Eitem Rhaglen

Gweithredu Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal

1.  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) mewn ymateb i gais gan Grŵp Plaid Cymru i gynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir i drafod effaith gweithredu Statws Sengl a Thâl Cyfartal ar rai aelodau o staff.

 

2.  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) ar y materion cyfreithiol sy’n ymwneud â Gweithredu Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal ynghyd â nodyn cynghori gan ein Cynrychiolwyr Cyfreithiol.

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol mewn ymateb i gais gan y Grŵp Plaid Cymru i gynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir i ystyried effaith gweithredu Statws Sengl a Thâl Cyfartal ar rai staff.

 

Dygodd y Prif Weithredwr sylw at y prif fater a oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad i Aelodau’r Cyngor Sir ac argymhellion y Cyngor Sir llawn a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2015.

 

Rhoes y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol gyflwyniad manwl i’r Cyngor Sir ar Statws Sengl a Thâl Cyfartal.

 

Eglurodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru y rheswm pam fod Grŵp Plaid Cymru wedi gofyn am Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor Sir ac effaith y broses arfarnu swyddi ar staff.

 

Cynhaliwyd sesiwn cwestiynau ac ateb ar gyfer yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

·           Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol ar y materion cyfreithiol sy’n ymwneud â gweithredu Arfarnu Swyddi a Thâl Cyfartal. Roedd Nodyn Cynghori gan gynrychiolwyr cyfreithiol y Cyngor Sir ynghlwm wrth yr adroddiad.  

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mrs. Kim Howells a Mrs. Lowri Phillips o Geldards LLP i’r cyfarfod. Rhoes Mrs. Howells gyflwyniad cynhwysfawr i’r Cyngor Sir mewn perthynas â’r strategaeth weithredu mewn perthynas â’r rhaglen Statws Sengl. 

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD:-

 

·         Bod y Cyngor yn cymryd y cam o gynnig ymestyn gweithrediad y strwythur tâl a graddfeydd a thelerau ac amodau Statws Sengl newydd yn orfodol i’r holl weithwyr nad ydynt, ar ddyddiad cyflwyno’r llythyr a.188, wedi cytuno’n wirfoddol i’r newidiadau, trwy derfynu eu contractau cyflogaeth presennol a chynnig eu hailgyflogi ar y telerau ac amodau Statws Sengl newydd, cyhyd â bod hyn, yn achos unrhyw staff sy’n gweithio yn yr ysgolion, wedi’i gyfyngu i ysgolion lle mae’r Corff Llywodraethu wedi penderfynu mabwysiadu’r cynigion Statws Sengl;

 

·         Bod y llythyr a.188 drafft yn cael ei gwblhau gan y Tîm Gweithredu a’i gyflwyno i’r tri Undeb Llafur cydnabyddedig mor fuan â phosib yn cadarnhau bod y cyfnod ymgynghori torfol yn cychwyn;

 

·         Bod y Tîm Gweithredu yn parhau i negodi gydag unrhyw Gyrff Llywodraethu nad ydynt eto wedi penderfynu mabwysiadu’r cynnig Statws Sengl gyda’r nod o’u hannog i fabwysiadu’r cynigion;

 

·      Bod gofyn i’r Tîm Gweithredu barhau i gynnal deialog gyda’r tri Undeb Llafur gyda’r nod o ddod i gytundeb gyda’r cynrychiolwyr priodol ar ffyrdd o:

 

·      osgoi diswyddiadau;

·      gostwng nifer y gweithwyr fydd yn cael eu diswyddo; a

·         lliniaru canlyniadau’r diswyddiadau.

 

·         Bod y Tîm Gweithredu yn parhau i wneud ymdrech i annog gweithwyr a effeithir i gytuno i’r telerau Statws Sengl, ar yr un telerau gwirfoddol ac a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cyngor, er mwyn lleihau nifer y staff a allai dderbyn rhybudd diswyddo yn y pen draw;

 

·         Bod y Prif Weithredwr neu ei gynrychiolydd dirprwyedig yn derbyn cyfrifoldeb dirprwyedig am reoli unrhyw broses ddiswyddo ac ailgyflogi gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, penderfynu a ddylid a pha bryd y dylid cyflwyno unrhyw rybuddion diswyddo a p’un a ddylid cynnal unrhyw broses ddiswyddo ar yr un pryd neu ar sail cam wrth gam;

 

·         Bod y Pwyllgor Tâl a Graddfeydd yn cefnogi unrhyw ofynion capasiti ychwanegol ar gyfer AD a’r Gyflogres dros y cyfnod gweithredu i sicrhau bod y dasg yn cael ei chwblhau heb effeithio ar flaenoriaethau eraill;

 

·         Bod Statws Sengl yn cael ei weithredu mor fuan ag sy’n ymarferol bosib yn dilyn y cyfnod ymgynghori torfol priodol. Fodd bynnag, cydnabyddir ar gyfer gweithwyr lle bydd angen cyflwyno rhybudd diswyddo na fydd Statws Sengl yn cael ei weithredu tan fis Chwefror / Mawrth 2016 ar y cynharaf. Mae hyn oherwydd bod y cyfnod ymgynghori torfol statudol yn gofyn am o leiaf 45 diwrnod o ymgynghori ac mae gofyn rhoi o leiaf 12 wythnos o gyfnod rhybudd at ddibenion diswyddo.  Yn ogystal, bydd angen dilyn proses ddiswyddo ar gyfer staff yn yr ysgolion;

 

·         Bod y Prif Weithredwr neu ei gynrychiolydd dirprwyedig yn derbyn cyfrifoldeb dirprwyedig i benderfynu a ddylid gweithredu Statws Sengl ar yr un dyddiad ar draws yr Awdurdod neu ar ddyddiadau gwahanol, er enghraifft, p’un a ddylid defnyddio dyddiad cynharach ar gyfer gweithwyr sydd wedi derbyn y telerau ac amodau Statws Sengl yn wirfoddol ac felly nad oes angen cyflwyno rhybudd diswyddo iddynt.

 

Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod ef wedi pleidleisio yn erbyn derbyn yr argymhelliad uchod.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei bod wedi ymatal ei phleidlais mewn perthynas â’r argymhelliad uchod.