Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei sefydlu oedd yn cynnwys Penaethiaid, Llywodraethwyr Ysgol, Aelodau Etholedig a Swyddogion Addysg i drafod darparu clybiau brecwast am ddim mewn Ysgolion Cynradd. Roedd argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen fel a ganlyn:-
• Ysgolion i redeg clwb gofal cyn ysgol rhwng 8.00am ac 8.25am. Ysgolion wedyn i redeg clwb brecwast am ddim rhwng 8.25am ac 8.50am. Y clybiau hyn i fod ar wahân i’w gilydd ac nid yw presenoldeb yn y clwb cyn ysgol yn ofynnol ar gyfer mynychu’r clwb brecwast.
• Ymgynghori ar yr argymhelliad hwn gyda’r cydranddeiliaid mewn ffordd gyffelyb i’r ymgynghoriad blaenorol e.e. defnyddio surveymonkey a gohebiaeth gyda Chyrff Llywodraethu. Gwneud hyn gan nad oedd yr argymhelliad uchod yn opsiwn a amlinellwyd fel rhan o’r ymgynghoriad gwreiddiol.
• Gweithredu’r trefniadau newydd, os cânt eu cymeradwyo, ym mis Medi 2016. Os bydd y system taliadau ar-lein ar gael erbyn mis Ebrill 2016, dylid gweithredu’r trefniadau newydd o ddechrau tymor yr haf, Ebrill 2016.
• Bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn parhau fel grŵp monitro a safonau ar gyfer y trefniadau newydd. Y manylion ar gyfer y trefniadau arfaethedig yw:-
• Y staff a gyflogir ar hyn o bryd dan y Cynllun Brecwast am Ddim i barhau
fel y maent yn gyflogedig am awr o dan y trefniadau presennol h.y. 7.50am i
8.50am.
• Y ffi i’w gosod ar 75c y dydd y plentyn ar gyfer y clwb gofal cyn ysgol. Os
oes gan deulu dri neu fwy o blant yn mynychu’r clwb gofal cyn ysgol, y ffi a
godir fydd £2 y diwrnod ar gyfer y teulu.
• Bydd yr Awdurdod yn gosod cyfundrefn ar gyfer casglu ffioedd yn
electronig. Bydd angen i unrhyw arian a gesglir gael ei fancio o fewn
trefniadau bancio arferol yr ysgol.
• Ni fydd unrhyw newid yn rôl Caterlink fel y darparwr brecwast.
• Bydd yn rhaid i’r Awdurdod ystyried yr effaith ar yr angen i gofrestru gyda
AGGCC ar sail ysgol unigol gan fod cofrestru’n ofynnol os bydd yr ysgol yn
rhedeg clwb cyn ysgol a chlwb ar ôl ysgol am gyfanswm o fwy na dwy awr y
diwrnod. Nid oes cost ynghlwm â chofrestru gydag AGGCC.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a llongyfarchodd y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Swyddogion am eu gwaith. Nodwyd y materion a ganlyn:-
• Dylai’r gwaith o gasglu’r ffi ar gyfer y clybiau cyn ysgol gael ei weinyddu’n briodol.
• Dylai rhieni, yn arbennig rhai o gefndir tlotach, wneud defnydd o’r clybiau brecwast am ddim oherwydd gwerth maethol y prydau.
• Swyddogion i ystyried darpariaeth i roi gwybod i rieni sydd â hawl i dderbyn credydau treth a budd-daliadau eraill sy’n gysylltiedig â gofal plant am sut i
hawlio’u costau’n ôl.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: