a roddir allan yn Ynys Môn gyda’r Gronfa Lyfra yn cael ei nodi fel isel yn adroddiad CYMAL am 2013/14. Cafodd cais i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn canolog i ychwanegu at y Gronfa Lyfrau yn ystod 2015/16 ei wrthod.
Nododd y Pwyllgor y sefyllfa gan dderbyn yr eglurhad a roddwyd o’r perfformiad yn erbyn y dangosydd.
• LCS/002b – nifer yr ymweliadau i ganolfannau chwaraeon a hamdden yr Awdurdod Lleol yn ystod y flwyddyn lle bydd yr ymwelydd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.
Dywedodd y Prif Swyddog Hamdden y gellir priodoli’r tanberfformiad yn erbyn y dangosydd hwn yn bennaf i gau Canolfan Hamdden Caergybi am 6 wythnos yn ystod Ch4 oherwydd prosiect cyfalaf i wella cyfleusterau. Yn ychwanegol at hynny, oedd y modd y cofnodwyd yn anghywir bresenoldeb disgyblion ysgol yng Nghanolfannau Hamdden Caergybi ac Amlwch oherwydd problem dechnegol gyda system reoli trefniadau llogi electronig y Canolfannau Hamdden. Dywedodd y Swyddog ei fod yn gobeithio medru adrodd ar yr ystadegau diwygiedig pan gaiff y rheini eu cadarnhau a’i fod yn hyderus y bydd y targed wedi ei gyflawni yn seiliedig ar ffigyrau’r gorffennol ar gyfer cyfraddau presenoldeb disgyblion ysgol.
Nododd a derbyniodd y Pwyllgor yr eglurhad. Yn ogystal, gwnaethpwyd y pwynt gan y Pwyllgor nad yw canolfannau hamdden y Sir a’r cyfleusterau y maent yn eu darparu yn cael eu hysbysebu’n ddigonol fel rhan o lenyddiaeth twristiaeth a digwyddiadau’r Awdurdod. Awgrymwyd y byddai rhoddi proffil uwch i’r canolfannau hamdden a’r pyllau nofio yn hybu niferoedd presenoldeb a lefelau incwm ar adeg pan mae adnoddau dan bwysau. Awgrymwyd ymhellach y dylid ystyried gwahodd swyddog o Adain Dwristiaeth yr Awdurdod i roddi cyflwyniad i’r Pwyllgor ar y strategaethau cyfredol ar gyfer hyrwyddo yr amrediad o atyniadau a chyfleusterau sydd ar gael ar yr Ynys.
Penderfynwyd nodi’r cyd-destun a’r gweithgareddau lliniarol mewn perthynas â pherfformiad yn erbyn y 3 dangosydd perfformiad a amlinellir ym mharagraffau 3.1, 3.2 a 3.3 yr adroddiad.
CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Prif Swyddog Hamdden i adrodd yn ôl i’r Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol o ran priodoldeb rhoddi i’r canolfannau hamdden a’r pyllau nofio mwy o amlygrwydd yn llenyddiaeth twristiaeth yr Awdurdod.
Dogfennau ategol: