Eitem Rhaglen

Hunan-Arfarniad gan Ysgolion - Ysgol Bryngwran

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol :

 

·      Ysgol Bryngwran

·      Ysgol y Fali,

·      Ysgol Rhosybol ac

·      Ysgol Llanfechell.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol a baratowyd gan Ysgol Bryngwran, Ysgol y Fali, Ysgol Rhosybol ac Ysgol Llanfechell i’r CYSAG eu hystyried.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at yr adroddiad gan Ysgol Rhosybol sef drafft cyntaf a oedd wedi’i gyflwyno mewn camgymeriad. Roedd wedi gofyn i’r Pennaeth gyflwyno’r ail ddrafft i’r CYSAG erbyn ei gyfarfod nesaf ac felly awgrymodd y dylent anwybyddu’r  adroddiad oedd o’u blaenau.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her GwE gyngor i’r CYSAG ynghylch yr hyn y dylai fod yn ymwybodol ohono wrth asesu ansawdd yr hunanarfarniadau. Dywedodd bod angen i’r rhan gyntaf sy’n sôn am ba mor dda yw’r deilliannau roi tystiolaeth o’r hyn y gall y plant ei wneud mewn Addysg Grefyddol e.e. cyfeirio at y ffaith fod y mwyafrif o’r disgyblion yn medru cymharu arferion crefyddol yn eithriadol o dda, yn dda, yn ddigonol neu’n anfoddhaol. Nododd ymhellach y dylai’r CYSAG edrych ar ba sgiliau sydd gan y plant; faint o’r plant fedr ddefnyddio’r sgiliau hynny, ac ansawdd y sgiliau hynny. Mae tueddiad weithiau mewn adroddiadau hunanarfarnu i ysgolion ddrysu rhwng yr hyn mae’r athrawon yn ei baratoi a’r profiadau a gaiff y plant gyda’r safonau a welir yn llyfrau ysgol y plant.

 

Mae ail ran yr adroddiad hunanarfarnu yn cyfeirio at y ddarpariaeth ac yn ddelfrydol bydd ysgolion yn darparu gwybodaeth am natur y gwersi a’r math o waith a wnaed mewn gwersi Addysg Grefyddol e.e. pa straeon Addysg Grefyddol mae’r plant yn eu hastudio, a gaiff siaradwyr gwadd eu gwahodd i’r ysgolion ac ati. Dywedodd yr Ymgynghorydd bod lle i wella adroddiadau hunanarfarnu ymhellach yn enwedig er mwyn gwneud yr agweddau ansoddol yn fwy cadarn. Awgrymodd ar gyfer cyfarfod y CYSAG yn y gwanwyn, bod y Swyddog Addysg Gynradd yn cynnig ei bod hi ar gael i’r ysgolion am gyfnod yn y bore, yn y prynhawn ac ar ôl ysgol fel bod modd i unrhyw un sy’n dymuno cael ei chyngor wneud hynny. Cynghorodd y CYSAG, wrth iddo sgriwtineiddio’r adroddiadau, y dylai chwilio am y termau hynny sy’n darparu barn ansoddol e.e. da, digonol, yn gwella, cryf ac ati.

 

Holodd Mr Christopher Thomas a oedd enghraifft o’r ddogfen hunanarfarnu ar gael i’r holl ysgolion.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod dogfen enghreifftiol ar gael ond petai’r ysgolion yn cadw’n rhy agos at y fformat penodol hwnnw gall adroddiadau hunanarfarnu rhai o’r ysgolion ymddangos yn debyg iawn, a dyna pam felly mae wedi cynnig gweithdy i roi sylw i unrhyw faterion neu bryderon ynglŷn â pharatoi adroddiadau hunanarfarnu AG.

 

Holodd y CYSAG faint o ysgolion oedd heb ddarparu hunanarfarniad AG. Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd bod llawer heb wneud. Awgrymodd y Cadeirydd wrth bwysleisio’r ffaith fod yr Ymgynghorydd Her GwE ar gael i ddarparu cyngor, y dylid tynnu sylw at yr angen i’r ysgolion ddarparu eu hadroddiadau hunanarfarnu AG i’r CYSAG er mwyn iddo fedru gweithredu ei rôl fonitro.

 

Cytunwyd i nodi’r adroddiadau hunanarfarnu AG a gyflwynwyd.

 

Cam Gweithredu:

 

Bod y Swyddog Addysg Gynradd ynghyd â’r Ymgynghorydd Her GwE yn trefnu gweithdy i ysgolion i roi sylw i unrhyw bryderon ynglŷn â Hunanarfarnu AG ac i bwysleisio’r angen i’r ysgolion ddarparu eu hadroddiadau hunanarfarnu i’r CYSAG.

 

 

Dogfennau ategol: