Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

Cofnodion:

13.1    46C427K/TR/EIA/ECON - Cais cynllunio amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer: Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys porthdai a bythynnod newydd; adeilad canolbwynt canolog newydd yn cynnwys derbynfa gyda chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr isdrofannol dan do, neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai ac adwerthu; adeilad canolog newydd ar gyfer Marchnad Ffermwyr; adeilad hamdden a sba canolog newydd; canolfan chwaraeon dŵr a chaffi newydd ar safle'r hen Dŷ Cwch; dymchwel y Baddondy ac adeiladu bwyty ar ei safle; dymchwel adeiladau eraill gan gynnwys tair ysgubor amaethyddol a thair annedd; darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r Llwybr Arfordirol gan gynnwys: rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar o goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; creu trywydd cerfluniau a llwybrau pren newydd trwy goetir a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.

 

Tir yn Cae Glas: Codi llety a chyfleusterau pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: hyd at 315 o borthdai i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer gweithwyr niwclear; adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; gwesty newydd; adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, adwerthu a bar; cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Canolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: porthdai ac adeiladau cyfleuster wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o borthdai i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Chanolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.

 

Tir yn Kingsland: Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i'w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys: hyd at 320 o dai newydd i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn ddatblygiad preswyl a fyddai'n cynnwys: hyd at 320 o anheddau mewn tirwedd o safon uchel a llecynnau agored.

 

Bydd datblygiadau atodol ar gyfer pob cam o'r gwaith datblygu, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer parcio, ardaloedd gwasanaeth, llecynnau agored a pheiriannau\gwaith. Manylion llawn ar gyfer newid defnydd yr adeiladau Stad gyfredol ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi gan gynnwys newid defnydd: Tŵr y Beili ac adeiladau allanol yn Fferm Penrhos o dŷ clwb criced i fod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr, bwyty, caffi, bariau ac adwerthu; Ysgubor y Fferm ac Adeiladau Trol o fod yn adeiladau fferm i fod yn ganolfan ar gyfer hurio beiciau ac offer chwaraeon; Y Tŵr o ddefnydd preswyl i fod yn llety i reolwyr a swyddfa atodol; a Thŷ Beddmanarch o annedd i fod yn ganolfan ymwelwyr.

 

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio yn rhoi manylion canlyniad trafodaethau pellach ynghylch y cais, wedi’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Mehefin, 2015.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr adroddiad uchod yn dilyn o’r adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Mehefin 2015 pan benderfynwyd y byddai telerau’r Cytundeb Adran 106 yn gysylltiedig â’r cynigion Land & Lakes yn dod yn ôl i’r Pwyllgor cyn cwblhau’r cytundeb.  Dywedodd y Swyddog er bod nifer fach o faterion yn weddill oedd angen eu trefnu’n derfynol cyn y gellid cwblhau’r cytundeb, mae materion wedi mynd yn eu blaenau ac o ganlyniad, mae mwy o fanylder yn awr ar gael mewn perthynas â phob maes darpariaeth a chaiff hyn ei adlewyrchu yn yr adroddiad.  Aethpwyd â’r pryderon a godwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin yn ôl at y datblygwr ac mae hynny wedi arwain at ailymweld â rhai meysydd, gan gynnwys y pryder allweddol ynghylch sicrhau y rhoddir mesurau diogelu digonol mewn lle fel na ellir ond datblygu’r defnyddiau etifeddiaeth os yw’r safle’n cael ei ddefnyddio fel llety i weithwyr niwclear yn gyntaf.

 

Aeth Mr. Gary Soloman, Burges Salmon ymlaen i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed gyda thrafodaethau a/neu gytundeb ar delerau penawdau penodol ers y cyfarfod ar 3 Mehefin a chyhoeddi’r adroddiad fel a ganlyn:-

 

           Addysg (1) – mae’r datblygwr a’r Cyngor wedi cytuno i gyfraniad o £1.604m sydd bellach yn cynnwys darpariaeth cyn-ysgol a lleoliadau mewn canolfannau Iaith Gymraeg.

           Gofal Meddygol (2) – mae’r Cyngor yn cynnig y dylai’r ymgeisydd wneud cyfraniad cyfalaf ariannol o hyd at £600k tuag at lety sydd ei angen i gwrdd â’r gofyn am wasanaethau Meddyg Teulu ychwanegol a £178k ar gyfer y galw am ddeintyddion.  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi asesu bod angen £1m sy’n gadael gwahaniaeth o thua £200k.  Mae yna hefyd fater arall ynglŷn â chyfraniad refeniw – mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o’r farn y gellid gwneud cais priodol am gyfraniad o’r fath ac mae’n edrych i mewn i’r mater cyn cyflwyno ffigwr am y swm.  Darllenodd Mr. Gary Solomon e-bost gan BIPBC yn crynhoi ei sefyllfa.

           Hamdden (3) / Nofio (4) / Llyfrgell (5) – fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r cyfarfod ar 3 Mehefin.

           Yr Heddlu (6) – mae cyfraniad o £2.759m yn awr wedi’i gytuno rhwng y Cyngor, y datblygwr a’r Heddlu gyda chyllid wrth gefn o bron i £700k.

           Ambiwlans/Tân (7) – mae’r Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans wedi asesu lefel y ddarpariaeth sydd ei hangen gan gasglu y byddent angen £676,740 a £1.1m bob un. Mae angen gwirio’r ffigyrau hynny a’r fethodoleg y maent yn seiliedig arni.

           Gwasanaethau Cymdeithasol Plant (8) – cytunwyd ar ffigwr o £56k i £58k y flwyddyn am gyllid ar gyfer gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol am gyfnod o 5 mlynedd yng nghyswllt effaith y gweithwyr niwclear.  Fodd bynnag, yn dilyn pryderon a godwyd yng nghyfarfod mis Mehefin mewn perthynas ag amseriad a hyd y penodiad, bydd y ddarpariaeth yn dechrau o fewn 12 mis cyn i’r gweithwyr niwclear cyntaf ddechrau byw yn y datblygiad a chaiff ei ymestyn am hyd i 5 mlynedd arall pe bai’r Cyngor yn asesu bod angen parhaus am swyddog o’r fath.

           Penawdau Telerau (9) i (15) – fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r cyfarfod ar 3 Mehefin. 

           Cynllun Teithio Gwyrdd (16) a Chludiant Cyhoeddus (17) – cytunwyd ar gyfraniad cyfalaf cludiant cyhoeddus o £200k ynghyd â chyfraniad blynyddol wedi hynny o £200k tra bod gweithwyr niwclear yn parhau i breswylio yn y datblygiad, tuag at ddarparu gwasanaeth bws gwennol rhwng wardiau canol tref Caergybi, Kingsland a Ffordd Llundain.

           Penawdau Telerau (18) i (32) – fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r cyfarfod ar 3 Mehefin.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a’r wybodaeth a ddarparwyd ar lafar ynglŷn â’r Penawdau Telerau, ac yn y drafodaeth ddilynol ar y cais codwyd y materion a ganlyn fel meysydd y tybia’r Pwyllgor oedd angen eglurhad a sicrwydd pellach arnynt -

 

           Gan gyfeirio at y cytundeb bod rhaid i’r datblygwr darparu 50% o’r tai yn Kingsland fel tai fforddiadwy (a fydd yn anheddau ar y farchnad ar ddisgownt o 30% o’u gwerth ar y farchnad agored), cwestiynodd y Pwyllgor y ddarpariaeth amgen a gyflwynwyd sef y gall y datblygwr ddewis talu swm yn gyfnewid i’r Cyngor sy’n cyfateb i’r gostyngiad o 30%, ar y sail os mai’r bwriad yw cynnig y ddarpariaeth fel tai fforddiadwy gyda gostyngiad o 30% ar y gwerth marchnad agored, y dylai’r gostyngiad fod ar gyfer yr unigolyn neu fel arall y Cyngor fydd ar ei ennill ac nid y prynwr.  Dywedodd Mr. Gary Soloman y byddai’n fudd o 30% i’r Cyngor er mwyn darparu tai fforddiadwy yn rhywle arall.

           Nododd y Pwyllgor fod y cyllid wrth gefn o £689k ar gyfer yr Heddlu er mwyn darparu uned ddalfa yng Nghaergybi os tybir bod angen darpariaeth o’r fath, a nodwyd hefyd nad oedd unrhyw wybodaeth ar gael ynghylch amcangyfrif o’r nifer tebygol fyddai’n defnyddio’r ddarpariaeth hon.  Crybwyllwyd yn y cyd-destun hwn y byddai Caergybi o bosib yn colli ei Lys Ynadon fel rhan o broses gau arfaethedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder a gofynnwyd i’r Swyddogion godi’r mater fel risg yn eu trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y gellid anfon y pryder a fynegwyd ymlaen at yr Heddlu ond na ellid ei gynnwys yn y Cytundeb Adran 106 gan ei fod tu hwnt i’w gylch gwaith.

           Nododd y Pwyllgor fod Pennawd Telerau (8) Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn cyfeirio at oedolion bregus ond nad oes adran bennawd ar wahân i ymdrin yn benodol â darpariaeth ar gyfer oedolion bregus.  Dywedodd Mr. Gary Soloman, ar adeg cymeradwyo, yr ystyriwyd mai dim ond y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant oedd yn fater arwyddocaol.  Tybiwyd ei bod yn briodol sefydlu Côd Ymarfer a gallai hwnnw gynnwys oedolion bregus er gwaethaf y ffaith nad yw oedolion bregus yn ffurfio rhan o’r Pennawd Telerau.

           Gan gyfeirio eto at Bennawd Telerau (8), cwestiynodd y Pwyllgor y dewis o weithiwr cymdeithasol ymgynghorol yn hytrach na gweithiwr cymdeithasol sefydliadol ar y sail bod anogaeth bellach i beidio defnyddio ymgynghorwyr.

           Gan gyfeirio at Bennawd Telerau (2) Gofal Meddygol, nododd y Pwyllgor mai dim ond yn ddiweddar oedd BIPBC wedi bod yn rhan o’r trafodaethau a cheisiodd sicrwydd fod lefel y cyfraniad y mae’r Bwrdd wedi’i asesu sydd ei angen yn seiliedig ar fethodoleg gadarn a bod modd amddiffyn y fethodoleg honno.  Cadarnhaodd  Mr. Gary Soloman fod BIPBC erbyn hyn yn ymwneud yn llawn â’r broses ac wedi darparu ffigwr dangosol yn seiliedig ar asesiad cychwynnol ar gyfer y cyfarfod hwn.  Disgwylir am y manylion ac ni chaiff y ffigwr ei gytuno hyd nes bod sicrwydd ei fod yn ffigwr gadarn.  Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod ymgynghoriadau helaeth wedi digwydd gyda BIPBC yn ystod y deufis blaenorol a bod ganddo ffydd yn y trafodaethau hynny ac y byddent yn dwyn ffrwyth yn fuan.

           Nododd y Pwyllgor fod nifer o’r cyrff yr ymgynghorwyd â hwy yn sefydliadau rhanbarthol a cheisiodd sicrwydd y byddai’r cyllid a gytunwyd yn cael ei wario mewn perthynas ag Ynys Môn ac na fyddai’n cael ei gyfeirio i gronfeydd canolog y sefydliadau hynny.  Cadarnhaodd Mr. Gary Soloman y byddai’r arian a gytunwyd yn cael ei ddefnyddio’n lleol.

           Ceisiodd y Pwyllgor gael sicrwydd, o ystyried maint y cyfraniadau dan sylw ac amserlen y prosiect, y byddai’r arian y gwnaed ymrwymiad iddo wirioneddol yn cyrraedd yr Ynys.  Nododd y Pwyllgor dan Bennawd Telerau (28), Darpariaethau Cyffredinol, y byddai gofyn darparu bondiau yn gysylltiedig ag amryw o ofynion yn y cytundeb i sicrhau y cânt eu cyflawni ond pennwyd fod angen llawer mwy o fanylder er mwyn i’r Pwyllgor allu gwerthfawrogi sut byddai’r bondiau’n cael eu sefydlu a sut y byddent yn gweithio’n ymarferol.  Dywedodd Mr. Gary Soloman fod bondiau yn ffordd safonol o sicrhau rhwymedigaethau Adran 106 a’u bod yn gweithio fel arfer trwy sefydlu bond cyn cam penodol yn y datblygiad yn ddibynnol ar ba bryd mae taliad yn ddyledus; weithiau gyda phrosiectau ar raddfa fawr gellir sefydlu bond ar lefel sy’n ymgorffori oes y datblygiad – mae math y bondiau fyddai’n cael eu darparu i’w benderfynu eto.  Rhoddir y bondiau mewn lle fel mesur diogelwch i sicrhau y bydd y datblygu’n dod i stop os na thelir yr arian sy’n ddyledus ar wahanol bwyntiau.

 

Rhoddwyd y cyfle i’r Cynghorydd R. Llewelyn Jones siarad o flaen y Pwyllgor fel Aelod Lleol.  Erfyniodd y Cynghorydd Jones ar i’r Pwyllgor drin a thrafod yn ofalus cyn derbyn y Penawdau Telerau fel y’u cyflwynwyd ac i fod yn hollol fodlon bod telerau’r Cytundeb Adran 106 yn gredadwy ac y gellir eu cyflawni.  Cyfeiriodd at y diffyg eglurder ynghylch sut byddai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen a nododd nad oedd amserlen benodol neu ddilyniant o ddigwyddiadau.  Pwysleisiodd fod diffyg gwybodaeth ynghylch y costau cyffredinol ac o ran sut byddai’r datblygwr yn cwrdd â’r ymrwymiadau.  Awgrymodd fod angen mwy o wybodaeth gefndirol yn enwedig o ran dealltwriaeth ar ran Horizon y byddai’n gwneud defnydd o’r elfennau hynny o’r datblygiad a gynigir ar gyfer Cae Glas a Kingsland.  Gofynnodd i’r Pwyllgor beidio â derbyn yr argymhellion oherwydd cwestiynau oedd heb atebion neu fel arall i ohirio derbyn yr argymhellion hyd nes y ceir cadarnhad gan y Gwasanaeth Adfywio Economaidd ynghylch dichonoldeb y cynllun. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y rhoddwyd sylw i haeddiannau’r cais ar adeg ei gymeradwyo ym mis Tachwedd 2013.  Treuliwyd llawer o amser ac ymdrech ers hynny ar lunio a ffurfio Cytundeb Adran 106 ac felly nid oedd yn derbyn nad oedd y cytundeb yn gredadwy.  Cadarnhaodd hefyd nad oes unrhyw gontract ar hyn o bryd rhwng Horizon a’r ymgeisydd, Land & Lakes Ltd.  Oni cheir contract ni fyddai’r rhannau hynny o’r datblygiad sy’n gysylltiedig â Chae Glas a Kingsland yn mynd yn eu blaenau.  Mae’r Adran Economaidd ac Adfywio wedi bod ynghlwm â’r trafodaethau ac wedi bod yn awyddus i sicrhau y gwneir y mwyaf o’r buddion sy’n deillio o’r cynllun ac y caiff effeithiau eu lliniaru trwy amodau cynllunio a chytundeb cyfreithiol.

 

Dywedodd Mr. Gary Soloman fod rhai o’r materion a godwyd gan yr Aelod Lleol yn derbyn sylw yn y cyfyngiadau manwl a gynigir yn y cytundeb cyfreithiol a chaiff y rhain eu nodi ym mharagraffau 1.1 i 5.1 yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r cyfyngiadau arfaethedig fel y’u cyflwynwyd gan wneud y sylwadau a ganlyn arnynt –

 

           Roedd y Pwyllgor yn bryderus am y telerau ynglŷn â meddiannaeth llety’r gweithwyr niwclear yn unol â pharagraff 2.2 ac awgrymodd nad yw’r amod o lefel feddiannaeth o 50% ar gyfer Cae Glas yn rhoi digon o sicrwydd.

           Mynegodd y Pwyllgor bryder hefyd ynglŷn â’r meini prawf cymhwyso ar gyfer defnydd etifeddol fel y nodir ym mharagraff 3.2 ac awgrymodd y dylid ailymweld â’r maen prawf oedd yn nodi “meddiannu gan o leiaf 2 weithiwr niwclear am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf”.

           Ategodd y Pwyllgor ei bryderon ynglŷn â’r diffyg manylder mewn perthynas â sefydlu graddfa’r llygredd ar dir yng Nghae Glas, y mesurau sydd eu hangen i ymdrin â hynny a’r costau cysylltiedig.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Achos Cynllunio Arweiniol y rhoddwyd dau amod cynllunio mewn lle i ymdrin â’r mater o lygredd fel yr adroddwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ar 3 Mehefin.  Mae amod (36) yn mynnu bod rhaid cyflwyno strategaeth adfer a chynllun monitro a chynnal a chadw ar gyfer llygryddion i’r Awdurdod Cynllunio i’w cymeradwyo, ac mae amod (37) yn mynnu na fydd unrhyw ran o’r datblygiad a effeithir gan lygryddion yn cael ei defnyddio o gwbl hyd nes y caiff mesurau yn y strategaeth adfer eu cyflwyno a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio hefyd fod Adain Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod yn fodlon gyda’r amodau hynny.

 

Er yn nodi’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i’r cyfarfod a’r sefyllfa a gyrhaeddwyd ynglŷn â’r Penawdau Telerau, nid oedd y mwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor yn teimlo eu bod mewn sefyllfa yn y cyfarfod heddiw i allu cymeradwyo’r Cytundeb Adran 106 yn derfynol heb dderbyn gwybodaeth a sicrwydd pellach ynghylch y materion penodol a godwyd yng nghyswllt y Penawdau Telerau a’r cyfyngiadau. Y rheini oedd –

 

           Eglurhad ynghylch materion llygredd yng Nghae Glas a’r gofynion arfaethedig

           Sut y bydd yr arian a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio/ei wario

           Y cyfyngiadau mewn perthynas â chyflawni’r defnyddiau etifeddiaeth

           Cyflawni/defnyddio Cae Glas mewn perthynas â Phenrhos

           Bondiau

           Darpariaeth o ran gwasanaethau argyfwng

           Darpariaeth o ran gwasanaethau cymdeithasol

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y penderfyniad yn cael ei ohirio er mwyn derbyn eglurhad pellach o’r materion a godwyd yn y cyfarfod hwn fel y’u rhestrir uchod.  Eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig.  Dywedodd yr Aelodau y byddai o gymorth iddynt hwy pe gellid trafod y materion hynny mewn sesiwn anffurfiol gyda Swyddogion cyn i adroddiad pellach arnynt gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y mater hyd nes derbynnir adroddiad pellach gan y Swyddogion yn rhoddi eglurhad o'r materion penodol a godwyd.

Dogfennau ategol: