Eitem Rhaglen

Datganiad Cyfrifon 2014/15 ac Adroddiad ISA 260

·        Cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon am 2014/15.

 

·        Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol ar yr archwiliad o’r Datganiadau Ariannol.

Cofnodion:

3.1  Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro yn ymgorffori’r Datganiad Cyfrifon Terfynol ar gyfer 2014/15 i’r Pwyllgor eu hystyried. Roedd yr adroddiad yn cadarnhau y llwyddwyd i gyrraedd y terfyn amser statudol ar gyfer cwblhau cyfrifon wedi’u harchwilio am y bedwaredd flwyddyn yn olynol a bod y gwelliannau i’r broses archwilio a nodwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol wedi parhau, ac y rhoddwyd sylw prydlon a boddhaol i’r materion oedd yn codi o hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro ei fod yn fodlon gyda’r modd y cynhaliwyd y broses o gau’r cyfrifon a disgwyliai y byddai barn archwilio ddiamod yn cael ei rhyddhau ar y cyfrifon ariannol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifeg at adrannau allweddol y cyfrifon oedd yn cynnwys y Datganiad Symudiad yn y Cronfeydd wrth Gefn; y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr a’r Fantolen. Dywedodd y Swyddog fod y Gronfa Gyffredinol yn eithaf sefydlog ar £7.193m; mae cronfa wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai wedi cynyddu i £2.821m a chafwyd cynnydd cyffredinol hefyd mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

 

3.2  Cyflwynwyd adroddiad yr Archwilydd Allanol ar ganlyniad archwiliad y Datganiadau Ariannol ar gyfer 2014/15 (Adroddiad dan ISA 260) i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Cadarnhaodd Mr. Martin George, Rheolwr Ymgysylltu, PwC, cyhyd ag y bydd y gwaith sy’n weddill fel yr amlinellir ym mharagraff 6 yr adroddiad yn cael ei gwblhau’n foddhaol, bod yr Archwilydd Cyffredinol ar ôl derbyn llythyr o gynrychiolaeth (yn seiliedig ar yr un a amlinellir yn Atodiad 1) yn bwriadu cyflwyno adroddiad archwiliad diamod ar y Datganiadau Ariannol (fel yn Atodiad 2). Ymhelaethodd yr Archwilydd ar y materion mwyaf arwyddocaol oedd yn codi o’r archwiliad a dygodd sylw’r Pwyllgor atynt fel y Pwyllgor sy’n goruchwylio’r broses adrodd ariannol:

 

  Ni nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol sydd heb eu cywiro.

  Mae Atodiad 3 yr adroddiad yn rhestru crynodeb o’r cywiriadau a wnaed i’r datganiadau ariannol drafft y mae’r Rheolwyr wedi eu derbyn a gweithredu arnynt. Roedd nifer o’r cywiriadau hyn yn cynnwys ail-gategoreiddio ar y Fantolen nad yw’n effeithio ar y Gronfa Gyffredinol; nid yw’r addasiadau hynny sy’n ymwneud ag ailbrisio eiddo yn effeithio ar y gronfa chwaith. Mae’r effaith net ar y Gronfa Gyffredinol yn £279k (roedd balans y Gronfa Gyffredinol yn y datganiad drafft wedi cael ei ddiwygio o £7.47 miliwn i lawr i £7.193m yn y datganiad terfynol).

  Roedd y risgiau archwilio sylweddol ac uwch a adnabuwyd yn ystod y broses gynllunio archwilio wedi derbyn sylw yn unol â’r gweithdrefnau a nodir yn y Strategaeth Archwilio Ariannol a nodir y canlyniad ym mharagraff 13 yr adroddiad. Adnabuwyd risg uwch ychwanegol mewn perthynas â chyfrifo’r ymarfer Arfarnu Swyddi a chynigwyd addasiad i’r modd yr ymdrinnir â hwn yn y cyfrifon. Bydd yr archwilwyr yn parhau i fonitro’r maes hwn hyd nes caiff y cyfrifon eu harwyddo.

  Roedd paragraffau 16 i 40 yr adroddiad yn darparu’r canfyddiadau archwilio oedd yn deillio o archwilio’r meysydd sy’n destun risg gymedrol. Mae’r meysydd hynny’n ymwneud â rhagdybiaethau a’r fethodoleg Prisio Asedau Sefydlog; ymrwymiadau pensiwn; ymrwymiadau Tâl Cyfartal; Arfarnu Swyddi a darpariaeth Gwastraff.

  Yn ystod y broses archwilio, ni chanfuwyd unrhyw risg o gamddatganiadau sylweddol yn y datganiadau ariannol oherwydd twyll.

  Nid oedd unrhyw bryderon ynghylch agweddau ansoddol o ran arferion cyfrifo’r Awdurdod a’i arferion adrodd ariannol. Canfuwyd bod y wybodaeth a ddarparwyd yn berthnasol, yn ddibynadwy, yn gymeradwy ac yn hawdd i’w deall.

  Ni ddaeth yr Archwilwyr ar draws unrhyw anawsterau sylweddol yn ystod yr archwiliad ac ni soniwyd am unrhyw faterion arwyddocaol gyda’r rheolwyr yr oedd angen eu hadrodd i’r Pwyllgor.

  Er nad oedd yr Archwilwyr wedi adnabod unrhyw wendidau arwyddocaol yn rheolaethau mewnol yr Awdurdod, tybir bod rhai meysydd lle gellid gwella rheolaethau ac fe wneir argymhellion i’r perwyl hwnnw yn Atodiad 4 yr adroddiad. Mae’r rhain yn ymwneud ag ailbrisio asedau eiddo'r Cyngor a chywirdeb y wybodaeth a ddarperir yn y Dychweliad Pensiwn Blynyddol i Gyngor Gwynedd.

  Adolygwyd Datganiad Llywodraethiant Blynyddol yr Awdurdod a chanfuwyd ei fod yn cydymffurfio â fframwaith CIPFA/SOLACE ar gyfer Cyflawni Llywodraethiant Dda mewn Llywodraeth Leol.

 

Roddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn -

 

  Roedd y Pwyllgor yn cydnabod fod y cyfrifon wedi cael eu paratoi, eu cyflwyno a’u harchwilio o fewn yr amserlen statudol a’u bod yn gadarn o ran ansawdd. Roedd y Pwyllgor hefyd yn medru derbyn sicrwydd o safbwyntiau cadarnhaol yr Archwilydd Allanol ynghylch ansawdd arferion cyfrifo’r Awdurdod a’i arferion adrodd ariannol.

  Ceisiodd y Pwyllgor gadarnhad y byddai’r gwelliannau ymarfer a argymhellir gan yr Archwilydd Allanol ynghylch Ailbrisio a Phensiynau yn cael eu gweithredu ac y byddai’r Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar hynny. Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau Dros Dro y byddai’r Pwyllgor yn derbyn adroddiad ar yr ymateb i argymhellion yr Archwilydd Allanol yn ei gyfarfod cyntaf yn y flwyddyn newydd.

  Gan gyfeirio at brisio asedau eiddo’r Cyngor a’r addasiadau a argymhellwyd gan yr Archwilydd Allanol mewn perthynas â hyn, holodd y Pwyllgor a ddylai’r Awdurdod geisio cael mewnbwn allanol arbenigol ynglŷn â phrisio ei bortffolio asedau. Dywedodd Mr. Martin George fod PwC yn defnyddio un o’i arbenigwyr prisio mewnol i ystyried y gwaith prisio a wneir gan yr

Awdurdod er mwyn derbyn barn ar briodoldeb y prisiad. Caiff eiddo buddsoddi’r Awdurdod eu hailbrisio’n flynyddol tra bod ei asedau gweithredol yn cael eu hailbrisio’n barhaus. Mae prisiwr PwC wedi codi rhai pwyntiau penodol, ond yn amodol ar yr addasiadau a gynigir gan yr archwilwyr, y farn yw bod y prisiad yn briodol at ddibenion y cyfrifon. Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau Dros Dro, fel y dengys yr adroddiad, bod Rheolwyr fel rhan o’u hymateb i’r argymhellion a wnaed yn ystyried yr opsiynau o ran darparu gwasanaethau ar gyfer prisiadau'r flwyddyn nesaf a byddant yn cynnwys hyn fel rhan o’r broses.

  Nododd y Pwyllgor fod y broses ar gyfer gwerthu asedau nad yw’r Awdurdod eu hangen wedi bod yn araf. Gofynnodd y Pwyllgor a oes gan yr Awdurdod atodlen o’r asedau hynny a restrwyd i’w gwerthu ac a yw’n monitro’r broses honno. Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod yr Awdurdod wedi ffurfio Atodlen o’r fath a bod camau ar waith i farchnata asedau sydd ar werth a’u gwerthu’n llwyddiannus.

 

Penderfynwyd

 

  Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2014/15.

  Derbyn adroddiad yr Archwilydd Allanol ar archwiliad y Datganiadau Ariannol a nodi’r canfyddiadau ynddo

  Cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2014/15 a’i gyfeirio at Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr iddynt ei arwyddo.

 

CAM GWEITHREDU’N CODI: Y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro i gylchredeg yr atodlen o asedau’r Awdurdod sydd ar werth i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant.

Dogfennau ategol: