Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 12C431F – Gwynfa, Beaumaris

 

12.2 12LPA1003E/FE/VAR/CC –  Pont Townsend, Penrhyn Safnas, Biwmares

 

12.3 14LPA1021/CC – Bwlchyfen, Pentir, Tyn Lon

 

12.4 19LPA1018/CC – 91-95 Stryd y Farchnad, Gwesty a Gril y Crown, Caergybi

 

12.5 19C608Q – Tyddyn Bach, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

 

12.6 43C196 – Ty’r Garreg, Rhoscolyn

 

12.7 46C14V/1 – Parc Carafannau’r Cliff, Trearddur

 

12.8 47LPA1020/CC – Cott, Llanrhuddlad

Cofnodion:

12.1  12C431F Cais llawn ar gyfer newid y ffenestr bresennol yn ddrysau Ffrengig yn Gwynfa, Biwmares

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cymeradwyo cais blaenorol am ganiatâd Adeilad Rhestredig i newid ffenest am ddrws Ffrengig, nid ystyrir y byddai modd i’r Awdurdod wrthod y cais cynllunio hwn. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.2  12LPA1003E/FR/VAR/CC – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (manylion am y morter a phwyntio’r wal) ac amrywio amod (02) (sampl o banel un metr sgwâr o’r wal) o gais cynllunio cyfeirnod 12LPA1003B/CC/MON (mân newidiadau i gynllun a gymeradwywyd eisoes dan 12LPA1003/FR/CC ac amrywio amodau (02) (Cynllun Rheoli y Adeiladu), amod (07) (carthffos gyhoeddus), amod (08) (rheoli traffig), dileu amod (09) (rhan o’r gwaith bwndio) o gais cyfeirnod 12LPA1003/FR/CC (gwaith lliniaru llifogydd a byndio) ym Mhont Townsend, Penrhyn Safnas, Biwmares 

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai cais gan y Cyngor ydyw ac mae ar ran o dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor, ers drafftio’r adroddiad, bod llythyr arall o wrthwynebiad wedi’i dderbyn oddi wrth breswylydd ar Stryd Alma, Biwmares ac mae’r llythyr yn cyfeirio at y cynllun yn ei gyfanrwydd. Adroddodd y Swyddog y gellir crynhoi’r cais fel un i ddiwygio’r amodau perthnasol er mwyn caniatáu rhagor o amser i’r ymgeisydd gyflwyno cynllun rheolaeth adeiladu, cynllun rheoli traffig a manylion ynghylch gorffeniad y walroedd y manylion hyn i fod i gael eu cyflwyno cyn dechrau’r gwaith.  Mae’r cais hefyd yn ceisio diwygio’r amod ynglŷn â’r garthffos gyhoeddus a dileu’r amod cynllunio mewn perthynas â’r bwnd gan na fydd yr elfen hon o’r cynllun yn cael ei gweithredu bellach, a dyma yw’r unig newid ffisegol i’r datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.3  14LPA1021/CC – Cais llawn i godi adeilad amaethyddol i storio gwair a gwellt ar dir yn Bwlchyfen, Tyn Lôn

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.4    19LPA1018/CC – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol yn 91-95 Stryd y Farchnad, y Crown Hotel and Grill, Holyhead

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir sy’n gwneud y cais. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod angen y cynllun dymchwel sy’n cael ei gynnig ar fyrder oherwydd cyflwr strwythurol yr adeiladau a’r risg y mae hynny’n ei beri. Mae sgaffaldiau dros dro eisoes wedi cael eu gosod ar yr adeilad. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  19C698Q – Cais i ddiwygio ymrwymiad cynllunio (darpariaeth tai fforddiadwy) dan Adran 106A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sydd ynghlwm â chaniatadau cynllunio 19C608F a 19C608G i ostwng nifer y tai fforddiadwy o 37 (30%) i 18 (15%) ar dir yn Nhyddyn Bach, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn unol â chyngor cyfreithiol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor mai cais oedd hwn i ostwng nifer y tai fforddiadwy o 37 i 20 (dim 18).  Adroddodd y Swyddog mai’r mater allweddol yma yw a yw’r cytundeb Adran 106 yn dal i gyflawni diben gynllunio ddefnyddiol ar ôl ei ddiwygio.  O dan y cynnig diwygiedig, byddai 20 o unedau tai fforddiadwy yn cael eu darparu a bydd y rhain yn cael eu cynnig i Gymdeithas Tai Clwyd Alun ar 70% o’u gwerth ar y farchnad agored.  Mae ymgynghoriad wedi digwydd gyda’r Prisiwr Dosbarth a gynghorodd y byddai cymeradwyo’r cais yn sicrhau bod y cynnig yn hyfyw ac yn ymarferol i’w gyflawni, ac yn ei dro gallai hyn gyfrannu at yr angen am dai yn yr ardal, ac ym marn y swyddogion byddai’n cyfrannu’n bositif at y gymuned a’r economi leol trwy greu cyflogaeth a chyfoeth. Mae’r swyddogion yn derbyn na fydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen heb y gostyngiad y gofynnwyd amdano yn y ddarpariaeth tai fforddiadwy, ac o ystyried bod y swyddogion yn credu y bydd y cynnig yn rhoi budd i’r gymuned petai’n mynd yn ei flaen, yr argymhelliad yw caniatáu.

Er ei fod yn siomedig y byddai’r datblygiad ar ôl ei ddiwygio yn rhoi darpariaeth is o dai fforddiadwy, a chan nodi hefyd fod ceisiadau o’r fath yn digwydd yn fwy a mwy aml, roedd y Pwyllgor yn derbyn bod y datblygiad yn annhebygol o ddigwydd heb y gostyngiad a bod angen y tai yn yr ardal. Ar y sail honno roedd y Pwyllgor o’r farn y dylid cefnogi’r cais.  Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  43C196 Cais llawn i newid defnydd adeilad allanol yn fwyty, addasu’r fynedfa bresennol ynghyd â gosod pecyn trin carthffosiaeth ger Tŷ’r Garreg, Rhoscolyn

 

Mae’r cais wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol sydd wedi gofyn am ymweliad safle.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am ymweliad safle fel y gall yr Aelodau werthfawrogi’n well y pryderon lleol ynghylch preifatrwydd, mwynderau a materion traffig ynghyd â llygredd golau a sŵn o bosib.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y Pwyllgor yn ymweld â safle’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.7  46C14V/1 – Cais llawn i ailfodelu’r maes carafannau statig presennol fel y gellir ail-leoli 14 o garafannau gwyliau statig i’r ardal ar gyfer carafannau teithiol statig ynghyd ag ymestyn y parc er mwyn ail-leoli 46 o garafannau teithiol ym Maes Carafannau’r Cliff, Trearddur

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn oherwydd pryderon ar y sail nad oes toiledau ychwanegol ac oherwydd risg llifogydd.

 

Ar ôl iddo ddatgan diddordeb yn y cais, ni wnaeth y Cynghorydd Victor Hughes gymryd rhan wrth drafod a gwneud penderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod yn rhannu pryderon y Cyngor Cymuned mewn perthynas â’r cais a gofynnodd i’r Pwyllgor fynd ar ymweliad safle fel y gall yr Aelodau ddeall yn well y materion ynglŷn â risg llifogydd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y Pwyllgor yn ymweld â safle’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

12.8  47LPA1020/CC –  Cais llawn ar gyfer codi adeilad amaethyddol i gadw anifeiliaid ar dir yn Cott, Llanrhuddlad

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Ar ôl iddo ddatgan diddordeb yn y cais, ni wnaeth y Cynghorydd Victor Hughes gymryd rhan wrth drafod a gwneud penderfyniad ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

Dogfennau ategol: