Eitem Rhaglen

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013 a Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro.

(PAPUR CH)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ar newidiadau statudol a wnaed gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2015. Dywedodd bod y ddeddfwriaeth wedi dod i rym gyda newidiadau cynlluniedig yn cael eu gweithredu fesul modiwl dan ddeddfwriaeth eilaidd.  Daeth modiwlau newydd i rym mis Mai. Mae rhai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol berthnasol i waith y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ymhellach fod gofyniad statudol yn awr ar bob Cyngor Cymuned i fod â phresenoldeb ar y we ac i gyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefannau.  Dywedodd y Swyddog fod y gofyniad hwn yn berthnasol i’r Pwyllgor Safonau oherwydd cafwyd cwynion ynghylch materion yn ymwneud â thryloywder mewn Cynghorau Tref a Chymuned, ac yn arbennig felly Cynghorau Cymuned bychan a rhai nad oes ganddynt fawr o adnoddau.  Dywedodd fod rhai aelodau o’r cyhoedd a chynghorwyr newydd wedi mynegi cryn anfodlonrwydd ynglŷn â’r ffaith nad yw rhai Cynghorau Cymuned yn cydymffurfio gyda’r gofynion cyhoeddi o ran rhaglenni, cofnodion, cyfrifon ac ati, a dywedodd ei bod hi a’r Archwilwyr wedi derbyn cwynion ynghylch diffygion a materion perthynas yn codi o’r rhwystredigaethau hynny, a bod y rhain wedi cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ar y Gofrestr o Ddiddordebau Aelodau sydd bellach wedi cael ei chyflwyno.  Mae gan y Cyngor Sir dair cofrestr o ddiddordeb ac un yn unig sydd gan Gynghorau Tref a Chymuned sef “cofrestr o’r datganiadau a wneir mewn cyfarfodydd”.  Bellach, rhaid i Aelodau Cynghorau Cymuned gwblhau ffurflenni “Cofrestru Diddordebau Ymlaen Llaw”, a rhaid i’r ddwy fod ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y ‘Gofrestr o Ddiddordebau Aelodau’ yn arwyddocaol i Aelodau’r Pwyllgor Safonau o ran y gwaith y maent yn ei wneud yn flynyddol i adolygu’r cofrestrau o ddiddordebau’r Cynghorwyr Sir sy’n rhan benodol o’u rhaglen waith.  Nid oes unrhyw gynllun newydd i adolygu cofrestrau’r Cynghorau Cymuned wedi ei gynnwys ar gyfer eleni (oherwydd rhaid i’r broses newydd sefydlu’n gadarn) ond efallai y byddai’n rhesymol rhybuddio Cynghorau Cymuned y bydd y Pwyllgor Safonau’n adolygu’r cofrestrau y flwyddyn nesaf?

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd cosbi Cynghorau Tref a Chymuned nad oeddent wedi cydymffurfio gyda’r gofyniad statudol i fod â gwefan.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y gallai aelodau’r cyhoedd gyflwyno cwynion ynghylch camweinyddu i’r Ombwdsmon.  Efallai na fyddai’r Ombwdsmon yn gweithredu ond gallai gyhoeddi rhybudd/cerydd cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Nodi’r newidiadau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, yn arbennig paragraff 2;

·         Penderfynu a ddylai materion cydymffurfiaeth mewn perthynas â’r cyfrifoldeb newydd hwn fod yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Safonau.

 

GWEITHREDU:

 

·         Pennaeth Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro i ofyn i’r Adain Bolisi am ddata i sefydlu pa Gynghorau Tref a Chymuned sydd â gwefan, ac a yw’r rheini nad oes ganddynt bresenoldeb ar y we yn bwriadu trefnu hynny;

·         Adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau ar 10 Rhagfyr 2015 ar ganfyddiadau’r uchod.

·         Yna, y Swyddog Monitro i ysgrifennu at yr Ombwdsmon ynghylch cwestiynau a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor Safonau o ran  y grant a ddyrannwyd i bob Cyngor Tref a Chymuned i greu eu gwefan eu hunain ac a fyddai modd ai peidio pennu cosb am fethiant i ddefnyddio’r grant yn gywir neu fethiant i sicrhau presenoldeb ar y we.

Dogfennau ategol: