Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ymgynghoriad Ffurfiol Ardaloedd Bro Rhosyr a Bro Aberffraw

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

Cofnodion:

Rhoes y Pennaeth Dysgu i’r Pwyllgor grynodeb o ymateb y cydranddeiliaid i’r ymgynghoriad ffurfiol a’r materion allweddol a oedd yn codi.

 

Rhoddwyd i’r Canon Robert Townsend, cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru ar y Pwyllgor Sgriwtini ar gyfer materion addysgol, y cyfle i ymhelaethu ar yr ystyriaethau a gyfrannodd at lunio’r farn y daeth Adran Addysg Esgobaeth Bangor iddi fel y’i nodir yn adran 11 yr Adroddiad ar yr Ymateb i’r Ymgynghoriad.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw gofalus i’r wybodaeth a gyflwynwyd ac yn y drafodaeth ddilynol, codwyd y materion isod

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch yr hyn yr oedd statws yr ysgol newydd arfaethedig fel Ysgol dan Reolaeth Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru yn ei olygu o ran rheolaeth, cymeriad ac arferion dydd i ddydd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod statws rheolaeth wirfoddol yn golygu bod yr Eglwys, ar adeg sefydlu’r ysgol yn wreiddiol, yn rhan o’r ysgol a dyna pam mae’r ysgol yn bodoli. O’r herwydd, mae’r Esgobaeth yn gweithredu fel ymddiriedolwr ar gyfer rhan o’r safle ac mae ganddi’r hawl i benodi chwarter o aelodau’r Corff Llywodraethu. Disgwylir i’r ysgol fod ag ethos Cristnogol a gweithred ddyddiol o addoliad yn unol â thraddodiad Cristnogol.  Disgwylir hefyd i’r Pennaeth, fel rhan o’i rôl, hyrwyddo cymeriad Cristnogol yr ysgol. Caiff cymeriad Cristnogol ac agweddau addoli ar y cyd ysgol yr Eglwys yng Nghymru eu harolygu gan yr Eglwys yn hytrach nag Estyn. 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y materion cyfreithiol sy’n codi yn sgil cau Canolfan Gymunedol Bodorgan a’r effaith bosibl ar y rhaglen foderneiddio a’r cynllun busnes yn Ne Orllewin Ynys Môn oni fedr y Cyngor werthu’r cyfleuster hwn. Oni fydd y ganolfan gymunedol yn cael ei gwerthu, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhaid ffactora hynny i mewn i’r Cynllun Busnes. Fodd bynnag, roedd ef yn hyderus y gellir datrys y materion cyfreithiol.

           Roedd y Pwyllgor, tra’n cydnabod bod yr ymgynghoriad anffurfiol yn drwyadl ac yn gynhwysol, o’r farn bod yr ymgynghoriad ffurfiol yn llai boddhaol er ei fod yn cydnabod fod y broses statudol wedi ei llesteirio gan yr hyn a bennir yn y gyfraith. Awgrymodd y Pwyllgor nad oedd statws Eglwys yr ysgol newydd arfaethedig yn agwedd a oedd wedi ei chyfleu mor glir ag y gellid yn yr adroddiad. 

           Gofynnodd y Pwyllgor a ymgynghorwyd yn ddigonol gyda chydranddeiliaid yn Nwyran, Bodorgan a Niwbwrch ar statws Eglwys yr ysgol newydd ac a oedd rhieni yn y cymunedau hynny’n gwerthfawrogi’n llawn yr hyn yr oedd hynny’n ei olygu. Cafwyd cynnig i ymgynghori ymhellach gyda’r cymunedau hyn ynghylch statws yr ysgol newydd cyn gwneud unrhyw argymhelliad penodol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr holl ysgolion a oedd yn rhan o’r ymgynghoriad wedi cael yr un cyflwyniad dan arweiniad y Swyddogion Addysg ar sail yr opsiynau a amlinellir yn nhabl 6.2 yr adroddiad sy’n glir ynghylch statws yr ysgol newydd. Mae’r dull a’r broses wedi bod yn gyson drwyddi draw. 

 

Yn y bleidlais a gafwyd wedyn ar y mater hwn, ni chafodd y cynnig i ohirio gwneud penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach ei gario.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch nifer y disgyblion y byddai’n rhaid eu cofrestru yn Ysgol Brynsiencyn i sicrhau ei dichonoldeb. Eglurodd y Pennaeth Dysgu fod rheoliad statudol ynghlwm â’r broses pan fydd nifer y disgyblion mewn ysgolion yn llai na 9.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, penderfynwyd argymell Opsiwn Option B4a i’r Pwyllgor Gwaith fel yr opsiwn y mae’r Pwyllgor yn ei ffafrio ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn ardaloedd Bro Rhosyr a Bro Aberffraw. (Ni wnaeth y Cynghorwyr Ann Griffith, Lewis Davies a R.Meirion Jones bleidleisio ar y mater).

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: