12.1 11C500A – Nwyddau Diogelwch Mona, Stryd Wesley, Amlwch
12.2 19C1170 – 4 Llain Bryniau, Caergybi
12.3 19LPA875B/CC – Parc y Morglawdd, Caergybi
12.4 20C312 – Ysgol Gynradd, Cemaes
12.5 42C61N – Ty’r Ardd, Pentraeth
EITEM HWYR – GYDA CHANIATÂD Y CADEIRYDD
12.6 34LPA1015B/CC – Hyfforddiant Môn, Stad Ddiwydiannol, Llangefni
Cofnodion:
12.1 11C500A – Cais llawn i newid defnydd yr adeilad i 6 fflat ynghyd ag addasu a dymchwel rhan o’r adeilad yn Mona Safety Products, Stryd Wesley, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Gwnaeth y Cynghorydd R. O. Jones gais i ymweld â’r safle. Eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig. Y rhesymau a roddwyd am ymweld â’r safle oedd oherwydd pryderon trigolion lleol ynghylch materion parcio a phriffyrdd ynghyd â’r effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.2 19C1170 – Cais llawn i addasu ac ehangu yn 4 Llain Bryniau, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod sylfeini’r estyniad yn ffinio â thir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 19LPA875B/CC – Cais llawn i newid defnydd rhan o’r tir yn faes i garafanau teithiol (28 o safleoedd), codi bloc cawodydd/toiledau ynghyd â ffurfio ffordd fynediad newydd ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir y Cyngor.
Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Raymond Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Gwnaeth y Cynghorydd R. Ll. Jones, Aelod Lleol, gais i ymweld â’r safle. Y rhesymau a roddwyd am ymweld â’r safle oedd oherwydd materion priffyrdd.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid ymweld â’r safle ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith ei gynnig.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.4 20C312 – Gosod caban symudol i’w ddefnyddio fel meithrinfa ar dir Ysgol Gynradd Cemaes, Cemaes
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W. T. Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 42C61N – Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy yn Tŷ’r Ardd, Pentraeth
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion lle bu penderfyniad i’w wrthod oherwydd bod ôl-troed yr annedd yn rhy fawr. Cafodd y cais ei gymeradwyo trwy apêl. Mae’r cais yn awr am annedd sydd yn fwy na’r maint a ddangoswyd yn yr apêl.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rhys Davies annerch y cyfarfod fel un oedd yn cefnogi’r cais ac fe wnaeth y pwyntiau a ganlyn:-
• Cyflwynwyd cais amlinellol yn flaenorol ar gyfer y safle. Roedd Swyddogion Cynllunio a’r gymuned leol wedi mynegi pryderon ynglŷn â maint yr annedd. Ar y pryd gwrthodwyd y cais ond cafodd ei gymeradwyo ar apêl;
• Mae’r ymgeisydd yn awr wedi cyflwyno cais llawn am annedd llawer llai ar y safle;
• Mae’r annedd a gynigir yn cydymffurfio â dyluniad eiddo eraill yn y cyffiniau.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig i wrthod.
Ar ôl pleidlais ddilynol Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
CAIS HWYR – RHODDODD Y CADEIRYDD EI GANIATÂD I DRAFOD Y CAIS FEL MATER BRYS
12.6 34LPA1015B/CC – Cais llawn i godi 5 o unedau busnes hyblyg ynghyd â chyfleusterau parcio a iard wasanaeth gysylltiedig, tirlunio, pwynt i wefru cerbydau trydan, panelau solar a 2 storfa ar gyfer biniau/ailgylchu a lle i gadw beics ar safle’r hen Hyfforddiant Môn, Stad Ddiwydiannol, Llangefni
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Derbyniodd y Cadeirydd yr eitem fel eitem hwyr ar yr Agenda fel mater o frys. Y rheswm am y brys oedd gallu sicrhau cyllid grant ar gyfer y cynnig oddi mewn i amserlen y sawl sy’n ariannu’r datblygiad, ac felly ni allai adael i’r mater fynd i’r cyfarfod nesaf i’w ystyried.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: