7.1 19C1145 – Byngalo Harbour View, Ffordd Turkey Shore, Caergybi
7.2 19LPA37B/CC – Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi, Caergybi
Cofnodion:
7.1 19C1145 – Cais llawn ar gyfer codi anecs yn Harbour View Bunglow, Ffordd Turkey Shore, Caergybi
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod yr Aelod Lleol wedi gofyn drwy e-bost i’r Pwyllgor ymweld â’r safle oherwydd pryderon ynghylch effeithiau’r cynnig ar eiddo y tu cefn i’r safle a’r posibilrwydd y byddent yn colli goleuni.
Dywedodd y Cynghorydd Raymond Jones y byddai’n dymuno i’r Pwyllgor weld safle’r cais er mwyn deall yn well y pryderon lleol a gwnaeth gynnig i’r perwyl hwnnw. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd ymweliad safle, yn ei farn ef, yn angenrheidiol oherwydd wedi ystyried popeth yn yr adroddiad, nid oedd yn credu bod unrhyw broblem o ran goleuni ac y byddai ymweld â’r safle ond yn achosi oedi o ran penderfynu ar y cais. Cynigiodd ef na ddylid ymweld â’r safle ac y dylid ystyried y cais yn uniongyrchol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr John Griffith, Kenneth Hughes, Victor Hughes, Raymond Jones a Richard Owain Jones o blaid ymweld â’r safle a phleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Ann Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts yn erbyn ymweliad safle. O’r herwydd, cariodd y bleidlais i gael ymweliad safle.
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol i asesu materion yn ymwneud â’r posibilrwydd o golli goleuni.
7.2 19LPA37B/CC – Cais llawn i ddymchwel rhan o’r adeilad cyfredol, gwaith altro ac ehangu er mwyn creu Ysgol Gynradd newydd ynghyd â ffurfio maes parcio ar Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor ydoedd ar dir yn ei feddiant. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2015, gohiriwyd ystyried y cais oherwydd camgymeriad yn y broses ymgynghori mewn perthynas ag Aelodau Lleol, camgymeriad sydd wedi cael ei gywiro erbyn hyn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais hyd yn ddiweddar, yn cael ei ddefnyddio fel rhan o gampws Ysgol Uwchradd Caergybi. Ers hynny, mae’n wag ac wedi mynd â’i ben iddo. Bydd y gwaith altro a gynigir fel rhan o’r datblygiad yn sicrhau cadwraeth yr adeilad rhestredig sydd yn bwysig i’r gymuned ac yn sicrhau ei fod yn parhau i gael ei ddefnyddio i bwrpas addysgol. Bydd ei leoliad yn ymyl yr Ysgol Uwchradd a chaeau chwaraeon Millbank yn ychwanegu at ganolbwynt addysgol yr ardal. Oherwydd bod safle’r ysgol wedi bod yn cael ei ddefnyddio i ddibenion addysgol ers ei adeiladu’n wreiddiol ac y bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio i’r perwyl hwnnw o ganlyniad i’r cynnig, roedd y Swyddog o’r farn, er y byddai’r ysgolion yn cael eu cyfuno ar un safle, na fyddai dwysau’r defnydd o ganlyniad i’r cynnig yn arwain at unrhyw effaith annerbyniol ar fwynderau trigolion lleol i’r graddau y byddai hynny’n cyfiawnhau gwrthod y cais. Dylid nodi mai un llythyr o wrthwynebiad yn unig a dderbyniwyd i’r cais. Roedd yr argymhelliad felly yn un o gymeradwyo ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn cael eu codi o ganlyniad i’r cyhoeddusrwydd ychwanegol mewn perthynas â’r manylion diwygiedig i roddi sylw i’r pryderon ynghylch dyluniad – yn yr achos hwnnw, bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac wedi i’r cyfnod ar gyfer hysbysu ac ymgynghori gyda chymdogion ddod i ben a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: