Eitem Rhaglen

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2016/17

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb Refeniw 2016/17.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 i’r Pwyllgor ei ystyried a rhoi sylwadau arno. Roedd yr adroddiad yn ymgorffori'r gyllideb refeniw sefydlog lefel uchel ddrafft gychwynnol ar gyfer 2016/17 (Atodiad A). Roedd hefyd yn nodi’r bwlch tebygol yn y gyllideb yn seiliedig ar y setliad tebygol gan Lywodraeth Cymru ynghyd â’r cynigion arbedion (Atodiad B) a roddwyd ymlaen gan adrannau’r Cyngor i gyfrannu tuag at bontio’r bwlch ariannol.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor ar y prif ystyriaethau fel a ganlyn:

 

  Mae’r Strategaeth Refeniw Tymor Canol sy’n ceisio adnabod y diffyg yn y gyllideb o ganlyniad i’r agenda llymder wedi cael ei diweddaru a chanlyniad hyn yw bod yr Awdurdod mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddo wneud arbedion o tua £5.7m. Mae gwasanaethau’r Cyngor wedi adnabod arbedion gwerth £3.9m a chaiff y rhain eu rhestru yn Atodiad B.

  Disgwylir na fydd y setliad cychwynnol i Lywodraeth Leol yn cael ei gyhoeddi tan fis Rhagfyr 2015 yn ddibynnol ar ganlyniadau’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ar 25 Tachwedd 2015 a disgwylir y Setliad Terfynol cyn 31 Mawrth 2016. Mae’r amserlen hon yn ei gwneud yn fwy anodd cynllunio’r gyllideb oherwydd yr ansicrwydd ynghylch union lefel y toriadau. Rydym wedi ymgorffori rhagamcan darbodus o leihad o 4.5% yn y Cyllid Allanol Cyfunol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016/17.

  Mae risg ariannol yn bodoli ar ffurf gostyngiadau mewn grantiau allanol. Disgwylir toriadau sylweddol yn yr holl gynlluniau grant allanol gan Lywodraeth Cymru. Dau o’r grantiau allweddol lle disgwylir lleihad yn y cyllid yw’r Grant Amgylchedd Sengl (SWMG ynghynt) a’r Grant Cymorth i Wasanaethau Bysus. Disgwylir gostyngiad o 25% i 30% yn lefel y grant cyntaf a allai olygu colled o £400-500k i’r Awdurdod ac yn achos yr ail grant, gallai adolygiad gan Lywodraeth Cymru olygu y bydd y grant yn cael ei ailddosbarthu rhwng y rhanbarthau gyda deilliant mwy ffafriol i ardaloedd trefol De Cymru.

  Byddai gostyngiad o 4.5% yn y Grant Cymorth Refeniw yn golygu setliad o thua £88.8m. Byddai cynnydd arfaethedig o 4.5% yn y Dreth Gyngor yn cynhyrchu £32.3m sy’n rhoi cyfanswm o £121.131m. Mae’r tabl ym mharagraff 2.3.4 yn rhoi lefelau amrywiol y dreth gyngor a’r arbedion fyddai eu hangen ar gyfer pob un.

  Fel rhan o’r fframwaith cynllunio gwasanaeth a chyllideb, mae strategaeth effeithlonrwydd wedi cael ei pharatoi bellach yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion craidd y mae’r broses o adnabod arbedion yn seiliedig arnynt fel yr amlinellir ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

  Mae bwlch cyllidol sylweddol o thua £1.652m yn weddill os caiff yr holl gynigion arbedion eu derbyn ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar ymchwilio i fesurau all gyfrannu tuag at leihau’r bwlch e.e. diswyddo gwirfoddol pan fo hynny’n ymarferol, ac edrych yn agosach ar swyddogaethau anstatudol yr Awdurdod ynghyd â ffordd amgen o ddarparu’r swyddogaeth cartrefi gofal mewnol – nid oes costau yn erbyn yr opsiwn hwn eto, ond mae dal yn opsiwn y gellir edrych arno.

  Nid yw’n fwriad tynnu ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor er mwyn cefnogi’r gyllideb refeniw ond mae’n bosib iawn y bydd rhaid ailymweld â hyn yn ddibynnol ar fanylion y setliad terfynol.

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 eu bod wedi bod yn ofalus wrth ddarogan gostyngiad o 4.5% yn y Grant Cymorth Refeniw – efallai y bydd y gostyngiad yn llai sy’n golygu y byddai llai o fwlch arbedion i’w lenwi, ond fel arall efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwarchod gwasanaethau eraill megis Iechyd sy’n golygu y bydd llai o adnoddau ar gael i Lywodraeth Leol. Pwysleisiodd y Swyddog nad yw cynnydd o 4.5% yn y Dreth Gyngor yn cwrdd â gostyngiad o 4.5% yn y Grant Cymorth Refeniw.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnodd am eglurhad gan y Penaethiaid Gwasanaeth ynglŷn â beth mae eu cynigion arbedion yn ei olygu o ran eu heffaith ar ddefnyddwyr a threthdalwyr a’u heffaith ar safonau gwasanaeth a’r awydd i wella, y modd o’u cyflawni a’r potensial am arbedion effeithlonrwydd pellach i gyfrannu tuag at y bwlch ariannol. Gofynnwyd cwestiynau penodol ynghylch y meysydd a ganlyn:

 

  Dysgu Gydol Oes – Gostyngiad yn y gyllideb sydd wedi’i datganoli i ysgolion

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu ar y prif effeithiau fel a ganlyn -

 

  Bod gwaith yn weddill i’w wneud ar y cynnig effeithlonrwydd hwn ac mae’r Gwasanaeth Cyllid yn ceisio modelu effeithiau’r amrywiol ffyrdd o weithredu’r cynnig.

  Disgwylir y bydd y cynnig yn effeithio’n waeth ar y sector uwchradd yn hytrach na’r sector cynradd oherwydd ffactorau eraill sydd eisoes wedi effeithio ar y sector uwchradd ac oherwydd bod y bylchau cyllidebol yn y sector uwchradd yn uwch a balansau’r cronfeydd wrth gefn yn is.

  Mae’r gostyngiad yn cyfateb i tua 2.5% o gyllideb yr ysgolion ac os caiff ei weithredu, yn y diwedd byddai’n arwain at golli nifer o swyddi dysgu yn ddibynnol ar y model a gaiff ei fabwysiadu. Byddai disgwyl i’r ysgolion weithredu’r toriadau o’r flwyddyn ysgol nesaf ym mis Medi ac felly byddai hynny’n dwysáu’r effeithiau ar y flwyddyn academaidd nesaf dros ddau dymor yn hytrach na dros 3 tymor. Gan gymryd cost gyfartalog swydd ddysgu, disgwylir y byddai hyn yn golygu colli tua 20 swydd ond mae’n debygol o gynyddu os caiff ei weithredu dros ddau dymor.

  Byddai’r cynnig yn golygu bod y sefyllfa ariannol yr ysgolion hynny sydd eisoes yn brin o arian yn gwaethygu oherwydd bod y toriadau’n waeth na’r disgwyl. O ran ysgolion yn y sector uwchradd byddai’n cael effaith ar nifer y staff ac ar ddewis ac amrywiaeth y cwricwlwm yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4 pan fo dewisiadau pwnc yn berthnasol.

  Disgwylir gostyngiad yn y Grant Gwella Ysgolion eleni hefyd; roedd Llywodraeth Cymru yn hawlio 10% yn ôl ar y grant hwn hanner ffordd y llynedd a rhagamcenir gostyngiad o 10% eleni hefyd. Mae’r rhagolygon ariannol ar gyfer cyllid i addysg ôl-16 hefyd yn argoeli’n ddrwg.

  Mae 4 o’r 47 o ysgolion cynradd a 2 o’r 5 ysgol uwchradd mewn sefyllfa o ddiffyg cyllidebol. Mae gan y gweddill falansau wrth gefn ac mae 15 o’r rheini wedi defnyddio eu cronfeydd wrth gefn y llynedd i gydbwyso’r gyllideb.

 

 

 

Nododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn -

 

  Gallai’r cynnig arwain at ddosbarthiadau mwy o faint yn enwedig yn y sector uwchradd gan felly ei gwneud yn fwy heriol i ysgolion gynnal a gwella safonau.

  Efallai y bydd cynnydd yn y dosbarthiadau hynny lle caiff y pwnc ei ddysgu gan athro nad yw’n arbenigo yn y pwnc, ac yn ei dro gallai hynny effeithio ar ansawdd y dysgu.

  Bod darparu addysg o ansawdd uchel sy’n cael ei ariannu’n briodol yn chwarae rhan bwysig mewn symudedd cymdeithasol ac yn galluogi unigolion i sicrhau cyflogaeth sy’n talu’n well a gwell ansawdd bywyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor mewn perthynas â sefyllfa gymharol yr Awdurdod o ran ei agwedd at gyllid Addysg, dywedodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151, o ystyried bod yr Awdurdod wedi ariannu’r cynnydd yn y costau yswiriant gwladol ac wedi ymgorffori'r gost Arfarnu Swyddi, fod tynnu £1m o’r gyllideb sydd wedi’i datganoli i’r ysgolion yn nhermau arian parod yn golygu bod yr Awdurdod mwy neu lai yn yr un sefyllfa, ac yn gyffredinol mae’n adlewyrchu'r modd y mae awdurdodau eraill Gogledd Cymru yn mynd i’r afael â hyn. Rydym wedi cyrraedd y pwynt lle na all yr Awdurdod Lleol gynnig yr un lefel o warchodaeth i gyllidebau’r ysgolion mwyach ag y mae wedi’i wneud yn  y gorffennol yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru.

 

  Dysgu Gydol Oes – Prydau Ysgol

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu ei fod yn arferiad cynyddu pris prydau ysgol yn rheolaidd, fel arfer yn flynyddol, i adlewyrchu cost chwyddiant, prisiau bwyd a chyflogaeth trwy’r contract gyda Caterlink. Mae’r cynnydd hwn wedi bod yn tua 5c fesul pryd y flwyddyn ond nid yw’n adlewyrchu gwir gost y ddarpariaeth. Byddai’r cynnydd arfaethedig ar gyfer 2016/17 yn mynd â phris pryd ysgol yn y sector cynradd i £2.10 y pryd o fis Medi nesaf ymlaen ac i £2.25 y pryd   yn y sector uwchradd sy’n gynnydd o 10c, ond mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith na fu unrhyw gynnydd yn 2015/16. Cadarnhaodd y Swyddog, o gymharu â’r mwyafrif o Awdurdodau eraill Gogledd Cymru, fod prisiau Ynys Môn tua’r canolrif oherwydd mae rhai awdurdodau yn codi mwy a rhai yn codi llai.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y plant hynny’n sy’n gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim a dywedodd fod nifer y plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ffactor sy’n dylanwadu ar yr adnoddau sy’n cael eu dyrannu i’r awdurdod ac yn uniongyrchol i’r ysgolion trwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Eleni mae’r grant yn tua £1,000 a'r flwyddyn nesaf bwriedir y bydd yn cynyddu i tua £1,100 i bob disgybl ymhob ysgol sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. O ran annog rhieni'r plant sy’n gymwys i dderbyn prydau am ddim i wneud hawliad, yn y gorffennol mae’r Awdurdod wedi defnyddio swyddogion lles a swyddogion eraill i godi ymwybyddiaeth a rhoi anogaeth ac mae wedi gweithio gydag ysgolion yn y ddau sector i adnabod pa deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae ymdrechion ar waith hefyd i gyfuno’r gwaith sy’n gysylltiedig â phrydau am ddim gyda’r gwaith y mae Adain Budd-daliadau’r Cyngor yn ei wneud gyda theuluoedd.

 

Nododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn –

 

  Y gallai’r cynnydd arfaethedig yn y prisiau prydau ysgol effeithio’n andwyol ar y teuluoedd hynny sydd ar y ffin o fod yn gymwys am brydau am ddim, sy’n ychwanegu at yr effaith y gallai’r teuluoedd hynny fod yn ei wynebu hefyd o’r gostyngiad yn y Credydau Treth Gwaith a’r Credydau Treth Plant.

  Awgrymwyd, petai’r setliad Grant Cymorth Refeniw yn uwch na’r disgwyl, y gellid defnyddio’r arian dros ben i gadw prisiau prydau ysgol ar eu lefelau cyfredol.

  Ei bod yn hanfodol fod yr Awdurdod yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod rhieni'r holl ddisgyblion sy’n gymwys am brydau am ddim yn cyflwyno hawliad.

 

  Gwasanaethau Oedolion – Allanoli’r Ddarpariaeth Cartrefi Gofal Mewnol at y dyfodol

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cynnig wedi cael ei gynnwys am ei fod  yn opsiwn arbedion posib a bod tystiolaeth yn dangos bod modd i’r sector annibynnol gomisiynu a darparu cartrefi gofal yn fwy economaidd. Er na ddarperir unrhyw fanylion penodol, mae’r cynnig wedi cael ei gynnwys yn y cylch o fesurau arbedion eleni fel y gellir cytuno mewn egwyddor ar ymchwilio ymhellach i’r opsiynau ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y misoedd i ddod, gyda’r bwriad o ddatblygu opsiynau penodol a dealltwriaeth o’r arbedion y gallant eu cyflawni gan hefyd gadw mewn cof sefyllfa gyfredol y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion. Gallai’r ymchwiliad hwn fod ar ffurf darn o waith i werthuso manteision ac anfanteision yr opsiwn uchod, i’w gyflwyno wedyn i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiynau yn gofyn a fyddai modd cyflymu’r broses, dywedodd y Swyddog fod y broses yn mynd ymlaen mor sydyn â phosib ac y gellir edrych ar ddewisiadau amgen wrth i’r model ddatblygu.

 

Nododd y Pwyllgor fod angen gwneud penderfyniad mewn egwyddor i ddechrau a rhoi ystyriaeth i fodelau amgen i allanoli/preifateiddio. Nododd y Pwyllgor hefyd y byddai’n briodol iddo gael ei gynrychioli ar y Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion a chytunwyd y byddai eitem i’r perwyl hwnnw’n cael ei chynnwys ar Agenda'r cyfarfod nesaf.

 

 Tynnu Grantiau ar draws Gwasanaethau ar gyfer y Celfyddydau/ Addysg/Digwyddiadau Mawr

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod £40k o arbedion wedi cael eu cynnig o’r gyllideb £90k o grantiau/ffioedd gan yr Adran Ddysgu Gydol Oes. Rhoddwyd ystyriaeth i’r sefydliadau hynny oedd yn derbyn symiau mwy sylweddol o grant a rhoddwyd ystyriaeth i dynnu’r cyfrifoldeb amdanynt i du allan i’r Cyngor. O ran un sefydliad penodol, amlygwyd bod rhaid iddo fod yn derbyn cyllid craidd oddi wrth y Cyngor er mwyn gallu manteisio ar gyllid o ffynonellau eraill. Eglurodd y Swyddog sut maent wedi medru goresgyn y broblem hon. Yn yr achosion hynny lle cynigir y dylid tynnu cyllid yn ôl yn gyfan gwbl, yn bennaf mewn perthynas â grantiau bach, darparwyd cyngor i’r sefydliadau a effeithir ar ffyrdd amgen o gymorth e.e. gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Cadarnhaodd y Swyddog ei bod o'r farn bod lle i ostwng y gyllideb grantiau ymhellach os oes angen, ond gan gadw mewn cof efallai y bydd hyn yn effeithio ar sefydliadau ac y gallai gymryd mwy o amser na mis Ebrill nesaf i'w weithredu.

 

Adroddodd y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol bod arbedion o £6k (40%) yn cael eu cynnig o'r gyllideb o £14k ar gyfer grantiau i gefnogi digwyddiadau ar draws yr Ynys. Mae’r digwyddiadau a gefnogwyd yn y gorffennol yn cynnwys Gŵyl Bwyd Môr Porthaethwy a’r Ŵyl  Gopr. Mae'r gyllideb hon wedi bod yn gostwng yn flynyddol a gobeithir y gellir sefydlu proses lle gall cyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol fod ar gael i roi cymorth a phontio'r bwlch. Mae elfen  o anghydraddoldeb yn rhanbarthol yn y cyswllt hwn yn yr ystyr bod Ynys Môn a Gwynedd yn lleihau eu cyllidebau ar gyfer digwyddiadau tra bod Conwy ar y llaw arall yn buddsoddi swm

sylweddol i gefnogi digwyddiadau o fewn y sir. Pwysleisiodd y Swyddog fod y gyllideb yn arbennig o bwysig a’i bod yn ychwanegu gwerth wrth ddarparu cefnogaeth a helpu i sefydlu digwyddiadau newydd – wrth i’r digwyddiadau hynny ddechrau ymsefydlu gellir gostwng y cymorth grant gan y Cyngor wedyn ar sail gymesur.

 

Nododd y Pwyllgor fod yna risg i enw da o ran lleihau a / neu dynnu'n ôl y gefnogaeth i fudiadau a digwyddiadau.

 

O ran y gostyngiad arfaethedig yn y gefnogaeth i sefydliadau'r Trydydd Sector, dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 fod y Gwasanaeth Cyllid yn gwneud ymholiadau i sefydlu pa fudiadau gwirfoddol sy’n derbyn grantiau allanol a drosglwyddir iddynt gan y Cyngor a hynny er mwyn eu tynnu allan o'r hafaliad ac edrych wedyn ar wasanaethau i fesur effaith gostyngiad canrannol yn y gyllideb hon arnynt. Rhoddwyd cyfle i Brif Swyddog Medrwn Môn roi safbwynt y Trydydd Sector a chwestiynodd y rhesymeg o doriad o 5% ar draws y bwrdd i’r cyllid ar gyfer y trydydd sector, yn arbennig o ran y sefydliadau hynny sy'n cynorthwyo i gyflawni blaenoriaethau’r Cyngor ac awgrymodd fod angen dull mwy hyblyg. Pwysleisiodd y Swyddog hefyd fod angen hysbysu’r sector ynghylch goblygiadau adolygiadau contract a bod angen rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am gyfleoedd sy'n deillio o gynigion allanoli a rhoi gwybod hefyd am y modd y mae'r Cyngor yn bwriadu mesur effaith y toriad yn y cyllid . Adroddodd y Cyfarwyddwr Cymuned yn fanwl ar y broses gyllidebol a’r dull a fabwysiadwyd eleni gyda’r Trydydd Sector, ynghyd â'r materion allweddol a'r camau a gymerwyd i sicrhau bod y Trydydd Sector yn cael y

wybodaeth ddiweddaraf. Disgwylir i bob gwasanaeth gysylltu â sefydliadau cyn diwedd y flwyddyn galendr ynghylch goblygiadau unrhyw gynnig penodol sy'n effeithio ar sefydliad unigol.

 

Nododd y Pwyllgor fod y disgwyliadau ar y Trydydd Sector yn cynyddu tra bod y gefnogaeth ariannol yn gostwng.Oherwydd bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru yn cyflwyno newid mewn pwyslais, gan symud i ffwrdd o ofal gan yr awdurdod lleol i fwy o ofal yn y gymuned, nododd y Pwyllgor o ganlyniad fod angen i'r Awdurdod dynnu sylw at ei flaenoriaethau ar gyfer sefydliadau'r Trydydd Sector yn y Gwasanaeth Oedolion a’r Gwasanaeth Plant fel ei gilydd.

 

  Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo at y cynnig i symud i gasglu gwastraff gweddilliol bob 3 wythnos neu 4 wythnos (a oedd yn destun ymgynghoriad gyda'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd) a’r arbedion a gynhyrchid gan bob opsiwn. Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at y targedau ailgylchu statudol, heriol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol o ran ailddefnyddio, ailgylchu ac adennill gwastraff a'r cosbau am fethu â chyrraedd y targedau hynny.(Ar gyfer Ynys Môn hyn ’roedd yn golygu dirwy o £80k am bob 1% yr oedd yn brin o’r targed ailgylchu a osodwyd).

 

Tra'n nodi y byddai’r arbedion mwyaf yn dod yn sgil mabwysiadu trefn i gasglu gwastraff gweddilliol bob 4 wythnos, mynegwyd barn yn y Pwyllgor y byddai hyn yn ormod o newid o fod yn casglu pob pythefnos fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth wedi argymell casglu bob 3 wythnos fel yr opsiwn yr oedd yn ei ffafrio.

 

Nododd y Pwyllgor felly bod risg yn gysylltiedig â gwireddu’r cyfanswm arbedion o £300k a gynigiwyd gan yr Adain Gwastraff a bod y risg honno’n dibynnu ar ba opsiwn ar gyfer casglu gwastraff gweddilliol fydd yn cael ei gymeradwyo yn y pen draw ac ar barhau i gludo gwastraff i’w ailgylchu i St Helens a Runcorn yn hytrach nag i safle tirlenwi yn Llanddulas. (Dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus y bydd y trefniant hwn yn parhau)

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i adnewyddu a chynyddu ymdrechion i godi ymwybyddiaeth mewn ardaloedd lle mae'r cyfraddau ailgylchu’n isel ar hyn o bryd.

 

  Cynnydd 4.5% yn y Dreth Gyngor

 

O ystyried yr ansicrwydd ar hyn o bryd o ran y setliad y gallai'r Awdurdod ei dderbyn, teimlai’r Pwyllgor nad oedd mewn sefyllfa i fynegi barn ar y cynnydd arfaethedig o 4.5% yn y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn cytuno ei bod yn ddoethach cynllunio ar sail y sefyllfa waethaf na chodi gobeithion y cyhoedd o gael cynnydd llai. Nododd y Pwyllgor y cynnig cyfredol felly.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 efallai y daw opsiynau ar gael i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor wrth i’r broses symud ymlaen ac wrth i’r sefyllfa o ran y setliad ariannol a’r bwlch ariannol ddod yn gliriach a, petai’r ffigyrau’n caniatáu, efallai y byddai cyfle i'r Pwyllgor Gwaith gyflwyno cynnig am gynnydd llai fel ei gynnig terfynol i'r Cyngor. Dyna fyddai’r adeg orau i gyflwyno sylwadau’r Pwyllgor hwn mewn perthynas â'r cynnydd yn y Dreth Gyngor.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar y modd y mae'r Cyngor yn cyfathrebu ac yn ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y cynigion ar gyfer arbedion a’r Dreth Gyngor. Awgrymodd y Pwyllgor y dylid gwahodd y cyhoedd, fel rhan o'r broses ymgynghori, i gyflwyno barn ar flaenoriaethau'r Cyngor a chynnig opsiynau eraill / pellach i gwrdd â'r diffyg yn y gyllideb. Cynigiodd y Pwyllgor hefyd fod yr ymgynghoriad gyda'r cyhoedd yn cynnwys gwybodaeth am golli grantiau / gostyngiad mewn grantiau os yw’n hysbys, a hynny er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am sefyllfa ariannol y Cyngor a bod yr ymgynghoriad cyhoeddus mor deg a thryloyw â phosibl.

 

  Opsiynau posibl ar gyfer Adnabod Arbedion Effeithlonrwydd Pellach

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor ar opsiynau sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â gweithio’n gallach, creu incwm, mabwysiadu ymagwedd fwy masnachol tuag at rai o weithgareddau'r Cyngor a dadansoddiad manylach o swyddogaethau anstatudol y Cyngor. Nodwyd y rheini gan y Pwyllgor.

 

Gofynnwyd i'r Penaethiaid Gwasanaeth gadarnhau, i’r graddau mae hynny’n bosib, pa mor gyraeddadwy oedd y cynigion ar gyfer arbedion a gynigiwyd ganddynt. Amlygodd y Swyddogion y risgiau cysylltiedig o ran y rheini a fyddai’n cael yr effaith fwyaf.

 

Penderfynwyd -

 

  Nodi'r cynnydd arfaethedig cyfredol o 4.5% yn y Dreth Gyngor a nodi'r bwriad i edrych arno eto ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ac ar ôl derbyn gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch y setliad i Lywodraeth Leol.

  Nodi cynigion arbedion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith fel y cyflwynwyd nhw ynghyd â'r bwlch cyllidebol cyfredol o £1.6m.

  Argymell i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn ymdrechu, fel rhan o'r trefniadau ymgynghori ar y gyllideb, i geisio barn y cyhoedd ynghylch unrhyw opsiynau pellach a/neu amgen ar gyfer eu blaenoriaethau am y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Dogfennau ategol: