Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2014/15

Cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd drafft o Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2014/15 i sylw’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad drafft yn gwerthuso’r canlyniadau a’r allbynnau yn erbyn amcanion gwella’r Cyngor ar gyfer 2014/15 fel yr amlinellir hwy trwy’r saith maes allweddol yn Nogfen Gyflawni Flynyddol 2014/15.

 

Pan gyflwynwyd y ddogfen ddrafft gychwynnol i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2015 dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod y Pwyllgor wedi nodi ar y pryd y byddai’n fuddiol pe bai’r ddogfen honno wedi cynnwys y canlyniadau yn erbyn dangosyddion perthnasol er mwyn medru asesu perfformiad y Cyngor trwy ddull mwy gwybodus ac ystyrlon.  Er bod yr adroddiad bellach yn ymgorffori gwybodaeth am ddangosyddion perfformiad a feincnodwyd yn erbyn awdurdodau eraill yng Nghymru, ac er bod y wybodaeth honno’n adlewyrchu gwelliant mewn perfformiad, mae’n seiliedig ar gyfrifiadau mewnol ac nid yw wedi’i gwirio gan Lywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu’r adroddiad drafft ac wedi cadarnhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r gofynion statudol a’i fod yn adroddiad cytbwys sy’n cymryd i ystyriaeth y meysydd  hynny y gellir eu gwella ymhellach yn ogystal â chyflawniadau.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chyflwynodd y sylwadau a ganlyn arno

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y ffaith fod y data perfformiad yn Nhabl 3 yr adroddiad yn  dangos bod Ynys Môn yn ail yn y gynghrair o awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â pherfformiad yn erbyn DP SCA/007 tra bod y naratif ar y dudalen honno yn cyfeirio at 4 DP yn y chwartel isaf.  Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol nad yw’r naratif yn cyfeirio at Dabl 3 ond mewn ffordd sy’n gyson ag asesiad SAC o’r adroddiad fel un cytbwys, mae’n cyfeirio at feysydd lle mae’r perfformiad yn erbyn DP perthnasol wedi bod yn wan mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion ac mae’n amlygu hefyd fod perfformiad yn erbyn dau o’r DP hynny wedi gwella ac mae’n darparu esboniadau lliniarol yn achos y ddau arall.  Er bod perfformiad Ynys Môn wedi gwella dygodd y Swyddog sylw penodol at y ffaith fod perfformiad awdurdodau eraill yng Nghymru wedi gwella mwy a bod hynny’n ffactor y mae angen ei gadw mewn cof wrth bennu targedau i’r dyfodol.

           Yng nghyd-destun hyrwyddo’r economi ymwelwyr, nododd y Pwyllgor y byddai unrhyw effaith yn sgil cau’r Ganolfan Groeso yn Llanfairpwll yn y flwyddyn ariannol hon yn cael ei gweld yn Adroddiad Perfformiad 2015/16 gan nodi y bydd yn dymuno sgriwtineiddio’r wybodaeth gymharol ar gyfer 2013/14, 2014/15 a 2015/16 ar yr amser priodol i asesu’n well effeithiau cau’r ganolfan.

           Mewn perthynas â sicrhau sgiliau ac adnoddau i foderneiddio isadeiledd er mwyn cefnogi ynni carbon isel nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gadarnhad yn yr adroddiad o gamau a gymerwyd i gwrdd â’r amcan penodol hwnnw.  Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod y Cynllun Corfforaethol yn ymwneud â chyfnod o 4 blynedd o 2013-2017 ac nad yw’n fwriad cyflawni pob un o’r dyheadau ynddo mewn un flwyddyncynlluniwyd i gyflawni rhai ohonynt yn hwyrach yn y cynllun sef yn 2015/16 a 2016/17.

           Mewn perthynas â thrawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion Hŷn a’r weledigaeth ar gyfer darparu gofal i oedolion a hyrwyddir gan y nod hwn, nododd y Pwyllgor fod angen i’r Awdurdod fod yn glir y medr gynnal cyfleusterau priodol a digonol yn y cyfnod trosiannol wrth iddo geisio gostwng dibyniaeth ar ddarpariaeth breswyl draddodiadol a sefydlu gwasanaethau yn y gymuned.  Roedd y Pwyllgor yn bryderus y gallai methiant i gynllunio ar gyfer y cyfnod trosiannol hwnnw beri risg, o bosib, i gyflawni’r weledigaeth gyffredinol.

           Mewn perthynas â gwella addysg, sgiliau a moderneiddio ysgolion, nododd y Pwyllgor y dirywiad yn y DP sy’n dangos canran y datganiadau terfynol o anghenion addysgol arbennig a gyhoeddwyd cyn pen 26 wythnos, gan gynnwys eithriadau, a nododd hefyd mai’r eglurhad a roddwyd am hynny yw’r oedi o ran derbyn mewnbwn gan y Gwasanaeth Iechyd.  Gofynnodd y Pwyllgor felly am eglurhad ar y gwahaniaeth yn safleoedd Gwynedd ac Ynys Môn yn y gynghrair ar gyfer y DP hwn gan fod Gwynedd yn perfformio’n well nag Ynys Môn er gwaethaf y ffaith fod y ddau gyngor yn dibynnu ar fewnbwn gan yr un Bwrdd Iechyd.  Er mwyn nodi’n ganolog y camau cywiro y bydd angen eu cymryd nododd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol bod gofyn cael trafodaethau pellach gyda’r Gwasanaeth Addysg sydd wedi dweud bod cyfraniadau hwyr gan y Gwasanaeth Iechyd yn ffactor.

           Nododd y Pwyllgor y gwahaniaeth sylweddol  ym mherfformiad y Cyngor mewn perthynas â Gwasanaethau Plant DP SCC/033F (canran y bobl ifanc a fu gynt yn derbyn gofal ac y mae’r awdurdod mewn cyswllt â hwy ac yn gwybod eu bod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn 19 oed) lle mae’n gyntaf yng Nghymru, a DP SCC/033d (canran y bobl ifanc a fu gynt yn derbyn gofal y mae’r awdurdod mewn cyswllt â hwy yn 19 oed) lle mae’r Cyngor yn olaf o’r 22 awdurdod yng Nghymru a gofynnodd am eglurhad am y gwahaniaeth hwn.  Dywedodd  Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod gwybodaeth a dderbynnir gan y gwasanaeth yn cael ei dwyn ynghyd i ddeall yn well y rhesymau am y dirywiad ym mherfformiad DP SCC/033d a’r camau sy'n cael eu cymryd i roi sylw i hynny.  Fodd bynnag, mae ffigwr gwaelodlin ar gyfer rhai o’r DP yn isel sy’n golygu y gall amrywiaethau bychain arwain at newidiadau dramatig yn ein safleoedd yn y chwarteli ac mae hynny’n wir am DP SCC/033d.

           Nododd y Pwyllgor fod Cyngor Sir Benfro yn perfformio’n dda’n gyson fel y tystiolaethir gan y tablau perfformiad a holodd a oes unrhyw weithdrefnau ar gyfer rhannu arferion da ar draws Cymru.  Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod yr awdurdodau yng Nghymru yn dysgu oddi wrth ei gilydd a bod grwpiau perfformiad ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol sy’n dadansoddi DP a’r perfformiad yn eu herbyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y gall canrannau fod yn gamarweiniol pan fo’r ffigyrau gwaelodlin yn isel yn y lle cyntaf ac y gall amrywiadau sylweddol ddigwydd o ganlyniad.  Y dasg allweddol yw tynnu allan y wybodaeth berthnasol ac edrych ar y tueddiadau er mwyn herio gwasanaethau i wella perfformiad.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r canlyniadau a’r allbynnau o’r adroddiad Perfformiad ynghyd â materion a godwyd gan y Pwyllgor ar gyfer her a dadansoddiad pellach.

           Cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2014/15 erbyn y dyddiad cau statudol ym mis Hydref a bod y Swyddogion yn ei gwblhau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: