Eitem Rhaglen

Grantiau Blynyddol 2015/16

Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd yng nghyswllt yr uchod.

 

Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn dyrannu arian yn flynyddol i brosiectau yn y categorïau a ganlyn:-

 

·         Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach)

·         Grantiau eraill (grantiau bychain unwaith ac am byth yn bennaf)

 

Yng nghyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2015, penderfynwyd dirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol.  Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn hefyd y dylid cynyddu cyfyngiad y grant yng nghyswllt Grantiau Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon o £6,000 i £8,000.  Mae cyfyngiad ar gyfer grantiau bychain yn aros ar £1,000 ac mae’r terfyn cyllido uchaf i bob grant yn aros ar 80%.  Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2015, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn gynyddu’r terfyn uchaf a chyfradd y ganran gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a dderbynnir.

 

Mae’r swyddogion perthnasol o Gyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd cyhyd â phosib ac yn gyson â phenderfyniadau a meini prawf yr Ymddiriedolaeth a sefydlwyd yn y blynyddoedd blaenorol.  Mae argymhellion y swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B sydd ynghlwm yn yr adroddiad.  Caiff y ceisiadau hyn eu hystyried yn unol â’r meini prawf ar gyfer dyrannu grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, ac roedd copi o hwn ynghlwm fel Atodiad C i’r adroddiad.

 

Mae’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf 2015/16 fel a ganlyn :-

 

01

Clwb Pêl-droed Llangoed

Adnewyddu ystafelloedd newid         

£5,469

(Cymeradwyo’r grant uchod, mewn egwyddor, yn amodol ar dderbyn cyfrifon wedi eu harchwilio ac ar foddhad Swyddogion y Cyngor ynghylch sefyllfa ariannol y Clwb o fewn cyfnod o 2 fis)

 

02

Canolfan Gymuned David Hughes

Uwchraddio cegin a’r ystafell gyfagos

70% o’r gost cymwys, hyd at £2,715

 

(Cymeradwyo’r grant uchod, mewn egwyddor, yn amodol ar dderbyn amcanbrisiau pellach o fewn cyfnod o 2 fis)

 

04

Cyngor Plwyf Llangristiolus a Cherrigceinwen

 

Creu Cae Chwarae

£8,000

05

Cyngor Cymuned Llanfairpwllgwyngyll

Gwaith paratoi angenrheidiol ar gyfer neuadd newydd

DIM

 

(Mae’r arian a geisir ar gyfer gwaith paratoi ac mae risg na fyddai’r prosiect yn mynd yn ei flaen fel y disgwylir).

 

06

Canolfan Goffa Gymunedol Porthaethwy

 

Adnewyddu’r bwyler gwres

£2,968

07

Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru

Cefnogaeth i berson ifanc talentog lleol gyda chostau cystadlu ym Mhencampwriaethau’r DU

DIM

 

(Cynhaliwyd y gystadleuaeth cyn y cyfarfod hwn, felly nid yw’n gymwys)

 

08

Clwb Pêl-droed Pentraeth

Darparu draen cerrig i atal dŵr rhag mynd ar y cae

 

DIM

10

CRhA Ysgol Esceifiog

Prynu popty i’w roi ar ben bwrdd ac offer i roi profiad i ddisgyblion CA1 a CA2 ddysgu am fwyd, bwyta’n iach a pharatoi bwyd.

DIM

 

(Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi ysgolion, felly nid yw’r cais yn gymwys)

 

12

Pwyllgor Cae Chwarae Bodffordd

Atgyweirio arwyneb llawr diogelwch, prynu seddi a bin sbwriel

70% o’r gost gymwys hyd at £1,428

 

(Dyfarnwyd y grant er mai dim ond un amcan bris a dderbyniwyd oherwydd mai’r cwmni sy’n medru gwneud y gwaith atgyweirio yw’r unig gwmni o fewn pellter rhesymol).

13

Partneriaeth Moelfre

Codi plac coffa i gofio am 29 o arwyr lleol fu ynghlwm ag achub bywydau adeg trychineb y Royal Charter

 

£585

14

Clwb Pêl-droed Iau Tref Amlwch

 

Prynu cynwysyddion storio

£3,150

 

19

Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy

Arian ar gyfer darlithydd, llogi’r ysgol, treuliau’r ysgrifennydd, argraffu a llogi’r capel

DIM

 

(Wedi canfod cyllid amgen ar gyfer y cais hwn)

 

20

Cymdeithas Hanes Bro Goronwy

Cymorth ariannol tuag at gost siaradwyr, argraffu, llogi festri’r capel i gynnal cyfarfodydd, costau ysgrifenyddol.

DIM

 

Wedi canfod cyllid amgen ar gyfer y cais hwn)

 

21

Clwb Criced Bodedern

Prynu peiriannau torri gwair

£5,670

 

22

Clwb Rhwyfo Biwmares

Prynu ail gwch hir Celtaidd

£7,835

 

26

Amlwch Showstoppers

Prynu offer i’r grŵp allu recordio sioeau er mwyn cynhyrchu DVDs i’w gwerthu ac i ddarparu cofnod gweledol o sioeau ar gyfer hyfforddiant a gwerthuso.

 

£2,000

27

Clwb Pêl-droed Bro Goronwy

Cwblhau gwaith adnewyddu Portacabin, llawr newydd, 2 ddrws ac 1 ffenest.

 

£1,626

28

Cyngor Cymuned Y Fali

Troi ystafell yn y pafiliwn ym Mharc Mwd i ystafell gyfarfod/ cymunedol

 

£1,813

29

Heneiddio’n Dda Ynys Môn

Ariannu bws mini ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn y canolfannau Heneiddio’n Dda yn Amlwch ac yn Llangefni.

 

£2,500

30

Clwb Arlunio Moelfre

Prynu byrddau arddangos symudol

 

£1,408

31

Canolfan Geidiau Ynys Môn

Gwella cyfleusterau yn yr ystafell gweithgareddau, insiwleiddio’r adeilad a darparu goleuadau a gwresogi mwy effeithlon

 

£1,408

33

Cynllun Cyfeirio Ynys Môn

Darparu cefnogaeth un i un i blant oedran cyn ysgol gydag anghenion dysgu ychwanegol

DIM

 

(Byddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i ychwanegu at gyllid craidd a ddarperir gan y Cyngor Sir, felly nid yw’n gymwys).

 

34

Canolfan Gymunedol/ Neuadd yr Eglwys Llanfairpwll

 

Adnewyddu’r to

£8,000

35

Ffrindiau Parc Rhosybol

Datblygu ardal chwarae

£8,000

(Cymeradwyo’r grant uchod, mewn egwyddor, yn amodol ar dderbyn cyfrifon wedi eu harchwilio ac ar foddhad swyddogion y Cyngor ynghylch sefyllfa ariannol y clwb o fewn cyfnod o 2 fis)

 

37

Clwb Criced Porthaethwy

Prynu peiriant torri gwair a gwahanol ddarnau ategol

 

£5,161

38

Cyngor Tref Biwmares

Gwella cae chwarae Biwmares

£8,000

 

39

Rhieni a Ffrindiau Clwb Cybi

Prynu offer a darparu gweithgareddau ar gyfer aelodau’r clwb

 

DIM

 

(Diffyg gwybodaeth gyda’r cais)

 

41

Cyngor Cymuned Moelfre

Prynu offer chwarae

DIM

(Ddim yn gymwys gan ei fod wedi derbyn grant yn 2014/15)

 

42

Tudur Cyf. (Canolfan Ebeneser)

Darparu mynediad i’r anabl i’r brif fynedfa, a throsi ardal y llawr mezzanine i gyfleuster ychwanegol

£7,941

 

(Cymeradwyo’r grant uchod, mewn egwyddor, yn amodol ar dderbyn prawf o berchnogaeth yr adeilad o fewn 2 fis).

 

43

Côr Meibion Y Foel

Cynorthwyo’r Côr i gynhyrchu a marchnata ail CD

DIM

 

(Diffyg gwybodaeth gyda’r cais).

 

44

Canolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch

Gosod drysau ffrynt alwminiwm gyda gwydr dwbl a weithredir gyda phad gwthio wrth fynedfa’r adeilad.

DIM

 

(Ddim yn gymwys, wedi derbyn grant yn 2013/14)

 

45

Grŵp Chwarae Cyn-Ysgol Amlwch

Cyfrannu at gostau rhent y flwyddyn i ddod er mwyn ail-fuddsoddi yn y Cynllun Sicrwydd Ansawdd ac i wella'r man awyr agored.

DIM

 

(Nid yw grwpiau cyn-ysgol wedi derbyn cefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth yn flaenorol)

 

46

Clwb Plant Bach Llangefni

Byrddau, cadeiriau ac adnoddau dysgu i blant bach

DIM

 

(Diffyg gwybodaeth gyda’r cais)

 

47

Cylch Teulu

Darparu offer ar gyfer plant anabl yn y parc lleol oherwydd nad oes offer addas ar gael ar hyn o bryd.

DIM

 

(Nid yw cost y cynllun wedi cael ei amlinellu.  Nid yw’r cynllun wedi dangos faint maent yn gofyn amdano.  Hefyd nid yw lleoliad y parc wedi ei nodi. Heb ddarparu digon o wybodaeth i gefnogi).

 

49

Cambrian Deaf Foundation

Gwella datblygiad addysgol, cymdeithasol a chorfforol plant byddar

DIM

 

(Caiff y gwasanaeth ei gynnig trwy Gymru gyfan, oherwydd lefel isel y cyfeiriadau mae Cytundebau Lefel Gwasanaeth tebyg yn Ynys Môn wedi cael eu tynnu’n ôl am ei bod yn anodd profi gwerth am arian).

 

50

Ffrindiau Llangoed

Prynu offer chwarae

£5,497

(Cymeradwyo’r grant uchod, mewn egwyddor, yn amodol ar dderbyn cyfrifon wedi eu harchwilio ac ar foddhad swyddogion y Cyngor ynghylch sefyllfa ariannol y clwb o fewn cyfnod o 2 fis).

 

 

Mae’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellir ar gyfer Grantiau Bach yn 2015/16 fel a ganlyn:-

 

03

Tyddyn Môn

Creu gŵyl gerdd ar gyfer Tyddyn Môn. Annog a hwyluso oedolion gydag Anableddau Dysgu i ymgysylltu â chymryd rhan yn yr ŵyl, ennill sgiliau newydd a datblygu eu bywyd cymdeithasol a’u profiadau.

 

£1,000

09

Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru

Cyllido dau gontractwr am 6 mis i:-

(a)  ddod o hyd i, a chael gwared ar wiwerod llwyd sy’n croesi i Ynys Môn.

(b)  monitro iechyd gwiwerod coch

(c)  gweithio gyda busnesau a chymunedau i gynnal twristiaeth werdd mewn perthynas â gwiwerod coch.

 

£1,000

25

Gŵyl Fwyd Biwmares

Cynorthwyo gyda chostau sefydlu Gŵyl Fwyd Biwmares 2015

 

£1,000

32

Cymdeithas MS

Cyllido dosbarthiadau ymarfer a gynhelir yng Nghanolfan Hamdden Biwmares i bobl gydag MS

 

£1,000

40

Gŵyl Fwyd Môr Menai

Mynediad am ddim i’r ŵyl fwyd môr

 

£1,000

 

Dywedodd Aelodau’r Pwyllgor y dylai sefydliadau sy’n cyflwyno cais am grant i’r Ymddiriedolaeth Elusennol gael cynnig arweiniad a chymorth pellach pan fyddant yn llenwi’r ceisiadau am grant.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r symiau, fel y rhestrir uchod (£x) [ger y symiau a argymhellir], sef y gyfradd grant o 70%.

 

Dogfennau ategol: