Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 19C845H – Holyhead Hotspurs, Caergybi

 

12.2 19C587C – Parc Felin Dwr, Llaingoch, Caergybi

 

12.3 39C18Q/1/VAR – Plot 22,Ty Mawr, Porthaethwy

 

12.4 40C323B – Bryn Hyfryd, Bryn Refail

Cofnodion:

12.1  19C845H – Cais llawn i osod caban symudol ar y safle i’w ddefnyddio fel siop gwerthu nwyddau’r clwb pêl-droed yn Holyhead Hotspurs, Caergybi.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir y mae wnelo’r cais ag ef. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19C58C – Cais llawn i godi 1 bynglo a 2 annedd bâr ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Caergybi fel y dynodwyd dan Bolisi 49 y Cynllun Lleol. Mae’r cae cyfan wedi cael ei neilltuo’n benodol ar gyfer tai yn y Cynllun Lleol.  Mae egwyddor y datblygiad o’r herwydd eisoes wedi ei sefydlu o ran polisi.  Ymhellach, mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle ar gyfer dwy annedd.  Roedd y cynllun fel y cafodd ei gyflwyno’n wreiddiol dan y cais am 4 annedd fel dau bâr o unedau tai pâr, ac mae wedi cael ei ddiwygio yn dilyn trafodaethau i roddi sylw i bryderon yn ymwneud â mwynderau eiddo cyfagos.  O ran dyluniad, mae’r cynnig yn adlewyrchu’r datblygiadau o’i gwmpas ac ystyrir nad yw’n anghydnaws gyda stadau preswyl yn y cyffiniau.  Yr argymhelliad felly oedd un o ganiatáu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, mynegodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones bryderon ynghylch effeithiau’r cynnig ar y cae chwarae a fydd yn cael ei gysgodi gan yr adeiladau deulawr arfaethedig ac a fydd hefyd yn tynnu oddi wrth ymdeimlad agored y cae – byddai 2 fyngalo yn well yn yr ardal ac yn cael llai o effaith ar yr ardal sydd union gerllaw.  Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais fel y cafodd ei gyflwyno a hynny o blaid diwygio’r cynllun i ganiatáu codi dau fyngalo a fyddai’n well o ystyried cyfyngiadau’r plot.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch maint y plot o gymharu â’r cae chwarae a’r eiddo cyfagos ynghyd â’r pellter rhwng y cae chwarae a’r datblygiad arfaethedig. 

 

Dangoswyd lluniau i’r Pwyllgor o ardal y plot a sut y byddai’r cynnig yn edrych yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y plot yr un fath o ran maint a’r unig newid yw bod y cais yn awr am fyngalo a phâr o ddwy uned deulawr bâr ac yn flaenorol roedd yn gais am ddau bâr o unedau deulawr pâr.  Mae’r cyfan o’r tai yn yr ardal sydd union gyfagos yn edrych dros y cae chwarae.  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oes byffer digonol rhwng y plot a’r cae chwarae, dywedodd y Swyddog fod pellter o rhwng 7 i 8m rhwng cefn yr eiddo â chefn y plot.  Gan gymryd yr holl faterion i ystyriaeth, nid ystyriwyd bod y cynnig yn un afresymol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans na allai weld bod unrhyw golli mwynderau yn yr achos hwn oherwydd na fyddai’r cynnig yn cael effaith uniongyrchol ar y cae pêl-droed na’r llecyn chwarae a chynigiodd y dylid caniatáu’r cais.  Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod y Pwyllgor wedi bod yn rhedeg ers tair awr (dygwyd cais 13.1 ymlaen i’w ystyried yn gynharach ar drefn rhaglen y cyfarfod ac ystyriwyd 7.1 a 12.4 dan eitem 5 dan Siarad Cyhoeddus), ac yn unol â darpariaethau paragraff 4.1.10 Cyfansoddiad y Cyngor, roedd angen i fwyafrif Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn bresennol wneud penderfyniad i barhau gyda’r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai’r cyfarfod barhau.

 

12.3  39C18Q/1/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) o ganiatâd cynllunio rhif 39C18H/DA (codi 21 o anheddau) fel y gellir newid y dyluniad ym Mhlot 22, Tŷ Mawr, Porthaethwy.

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i newid dyluniad o gymharu â’r cynllun a gymeradwywyd dan gais 39C18H/DA yn 1996 ar gyfer 21 o anheddau ar dir yn Tŷ Mawr.  Yn wreiddiol, y bwriad oedd codi lefel plot 22 ond diwygiwyd y cynnig ar ôl derbyn gwrthwynebiadau a galw’r cais i mewn a bellach, mae’n ymwneud â chodi annedd gyda garej sengl ar wahân (yn hytrach na’r cais gwreiddiol a gymeradwywyd dan y cais uchod yn 1996 ar gyfer anheddau a chanddynt garej integredig).  Cafodd lefel y llawr ei newid i’r lefel wreiddiol a gymeradwywyd dan y cynllun yn 1996.  Bydd y palet o ddeunyddiau yn cydweddu â phlot 23 cyfagos a gymeradwywyd yn ddiweddar dan gais i ddiwygio edrychiad allanol y datblygiad ar blot 23.  Nid ystyrir bod y newid hwn mewn dyluniad yn annerbyniol oherwydd mae stad Tŷ Mawr yn cynnwys eiddo o feintiau, dyluniadau a gosodiadau gwahanol a bydd y datblygiad yn parhau gyda’r palet o ddeunyddiau a gymeradwywyd yn achos plot 23.  O’r herwydd, roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Rhoes y Cynghorydd R. Meirion Jones ei safbwynt ef fel Aelod Lleol a dywedodd bod Stad Tŷ Mawr wedi cael ei sefydlu ers 20 mlynedd a bod cymeriad y stad yn gyson a bod yr eiddo sydd ar y stad yn ffurfio teulu o anheddau sydd â’r un edrychiad a nodweddion.  Dywedodd ei fod ef o’r farn y câi’r datblygiad arfaethedig effaith ar y stad oherwydd bod ganddo garej ar wahân yn hytrach nag un integredig a bod hynny yn anghydnaws â gweddill y tai.  Mae newid i ddyluniad ac edrychiad plot 23 eisoes wedi’i ganiatáu a bydd newid pellach i ddyluniad ac edrychiad plot 22 yn parhau gyda’r mân newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r cynlluniau a gymeradwywyd yn wreiddiol gan danseilio undod y stad gyfan.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones i’r Pwyllgor bwyso a mesur y cais yn ofalus yn erbyn y gwrthwynebiadau neu, fel arall, ystyried ymweld â’r safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gall canfyddiad o ddyluniad fod yn beth goddrychol a bod y stad wedi esblygu dros gyfnod o amser mewn modd sy’n adlewyrchu’r defnydd a wneir o ddeunyddiau newydd.  Er bod yr hyn a gynigir rywfaint yn wahanol i’r cynllun gwreiddiol, nid oedd y cynnig, ym marn y Swyddog,  yn annerbyniol o ystyried ei gyd-destun.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  40C323B – Cais llawn ar gyfer codi annedd, gosod gwaith trin carthion ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir gyferbyn â Bryn Hyfryd, Brynrefail

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Ffiona Hughes annerch y cyfarfod fel un sy’n gwrthwynebu’r cais. 

 

Dygodd Miss Hughes sylw at y pwyntiau isod o wrthwynebiad mewn perthynas â’r cais -

 

           Mae trigolion lleol yn siomedig y caniatawyd cais amlinellol ar gyfer annedd ar y safle hwn yn y lle cyntaf.

           Bydd y cynnig yn wynebu’r tai cyfagos yn lle priffordd yr A5025 ac o’r herwydd, caiff effaith negyddol ar breifatrwydd a bydd yn cysgodi Bryn Hyfryd.  Petai’r cynnig yn wynebu’r A5025 byddai hynny’n golygu parhad yn llif naturiol y pentref.

           Tra’n derbyn nad oes gan unrhyw un hawl i olygfa, mae’n beth digalon i fod yn byw mewn ardal a gydnabyddir fel un o Harddwch Naturiol a thalu am eiddo a hysbysebwyd fel un a chanddo olygfa ac yna peidio medru gweld y gwyrddni naturiol tra’n ymlacio yn eich cartref.  Bydd yr annedd newydd arfaethedig y gofynnwyd amdani yn wynebu Bryn Hyfryd a bydd yn cuddio’n llwyr yr olygfa y mae’n ei fwynhau ar hyn o bryd.

           Yn adroddiad y Swyddog, nodir bod pellter digonol rhwng yr A5025 a mynedfa’r annedd arfaethedig.  Fodd bynnag, ym marn y trigolion, mae angen mwy na 11m.  Mae’n pryderu trigolion bod y fynedfa mor agos i’r briffordd oherwydd digwyddodd sawl damwain yn yr ardal hon.  Mewn damwain yn ddiweddar, cludwyd 2 i Ysbyty Gwynedd.

           Mae deiseb sy’n cefnogi’r cynnig yn seiliedig ar godi bwthyn ar y safle ond mae’r cais fel y’i cyflwynwyd i’r Cyngor yn un am annedd deulawr.

           Am resymau colli preifatrwydd, colli goleuni naturiol a cholli golygfa ac oherwydd pryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd, mae trigolion yn gwrthwynebu’r cais a gofynnir i’r Pwyllgor roddi sylw i’r pryderon hyn a’r effaith a gâi’r cynnig ar Bryn Hyfryd ac ar eiddo cyfagos.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Miss Hughes ar y bwriad gwreiddiol sef codi bwthyn.  Dywedodd Miss Hughes ei bod hi ar ddeall mai’r bwriad gwreiddiol oedd codi byngalo unllawr ond ei bod ar ddeall yn awr bod y cynllun yn un i godi annedd deulawr.  Byddai annedd a fyddai’n llai ac yn is gan golygu y byddai modd gweld y golygfeydd o Bryn Hyfryd wedi bod yn fwy derbyniol.  Fel y mae, bydd y cynnig ar ei hyd yn wynebu Bryn Hyfryd a byddai wedi bod yn fwy naturiol ac yn gwneud mwy o synnwyr ac yn fwy cydnaws â phatrwm cyfredol y datblygiadau yn yr ardal petai’n wynebu’r A5025.

 

Anerchodd Mr. Geoff Brown, dylunydd pensaernïol yr eiddo arfaethedig ac asiant yr ymgeisydd, y Pwyllgor i gefnogi’r cais fel a ganlyn.

 

           Mae’r cais yn un a gefnogir yn llawn gan Swyddogion ac mae’n cydymffurfio’n llwyr gyda’r caniatâd amlinellol presennol ar y safle sef cais am dŷ yn hytrach na byngalo.

           Byddai trefniadau mynediad yr un fath â’r trefniadau a gymeradwywyd yn y caniatâd amlinellol.

           Mae’r cynnig yn is ac yn llai o ran ei ôl-troed na’r un a gymeradwywyd dan y caniatâd amlinellol.  Mae’n llai nac y gallai fod wedi bod er mwyn lleihau’r effaith ar yr eiddo cyfagos.  Mae’r eiddo wedi ei alinio fel mai’r arwyneb lleiaf posib sy’n wynebu’r eiddo cyfagos.

           Yr eiddo cyfagos agosaf yw Bryn Hyfryd sydd 35m i ffwrdd gyda hynny’n bellach o lawer na’r safon sylfaenol ar gyfer pellter rhwng anheddau.  Mae’r tŷ ar ongl i’r gorllewin felly nid oes modd edrych drosto’n uniongyrchol o unrhyw ffenestri yn y tŷ arfaethedig.

           Oherwydd gogwydd Bryn Hyfryd, mae’r llinell welededd uniongyrchol yn mynd heibio ffryntiad y cynnig felly nid yw’n cael unrhyw effaith o ran goleuni naturiol neu breifatrwydd.

           Mae’r cynnig wedi’i ddylunio o ran y deunyddiau a ddefnyddir i gyd-fynd â’r eiddo o amgylch ac mae’r manylion hynny wedi’u cytuno gyda’r Swyddogion Cynllunio.

           Mae’r ddeiseb a gyflwynwyd o blaid y cynnig yn cynnwys llofnodion o blith preswylwyr y 3 eiddo sydd wedi eu lleoli’n union gyferbyn â safle’r cais.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch dimensiynau’r cynnig o gymharu â’r rheini a gymeradwywyd yn y cam amlinellol a chawsant wybod gan Mr. Brown fod y cynnig yn awr am annedd sy’n mesur 7.3m i uchder y grib (o gymharu â 7.75m dan y caniatâd amlinellol) a bod cyfanswm ôl-troed yr annedd yn 130m2 (o gymharu â 144m2 dan y caniatâd amlinellol) ac ar gais, dangoswyd cynllun o’r safle.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig ar raddfa lai na’r annedd ddeulawr y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar ei chyfer yn 2013 dan awdurdod dirprwyedig.  Derbyniwyd pedwar llythyr yn gwrthwynebu, tri o’r rhain gan yr un person, a’r unig fater newydd a godwyd yn y rhain yw cyfeiriad at ddamwain ar y ffordd yn y pentref.  Y prif ystyriaethau cynllunio sy’n berthnasol yn yr achos hwn yw a yw’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi, a’i effeithiau o ran materion o bwysigrwydd cydnabyddedig h.y. ar fwynderau’r eiddo cyfagos, ar yr AHNE a diogelwch y briffordd.  Barn y Swyddog yw bod y cynnig yn cydymffurfio â gofynion Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac na fydd yn amharu ar fwynderau eiddo cyfagos; ni fydd yn edrych allan o’i le ar gornel gyffordd ac ni fydd yn effeithio ar ansawdd y dirwedd ehangach yn yr ardal i’r fath raddau fel y byddai’n cyfiawnhau  gwrthod.  Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig ar sail diogelwch y ffordd.  Felly argymhellir fod y cynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi derbyn adroddiad damwain gan yr Heddlu yng nghyswllt y ddamwain traffig a adroddwyd yn y pentref, ond deallir mai camgymeriad y gyrrwr oedd yn ffactor yn hytrach na’r gyffordd ei hun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams (Aelod Lleol) mai mater o amwynder a chysondeb oedd hyn ac na fedrai ddeall, pan fo’r adroddiad ysgrifenedig yn nodi fod yr eiddo yn yr ardal yn wynebu’r A5025 neu tua’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Moelfre, sut oedd y cynnig yn cael ei argymell i’w gymeradwyo pan fo’n wynebu i gyfeiriad gwahanol i’r eiddo hynny.  Byddai hefyd yn anghydnaws gyda’r ardal. Hollti blew yw dweud y byddai’r cynnig yn cael ei leoli fel na fyddai ond yn wynebu Bryn Hyfryd yn rhannol, pan ei fod yn amlwg yn wynebu’r eiddo ac felly’n codi materion ynghylch preifatrwydd ac amwynder.  Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais ac i ofyn i’r ymgeisydd ailgyflwyno’r cais fel bod y cynnig yn wynebu’r A5025 neu yng nghyfeiriad Moelfre i fod yn gyson â’r clwstwr presennol o eiddo yn yr ardal.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr adroddiad ysgrifenedig yn nodi bod yr eiddo yn yr ardal yn wynebu priffordd, ond nid ydynt oll o reidrwydd yn wynebu priffordd yr A5025.  O ran preifatrwydd a mwynderau, mater i’r Pwyllgor yw pwyso a mesur yr ystyriaethau yn yr adroddiad a dod i gasgliad arnynt.

 

Roedd y Pwyllgor wedi’i rannu’n ddau o ran haeddiannau’r cais; roedd rhai Aelodau o blaid cymeradwyo yn seiliedig ar y caniatâd cynllunio amlinellol oedd eisoes yn bodoli ar safle’r cais ond mynegodd aelodau eraill amheuon ar sail yr hyn roeddent yn ei ddehongli fel diffyg cydymffurfiaeth â Pholisi 50 a’r meini prawf ynddo, o ystyried fod safle’r cais mewn cae agored mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Roedd yr Aelodau eraill yn dal i feddwl bod angen gwybodaeth bellach cyn gwneud penderfyniad.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod caniatâd amlinellol eisoes wedi’i gymeradwyo a chynigiodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes a ddywedodd, er ei fod yn cydymdeimlo gyda’r ddadl ynghylch colli golygfeydd naturiol, nad oedd hynny’n ystyriaeth gynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y cais yn cael ei ohirio i adael amser i’r Pwyllgor gael gwybodaeth ychwanegol cyn gwneud penderfyniad ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes fod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd nad oedd yn fodlon bod y cais yn cwrdd â meini prawf Polisi 50 ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ann Griffith.

 

Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’n anodd cefnogi penderfyniad i wrthod am y rheswm nad yw’n cydymffurfio â Pholisi 50 gan fod caniatâd amlinellol eisoes yn bodoli ar safle’r cais.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans a Kenneth Hughes i gymeradwyo’r cais; pleidleisiodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Richard Owain Jones i ohirio a phleidleisiodd y Cynghorwyr Victor Hughes, Ann Griffith, John Griffith, Raymond Jones a W. T. Hughes i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Y rheswm a roddwyd am wrthod y cais oedd y byddai’r datblygiad oherwydd ei gyfeiriadedd arfaethedig yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r eiddo cyfagos, ac yn effeithio’n weledol ar yr AHNE.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodir.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, caiff y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r Swyddogion ymateb i'r rheswm a roddwyd dros wrthod y cais.

 

Dogfennau ategol: