Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2015/16

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Trawsnewid a oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy’n dangos y sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1 2015/16.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan y Pwyllgor ar y wybodaeth a gyflwynwyd

 

           Mewn perthynas â Rheoli Pobl, nododd y Pwyllgor gyda siom, er bod cyfraddau salwch yn gwella bob blwyddyn, fod sefyllfa’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 wedi dirywio o gymharu â llynedd a’i darged corfforaethol o 10 o ddyddiau am bob Gweithiwr Llawn Amser Cyfatebol.  Un o’r prif ffactorau oedd yn cyfrannu at y methiant i gyflawni’r targed corfforaethol o 2.5 o ddyddiau ar gyfer Chwarter 1 oedd cyfraddau salwch tymor hir sydd wedi gwaethygu’n sylweddol o gymharu â Chwarter 1 2013 a 2014.  Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn bwriadu sgriwtineiddio’r sefyllfa salwch yn fanylach yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Tachwedd.  Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod yr UDA a’r Penaethiaid wedi adnabod cyfraddau salwch tymor hir fel maes y mae angen rhoi sylw iddo i ddeall yn well y rhesymau am y dirywiad yn y perfformiad ac i benderfynu pa gamau y mae angen eu cymryd i wella’r sefyllfa gan gadw mewn cof bod angen trin staff sydd ar absenoldeb tymor hir ar sail achos wrth achos a rhoi pob cefnogaeth iddynt ddychwelyd i’r gwaith.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod angen sgriwtineiddio absenoldebau salwch yng nghyd-destun y meysydd gwasanaeth hynny lle maent yn cael yr effaith fwyaf.

           Nododd y Pwyllgor y gwelliant yng nghanran y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd gan awgrymu ymhellach y byddai’n fuddiol iddo dderbyn data ynghylch nifer y cyfweliadau a gwblhawyd y tu allan i’r polisi corfforaethol o 5 diwrnod gwaith.

           Mewn perthynas â DP 23 o dan Rheoli Perfformiad (nifer y dyddiau calendr a gymerir ar gyfartaledd i osod llety - heb gynnwys Llety sy’n Anodd eu Gosod) a oedd yn dangos yn Goch, dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Technegol Tai fod sawl uned yn y Gwasanaethau Tai wedi bod trwy gyfnod o drawsnewid gan gynnwys yr Uned Gosod Tai.  Dywedodd y Rheolydd Opsiynau Tai bod adolygiad yn cael ei gynnal o’r holl geisiadau am dai er mwyn ceisio cyfateb anghenion yr ymgeiswyr yn well gyda’r eiddo sydd ar gael i ostwng nifer y cynigion sy’n cael eu gwrthod a all gael effaith ar ddata perfformiad.  Nododd y Pwyllgor y byddai data ynglŷn â nifer y gwrthodiadau cyn Chwarter 2 yn fuddiol i’w gynorthwyo i gymharu perfformiad ac i sefydlu a fu unrhyw welliant o ganlyniad i’r camau a gymerwyd.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod gan ymgeiswyr hawl i wrthod 3 chynnig cyn eu hatal oddi ar y rhestr dai a fedr arafu’r broses gosod tai.  Pwysleisiodd y Pwyllgor y byddai cael gwybodaeth gywir gan yr ymgeiswyr ar eu ffurflenni ymgeisio o gymorth iddynt sicrhau o’r cychwyn cyntaf bod y llety a gynigir iddynt yn briodol ar gyfer eu hanghenion ac wrth eu bodd.

           Nododd y Pwyllgor y byddai sefydlu panel canlyniad sgriwtini ar gyfer Gosod Tai yn ychwanegu gwerthgan roi sylw penodol i’r ffactorau hynny sy’n cael effaith ar broses gosod tai’r Awdurdod Lleol.

           Nododd y Pwyllgor fod DP Ll/18B – y ganran o ofalwyr oedolion a oedd wedi gofyn am asesiad neu adolygiad ac a oedd wedi cael asesiad neu adolygiad yn ystod y flwyddynyn parhau i fod o dan y targed a’i fod wedi bod yn dangos yn Goch am sawl chwarter yn olynol.  Dywedodd  Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod y tanberfformiad yn Ch1 i’w briodoli i ddiffyg capasiti staffio gyda 50% o’r tîm gofalwyr yn absennol o’u gwaith oherwydd salwch am 6 wythnos yn ystod y chwarter cyntaf.  Nododd y Cadeirydd bod hwn yn faes arall lle'r oedd y Pwyllgor yn dymuno sefydlu panel canlyniad sgriwtini i gynnal archwiliad manylach o’r rhesymau sydd wrth wraidd y tanberfformio.

           Nododd y Pwyllgor ymhellach fod sawl DP Rheolaeth Ariannol yn dangos yn Goch yn Chwarter 1 a bod yr UDA a’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol trwy ei Banel Canlyniad Sgriwtini Arbedion Effeithlonrwydd yn monitro’r materion ariannol hynny.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel y dangosir yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2015/16.

           Nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dim Arweinyddiaeth yn llwyddo i’w gwella i’r dyfodol fel yr amlinellir ym mharagraff 1.3 yr adroddiad ynghyd â’r camau lliniaru a nodwyd.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI: Rheolydd Sgriwtini Dros Dro i gydlynu sefydlu’r ddau banel canlyniad sgriwtini ychwanegol y cyfeirir atynt uchod yn y Flwyddyn Newydd.

 

Dogfennau ategol: