Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys am 2014/15.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor i’w ystyried ac i graffu arno – Adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn ymgorffori'r Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys ar gyfer 2014/15. Roedd yr Adroddiad yn nodi’r sefyllfa alldro yng nghyswllt gweithgareddau trysorlys yn ystod y flwyddyn ac yn amlygu cydymffurfiaeth â pholisïau’r Cyngor fel y cymeradwywyd yn flaenorol gan yr Aelodau.
Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) y cawsai gwariant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ei ariannu drwy sawl ffynhonnell; yn wyneb cyfraddau llog y farchnad a risgiau credyd y gwrthbartïon ar hyn o bryd ac yn y dyfodol (rhoddwyd statws credyd y gwrthbartïon yn Atodiad 2), penderfynwyd parhau i fenthyca’n fewnol yn y tymor byr er mwyn lleihau’r risgiau a’r costau. Mae’r Cyngor wedi gweithredu’r strategaeth hon ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf hyd yma, ac o ganlyniad i barhau â’r dull hwn, gostyngodd y bwlch rhwng angen benthyca sylfaenol y Cyngor (CFR) a benthyca allanol i £19m yn ystod 2014/15. Dywedodd y swyddog fod CFR sy’n lleihau yn erbyn benthyca allanol wedi bod yn thema gyffredin yn y blynyddoedd diweddar a chadarnhaodd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â holl derfynau a dangosyddion darbodus y trysorlys a’i fod yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a gymeradwywyd. Adroddwyd yn flaenorol bod yr Awdurdod yn paratoi i ddod allan o’r system cymhorthdal CRT ar 2 Ebrill 2015, ac ar adeg adrodd ynghylch Chwarter 3 roedd yn hysbys y byddai’r arian i brynu allan yn cael ei gyllido trwy’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a bod swm y setliad a’r gyfradd llog ar y benthyciad eto i’w cadarnhau. Mae’r pryniant yn awr wedi’i gwblhau ac mae’r CRT yn ariannu ei hun erbyn hyn.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn -
• Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad, yn wyneb yr hinsawdd bresennol o fenthyca rhad, ynghylch a ddylai’r Cyngor fod yn edrych ar wneud y mwyaf o gyfleoedd i fenthyca. Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) pe bai’r Awdurdod yn allanoli ei holl fenthyca byddai’n golygu lleoli’r arian gyda gwrthbartïon yn y banciau a fyddai’n peri risg i’r Cyngor oherwydd y potensial i’r gwrthbartïon ddiffygdalu. Yn ogystal, yn y tymor byr byddai ddefnyddio ei arian ei hun yn galluogi’r Awdurdod i leihau costau benthyca. Nod y dull hwn yw’r rhoi’r gorau i enillion tymor byr a allai fod yn andwyol i’r Awdurdod yn y tymor hir. Mae’n bwysig asesu’r symudiad a ragwelir yn y marchnadoedd a’r amodau ar gyfer buddsoddi yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas. Cadarnhaodd y Swyddog eu bod yn cadw llygaid barhaus ar y sefyllfa.
• Ceisiodd y Pwyllgor sefydlu, yn wyneb y cyfraddau llog isaf ers blynyddoedd, a fyddai wedi bod yn fwy manteisiol i’r Awdurdod fabwysiadu strategaeth o ddefnyddio ei gapasiti benthyca i gynllunio buddsoddi yn ei bortffolio eiddo (nodwyd y portffolio mân-ddaliadau fel enghraifft), ac awgrymwyd fod y portffolio wedi cael ei adael i ddirywio i’r fath raddau fel bod angen gwaith adfer ar lawer mwy o gost erbyn hyn. Er yn cydnabod y pwynt hwn, dywedodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod rhaid cadw mewn cof fod benthyca arian yn dod â chostau refeniw ychwanegol hefyd. Os gellid dangos bod gwahaniaeth clir rhwng y swm a delir ar fenthyciadau a’r enillion a gafwyd ar fuddsoddiad dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, efallai y byddai wedi bod yn fanteisiol i’r Awdurdod fod wedi defnyddio dull o’r fath, ond ni ellir ond dod i’r casgliad hwnnw gyda’r fantais o edrych yn ôl. Fodd bynnag, mae yna opsiynau eraill y gellid bod wedi eu hystyried.
Penderfynwyd –
• Nodi y bydd y ffigurau yn yr adroddiad adolygu yn aros yn rhai dros dro hyd nes y caiff yr archwiliad ar Ddatganiad Cyfrifon 2014/15 ei gwblhau a’i arwyddo ac y bydd unrhyw addasiadau sylweddol o ganlyniad i’r ffigyrau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn cael eu hadrodd fel bo’n briodol.
• Nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro gwirioneddol ar gyfer 2014/15 yn yr adroddiad.
• Nodi a derbyn adroddiad yr Adolygiad Rheoli Trysorlys ar gyfer 2014/15 fel y’i cyflwynwyd a’i anfon ymlaen at y Pwyllgor Gwaith heb sylwadau ychwanegol.
Dogfennau ategol: