Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol ar waith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod 1 Ebrill i 31 Awst 2015 sy’n berthnasol i Gynllun Archwiio 2015/16.

 

Dygodd y Rheolwr Archwilio Mewnol sylw at y prif bwyntiau a ganlyn

 

  Roedd atodlen o’r targedau perfformiad am y cyfnod sy’n gorffen 31 Awst 2015 ynghlwm yn Atodiad A sy’n dangos fod y gwasanaeth ar darged yn gyffredinol

  Roedd y swydd wag yn y Tîm Archwilio Mewnol wedi cael ei llenwi bellach trwy benodiad.

  Roedd crynodeb o’r holl aseiniadau archwilio a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn hyd yma gan gynnwys gwaith sy’n mynd rhagddo o 2014/15 wedi’i amlinellu yn yr atodlen yn Atodiad D. Mae’r crynodeb yn nodi’r farn archwilio a’r argymhellion yng nghyswllt pob maes a adolygwyd a fydd yn ffurfio’r sail ar gyfer y farn yn y Datganiad Sicrwydd Blynyddol o ba mor ddigonol ac effeithiol yw fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol yr Awdurdod ar gyfer 2015/16 ar y cyfan.

  Ers 1 Ebrill 2015 rhyddhawyd deg adroddiad terfynol o Gynllun Gweithredu Archwilio Mewnol 2014/15 a thri o Gynllun Gweithredu 2015/16.

  Ar gyfer dau o’r archwiliadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn hyd yma, aseswyd nad ydynt yn rhoi lefelau positif o sicrwydd. Yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2015 hyd at 31 Awst 2015 rhoddwyd sgôr o sicrwydd isel i’r Archwiliad Adfer Systemau TGCh mewn Trychineb ac aseswyd bod yr Archwiliad Rheoli Parhad Busnes yn rhoi sicrwydd cyfyngedig.

  Caiff argymhellion archwilio eu sgorio fel uchel, canolig neu isel yn ôl y risg ganfyddedig. Ar 4 Medi 2015, roedd 66% o’r argymhellion uchel a chanolig wedi cael eu gweithredu.

  Yn ôl adroddiad y cyn Reolwr Archwilio Mewnol i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2015, adnabuwyd fod angen cwblhau gwaith i wella sut rydym yn monitro ac yn adrodd ar gynnydd wrth weithredu argymhellion y cytunwyd arnynt. Bwriedir adolygu’r broses dilyn i fyny yn y Gwasanaeth Archwilio Mewnol er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr argymhellion a wnaed mewn adolygiadau Archwilio Mewnol yn cael eu gweithredu gan y Rheolwyr o fewn amserlenni cytunedig. Bydd adroddiad i’r perwyl hwnnw’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn fuan.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a nododd fod rhai o’r adolygiadau a restrir yn Atodiad D wedi’u cofnodi fel rhai sy’n darparu sicrwydd cyfyngedig neu isel e.e. Adfer Systemau TGCh mewn Trychineb, a gofynnodd am eglurhad ar y materion hyn. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod rheoli Parhad Busnes, y mae Adfer Systemau TGCh mewn Trychineb yn rhan ohono, wedi bod yn bryder am amser maith i’r Cyngor ac wedi’i adnabod fel problem mewn adroddiadau archwilio blaenorol. Mae Rheolwr TGCh newydd wedi cael ei benodi erbyn hyn ac mae camau ar waith i ddarparu’r cyllid angenrheidiol iddo wella cadernid a threfniadau adfer systemau TGCh mewn trychineb. Disgwylir y ceir gwelliant sylweddol yn y maes hwn erbyn yr adolygiad archwilio nesaf.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

 

Dogfennau ategol: