Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  19C1145Byngalo Harbour View, Ffordd Turkey Shore, Caergybi

7.2  25C28C – The Bull Inn, Llanerchymedd

7.3  25C250Tregarwen, Coedana, Llanerchymedd

7.4  34LPA1013/FR/EIA/CC – Ffordd Gyswllt, Llangefni

7.5  34C304F/1/ECON – Coleg Menai, Llangefni

7.6  36C338Ysgol Henblas, Llangristiolus

7.7  40C323B – Bryn Hyfryd, Bryn Refail

 

Cofnodion:

7.1  19C1145 – Cais llawn ar gyfer codi anecs yn Harbour View Bunglow, Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Mehefin 2015, penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn disgwyl am gadarnhad ynglŷn â pherchnogaeth y ffordd fynediad i’r annedd. Cafwyd cadarnhad erbyn hyn mai’r Cyngor sydd biau’r trac mynediad o Ffordd Turkey Shore i’r safle a bod gan yr ymgeisydd hawl mynediad ar hyd y trac. Mae’r trac sydd yn union gerllaw’r annedd yn eiddo i’r ymgeisydd a deallir fod gan eiddo eraill hawl tramwy arno. Yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, 2015 penderfynodd yr Aelodau gynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 19 Awst, 2015.   

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Dennis Ryder annerch y cyfarfod i gefnogi ei gais. Nododd Mr Ryder y byddai’r anecs yn cael ei ddefnyddio gan ei chwaer yng nghyfraith a fyddai’n gofalu amdano oherwydd ei salwch.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  25C28C – Cais llawn i ddymchwel y ty tafarn presennol ynghyd â’r adeiladau cysylltiedig yn The Bull Inn, Llannerch-y-medd.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.   

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y cais wedi cael ei dynnu'n ôl.

Nodwyd bod y cais wedi ei dynnu'n ôl.

 

7.3  25C250 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd a gosod system trin carthion yn cynnwys manylion llawn am fynediad i gerbydau ar dir ger Tregarwen, Coedana, Llannerch-y-medd

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond mae modd ei gefnogi dan ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Cafodd y cais ei ohirio yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod apêl cynllunio yn y cyffiniau sy’n codi materion y byddai’r Swyddogion Cynllunio yn dymuno eu hystyried cyn cyflwyno argymhelliad a phenderfynu ar y mater.

 

Dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes ei fod ef yn ystyried y dylid cymeradwyo’r cais gan mai cais cynllunio amlinellol ydyw am annedd ar gyfer teulu lleol. Credai y dylid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun ac nid yn amodol ar apêl cynllunio arall yn y cyffiniau.  Mae’r cais yn dderbyniol dan ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac mae hefyd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru.  Mae’r Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi’r cais ond mae ganddo rai pryderon ynglŷn â mynediad i’r safle. Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo. Nid oedd unrhyw eilydd i’r cynnig hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais gan ei fod yn ymwthio i gefn gwlad. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig i wrthod y cais.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

7.4  34LPA1013/FR/EIA/CC – Cais llawn i adeiladu ffordd gyswllt a fydd yn cynnwys cylchfan newydd ar yr A5114, gwelliannau i’r biffordd rhwng yr A5114 a’r gylchfan gyfredol ar ben deheuol Ffordd y Stad Ddiwydiannol ac adeiladu ffordd newydd rhwng y pwynt hwn a Pharc Busnes Bryn Cefni ac o’r gogledd o Barc Busnes Bryn Cefni i Goleg Meani trwy’r B5420, Ffordd Penmynydd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir oedd yn cyflwyno’r cais.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Huw Percy annerch y cyfarfod fel un oedd yn cefnogi’r cais.  Amlygodd Mr. Percy y pwyntiau pwysig a ganlyn i’r Pwyllgor:

 

  • Mae Stad Ddiwydiannol Llangefni wedi cael ei dynodi’n Barth Menter ac mae’n un o ddim ond 7 safle yng Nghymru.
  • Mae Coleg Menai wedi cael y cyfle i ehangu a datblygu. Bydd y coleg yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ifanc gymryd mantais o gyfleoedd cyflogaeth yn Wylfa Newydd.  Disgwylir y bydd nifer y myfyrwyr yng Ngholeg Menai yn cynyddu o 3,000 i 8,000 yn ystod y blynyddoedd nesaf.
  • Bydd y cais hwn sydd gerbron y Pwyllgor yn gwella’r isadeiledd priffyrdd i ymdopi â’r cynnydd mewn traffig yn ardal Llangefni.
  • Nododd ei bod yn anochel y bydd eiddo yn cael eu heffeithio a bydd rhaid torri coed er mwyn rhoi lle i’r isadeiledd ffyrdd newydd.

 

Cwestiynodd y Pwyllgor Mr. Percy a oedd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r isadeiledd ffyrdd newydd.  Atebodd Mr. Percy y bydd y cynllun yn denu grantiau ac y bydd y tir sydd ym mherchnogaeth Coleg Menai yn cyfrif fel cyllid cyfatebol.  Mae’r Cyngor Sir wedi cael sicrwydd cyllid am y flwyddyn ariannol hon ac mae cais tymor hir wedi cael ei gyflwyno am y tair blynedd nesaf i adeiladu’r ffordd mewn camau.  Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r effaith ar eiddo yng nghyffiniau’r isadeiledd ffyrdd newydd.  Atebodd Mr. Percy yr ystyriai y byddai llai o draffig yn effeithio ar y preswylwyr pe bai’r cais hwn yn cael ei gymeradwyo.  Codwyd materion ynglŷn â’r ffaith y byddai’n rhaid torri nifer o goed aeddfed. Ymatebodd Mr. Percy trwy ddweud y byddai rhaid torri tua 0.59 hectar o goed; fodd bynnag bydd 0.66 hectar o goed newydd yn cael eu plannu wedi hynny.  Gofynnwyd cwestiynau pellach ynglŷn â pham nad yw’r briffordd ar Lôn Penmynydd yn mynd trwy dir ffermio gan y byddai hynny’n golygu torri llai o goed.  Nododd Mr. Percy nad yw’r tir hwnnw ym mherchnogaeth Coleg Menai nac ym mherchnogaeth y Cyngor Sir.  Ystyriwyd y byddai trafodaethau gyda pherchennog y tir yn gohirio’r broses o gymryd mantais o grantiau sydd ar gael ar gyfer y ffordd gyswllt.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Huw Idris Jones annerch y cyfarfod fel gwrthwynebydd i’r cais.  Nododd Mr. Jones ei fod yn cynrychioli preswylwyr Ffordd Penmynydd a dygodd sylw’r Pwyllgor at y materion canlynol:-

 

·         Mae angen i’r cais cynllunio gael ei ohirio gan y byddai’n golygu torri stribed 200+ metr o goed yn y coetir hynafol yn Lodge Covert.  Mae Ymddiriedolaeth y Coetir hefyd yn cytuno y byddai colli’r coed yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt h.y. wiwerod coch;

·         Mae tua 700 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn yr wythnos ddiwethaf;

·         Nid oedd modd i’r cyhoedd wneud sylwadau deallus ar y broses ymgynghori gychwynnol ynglŷn â Ffordd Gyswllt Llangefni. Cymerwyd dau fis i lythyrau gwrthwynebu ymddangos ar gyfrifiadur gwasanaethau cwsmer yr Adran Gynllunio.  Dylent fod wedi bod ar gael o fewn 48 awr.

·         Roedd mapiau a hysbysiadau cyhoeddus anghywir yn cyfeirio at ffordd A ac nid at y ffordd B gywir;

·         Dim sôn fod y coetir yn Lodge Covert yn gynefin i wiwerod coch, sy’n rhywogaeth a warchodir gan y gyfraith.  Mae’r stribed 200 metr o goetir yn gynefin pwysig i wiwerod coch sy’n cysylltu poblogaeth y wiwer coch yn Niwbwrch a Phentraeth.

·         Mae 11 rhywogaeth o adar sydd wedi’u rhestru ar y rhestr o adar sydd mewn perygl i’w gweld yn rheolaidd yn y coetir;

·         Mae preswylwyr Lôn Penmynydd yn ystyried y dylai llwybr amgen ar gyfer y Ffordd Gyswllt gael ei hystyried fel y soniwyd yn 2013 a byddai hynny’n golygu symud y gylchfan yn Lôn Penmynydd ymhellach draw i’r dwyrain.  Byddai hyn yn mynd i’r afael â’r 5 effaith negyddol a restrir yn yr Arolwg Amgylcheddol.  Byddai’n arbed adnodd naturiol a chynefin bywyd gwyllt ac yn gwarchod lles y trigolion lleol.

 

Holodd y Pwyllgor Mr. Jones ynglŷn â sut byddai symud lleoliad arfaethedig y gylchfan ar Lôn Penmynydd yn helpu’r preswylwyr a’r cynefin bywyd gwyllt.  Atebodd Mr. Jones y byddai symud y gylchfan dim ond rhyw 100/200 llath yn golygu na fyddai’n rhaid torri cymaint o goed yn Lodge Covert.  Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r ffaith nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn bod Lodge Covert yn goetir hynafol.  Nid yw Ymddiriedolaeth y Wiwer Goch wedi cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cais ychwaith.  Atebodd Mr. Jones mai coetir wedi’i adfer yw coetir sydd wedi bodoli am 400 mlynedd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Dylan Rees, aelod lleol i annerch y Pwyllgor.  Nododd y Cynghorydd Dylan Rees, er ei fod yn cefnogi’r cynnig am ffordd gyswllt yn Llangefni, fod ganddo bryderon ynglŷn â’r effaith amgylcheddol a bod cymaint o goed yn cael eu torri ar Lôn Penmynydd.  Mae Ymddiriedolaeth y Coetir wedi cyflwyno dogfen 3 tudalen i’r Adran Gynllunio yn amlinellu 7 o bryderon penodol sy’n deillio o golli cymaint o goed yn Lodge Covert.  Darllenodd y Cynghorydd Rees ddyfyniadau o’r ohebiaeth i’r Pwyllgor.  Nododd ymhellach fod cynefin llwyddiannus iawn i’r wiwer goch wedi cynyddu nifer y rywogaeth ar yr ynys ac mae coetir Lodge Covert wedi bod yn rhan o’r prosiect.

 

Cytunodd y Cynghorydd Dylan Rees gyda’r gwrthwynebydd fod angen gohirio’r cais i gynnal trafodaethau gyda’r tirfeddiannwr ar Lôn Penmynydd er mwyn lleoli’r gylchfan arfaethedig ar dir amaethyddol yn hytrach na gorfod dinistrio coetir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, John Griffith, K.P. Hughes, W. T. Hughes a Nicola Roberts i gymeradwyo’r cais.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies ac Ann Griffith i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Fe wnaeth y Cynghorydd T. V. Hughes atal ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.5  34C304F/1/ECON – Cais amlinellol ar gyfer estyniad i’r campws presennol yn cynnwys codi tri o unedau tri llawr gyda 250 o lecynnau parcio, uned ar wahân sy’n cynnwys campfa a stiwdio ffitrwydd gyda 60 o lecynnau parcio cysylltiedig ynghyd â chae pêl-droed pob tywydd a system ddraenio gynaliadwy gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir yn Coleg Menai, Llangefni.

 

Adroddwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan bod hwn yn gais mawr y dylid ei ystyried ochr yn ochr â’r cais ar gyfer ffordd gyswllt Llangefni sy’n ymddangos yn 7.4.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.6  36C338 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus.

 

Wedi datgan diddordeb yn y cais, aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gyflogedig yn Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor Sir.  Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015, penderfynwyd cynnal ymweliad safle cyn penderfynu ar y cais.  Ymwelwyd â’r safle ar 20 Mai 2015.  Penderfynodd cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2015 ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn disgwyl am benderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio ar apêl cyfagos gan fod yr apêl yn codi materion o ran gweithredu Polisi 50 yn anheddle Llangristiolus.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Owen Evans annerch y cyfarfod fel un oedd yn cefnogi’r cais:-

 

Amlygodd Mr. Owen y pwyntiau a ganlyn ynglŷn â’r cais a nododd y byddai’n rhoi sylw i bryderon yr holl eiddo cyfagos:-

 

·         Edrych drosodd – rhoddwyd delwedd o’r annedd arfaethedig i’r Adran Gynllunio i brofi ei fod yn cydymffurfio â chanllawiau cynllunio Ynys Môn yng nghyswllt dyluniad.

·         Cymeriad yr ardal – cymysgedd o anheddau deulawr ar wahân, anheddau pâr, byngalos ynghyd â stad o dai. Mae’r annedd arfaethedig wedi ei hamgylchynu gan dai eraill. Mae’r Swyddog Cynllunio yn ymdrin â’r cais hwn fel cais mewnlenwi.

·         Priffyrdd a pharcio – mae’r annedd arfaethedig wedi ei lleoli yn nhu blaen yr Hen Ysgol.  Mae’r fynedfa i’r cae gyferbyn eisoes wedi cael ei chreu a’i chymeradwyo.  Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i’r cais.

·         Anheddau cyfagos a datblygiadau eraill – mae nifer o ddatblygiadau ym mhentref Llangristiolus wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf. Adeiladwyd anheddau gan bobl leol o bob math o gefndiroedd.

·         Apêl diweddar yn Ffordd Meillion – gwnaed penderfyniad i ohirio ystyried y cais hwn hyd nes y derbyniwyd penderfyniad ar apêl yng nghyswllt annedd unigol gerllaw.  Er na chefnogwyd yr apêl, roedd yr Arolygiaeth Gynllunio wedi nodi na fyddai’r cynnig yn mynd tu hwnt i’r angen neu uwchlaw cymeriad cymdeithasol yr ardal leol.

·         Polisïau 50 a HP4 – Ystyrir bod ceisiadau am blotiau sengl oddi mewn i ffiniau pentrefi neu ar y ffiniau yn dderbyniol.  Ystyrir bod datblygu’r annedd hon yn dderbyniol oherwydd y ffaith ei fod wedi’i hamgylchynu gan anheddau cyfagos.  Mae’r ymgeisydd yn byw yn Llangristiolus ac eisoes wedi gwerthu’r annedd drws nesaf.  Mae’n bwriadu symud ei deulu i’r annedd arfaethedig.

 

Cwestiynodd y Pwyllgor Mr Evans a yw’r ymgeisydd yn bwriadu adeiladu mwy o dai ar y tir oherwydd maint y plot.  Atebodd Mr. Evans nad yw’r ymgeisydd ar hyn o bryd yn bwriadu adeiladu mwy o dai ar y safle ond mae digon o dir am ddatblygiadau posib.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y cais yn cydymffurfio â Pholisi 50 ac argymhelliad y Swyddog yw ei gymeradwyo.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd T. Victor Hughes at Bolisi 50 a dyfynnodd ‘na ddylai’r cynnig fynd tu hwnt i anghenion y pentref am anheddau newydd’.  ‘Nifer a math yr anheddau sydd eisoes ar werth a faint o eiddo preswyl sydd wedi cael eu hadeiladu yn y cyffiniau’.  Nododd fod 27 o eiddo ar werth ym mhentref Llangristiolus ar hyn o bryd a bod 6 annedd arall wedi derbyn caniatâd cynllunio. Roedd cyfanswm o 33 o dai mewn pentref bychan heb isadeiledd digonol yn annerbyniol.  Nododd y Cynghorydd Hughes fod y cais am annedd mawr a bod posibilrwydd o ddatblygu pellach ar y safle yn y dyfodol.  Credai nad cais mewnlenwi oedd hwn a chynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod.  Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn ystyried fod pentref Llangristiolus wedi cael ei orddatblygu.  Eiliodd y Cynghorydd Davies y cynnig i wrthod y cais am ei fod yn ystyried bod y datblygiad tu allan i’r ffin ddatblygu.

 

Dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes fod angen ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun a chynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Nid oedd unrhyw eilydd i’r cynnig i gymeradwyo. 

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, T. Victor Hughes a Nicola Roberts i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Pleidleisiodd y Cynghorydd K. P. Hughes i gymeradwyo’r cais.  Fe wnaeth y Cynghorwyr Jeff Evans a W. T. Hughes atal eu pleidlais.  Y rhesymau a roddwyd am wrthod y cais oedd nad oedd y cais yn un mewnlenwi; mae’r safle tu allan i’r ffin ddatblygu; nid yw’n cydymffurfio â Pholisi 50; gorddatblygu.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodir.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, caiff y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r Swyddogion ymateb i'r rheswm a roddwyd dros wrthod y cais.

 

7.7  40C323B – Cais llawn ar gyfer codi annedd, gosod gwaith trin carthion ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir gyferbyn â Bryn Hyfryd, Brynrefail

 

Adroddwydar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Ynei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2015, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Y rhesymau a roddwyd am wrthod oedd gosodiad yr annedd o fewn safle’r cais, y byddai’r cynnig yn andwyol i fwynderau’r eiddo cyfagos ac i gymeriad a mwynderau’r ardal ehangach.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod apêl wedi ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio yn seiliedig ar ddiffyg penderfyniad gan yr Awdurdod Lleol.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn nad oeddent yn dymuno amddiffyn y penderfyniad mewn apêl.

 

PENDERFYNWYD peidio amddiffyn y penderfyniad mewn proses apêl ac i ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth gyflwyno nad oes unrhyw wrthwynebiad i gymeradwyo’r materion a gedwir yn ôl yn amodol ar amodau priodol fel y bydd yn eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

 

Dogfennau ategol: