· Cyflwyno gwybodaeth ynghylch yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Estyn.
· Cyflwyno adroddiad arolygiad Adran 50 ynghylch Ysgol Llangaffo.
Cofnodion:
• Cyflwynwyd gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r arolygiadau Estyn a wnaed yn Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Bodffordd i’r CYSAG ei hystyried. Nodwyd y wybodaeth.
• Cyflwynwyd yr adroddiad Adran 50 ynghylch Ysgol Llangaffo i’r CYSAG ei ystyried.
Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at y defnydd o’r term ‘cydaddoli’ (‘corporate worship’ yn Saesneg) yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad Adran 50 tra bod y fersiwn Saesneg yn cyfeirio at ‘collective worship’ a cheisiodd eglurhad ar yr anghysondeb rhwng y ddwy fersiwn. Dywedodd o bosib gan fod Ysgol Llangaffo yn ysgol Eglwys yng Nghymru, y medrai fod yn ‘gydaddoli’ yn gyfreithiol. Tynnodd yr Is-gadeirydd sylw at y ffaith fod y defnydd cywir o’r derminoleg wedi bod yn broblem am flynyddoedd. Cynigiodd dynnu sylw Esgobaeth Bangor at y gwall hwn a’u bod yn gofyn i’r Esgobaeth ddefnyddio’r term cywir am ‘collective worship’ yn y Gymraeg h.y. ‘addoli ar y cyd’, o fewn yr adroddiad i gyd-fynd â’r defnydd o’r term ‘collective worship’ yn fersiwn Saesneg yr adroddiad. Cytunodd y CYSAG, a bu iddo gydnabod hefyd bod yr adroddiad yn gynhwysfawr ac yn llawn gwybodaeth ac yn brawf o lwyddiannau Ysgol Llangaffo.
Cyfeiriodd Mr Christopher Thomas at y ffaith fod yr adroddiad yn dweud “The school meets the statutory requirement for collective acts of worship”. O ystyried bod natur yr adroddiad yn sôn am fod yn “ysbrydoledig” wrth gyfeirio at addoli ar y cyd mae’n bechod iddo dderbyn sylw mor ‘mater o ffaith’ â’r un a ddyfynnwyd. Dywedodd fod yr adroddiad yn darllen yn dda iawn ac y dylid ei longyfarch ar y cyfan.
Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd efallai ei fod yn adlewyrchu’r derminoleg arolygu safonol a ddefnyddir i ddisgrifio nodweddion o’r fath.
Cytunodd y Cadeirydd ei fod yn adroddiad cadarnhaol ac awgrymodd bod y llythyr at Esgobaeth Bangor hefyd yn cydnabod bod yr adroddiad yn cyfeirio at y ffaith fod yr addoli ar y cyd yn ysbrydoledig. Cytunodd y CYSAG i hyn.
Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at y darnau o adroddiadau arolygu ESTYN y mae’r Swyddog Addysg Gynradd yn eu paratoi ar gyfer y CYSAG a dywedodd y rhoddir sylw arbennig i gyfeiriadau yn yr adroddiadau at addoli ar y cyd ac Addysg Grefyddol. Dywedodd ei bod hefyd wedi gofyn i’r Swyddog wirio’r adroddiadau ar gyfer yr adran ar bartneriaethau lleol, a phan geir cyfeiriad at gapel neu eglwys, y dylai hynny hefyd gael ei amlygu fel rhan o sgriwtini’r CYSAG ar yr adroddiadau hynny. Byddai hynny’n galluogi cynrychiolwyr o’r Enwadau Crefyddol ar y CYSAG i adrodd yn ôl i’w grŵp fod ysgolion yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau hynny a medru gweithio gyda’i gilydd efo cymunedau crefyddol lleol.
Cytunwyd i nodi’r adroddiad Adran 50 ar Ysgol Llangaffo.
Cam Gweithredu:
Y Swyddog Addysg Gynradd i ysgrifennu ar ran y CYSAG at Esgobaeth Bangor:
• I gydnabod yr adroddiad a llwyddiant Ysgol Llangaffo yn enwedig o ran ei harferion gydag addoli ar y cyd sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘ysbrydoledig’.
• Tynnu sylw at y gwall yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad arolygu o ran ei ddefnydd o’r term ‘cyd-addoli’.
Dogfennau ategol: