Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasaneth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mewn perthynas â’r uchod.
MAE GWAHODDIAD WEDI EU HANFON I HOLL AELODAU’R CYNGOR I FYNYCHU’R CYFARFOD MEWN PERTHYNAS A’R EITEM HON.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mewn perthynas â’r Gwerthusiad Opsiynau ar gyfer Casglu Gwastraff.
Rhoes y Cadeirydd groeso i Mr. Adrian Gibbs, Euromia Research & Consulting, Ms. Kelly Thomas, WRAP Cymru a Mr. Andrew Dutton, Biffa Municipal i’r cyfarfod. Dywedodd hefyd fod holl Aelodau’r Cyngor Sir wedi cael gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor Sgriwtini ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem hon.
Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod Gwasanaeth Rheoli Gwastraff Ynys Môn bellach wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol lle bydd angen newid sylfaenol yn y modd o ddarparu’r gwasanaeth i gwrdd â thargedau tymor hir. Mae heriau mawr yn bodoli o ran cwrdd â thargedau ailgylchu statudol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) i’r dyfodol ac yn sgil yr angen i weithredu gwasanaethau’n fwy effeithlon oherwydd toriadau yn y gyllideb. Mae casglu a phrosesu defnyddiau i’w hailgylchu yn llawer rhatach na chasglu a chael gwared ar / trin gwastraff gweddilliol ‘bag du’. Felly, os oes modd cyflwyno systemau casglu newydd lle gellir cyfyngu ar lefel y gwastraff gweddilliol mewn rhyw ffordd, bydd hynny’n golygu y byddai modd ailgylchu mwy o wastraff a gostwng costau’n gyffredinol.
Mae LlC wedi pennu targedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol i ailgylchu, ailddefnyddio ac adennill gwastraff; sef 58% o wastraff cyhoeddus ar gyfer 2015/16; 64% ar gyfer 2019/20 a 70% ar gyfer 2024/25. Gall methiant i gwrdd â’r targedau statudol hyn olygu bod LlC yn rhoi dirwy o £200 y dunnell yn seiliedig ar nifer y tunelli y mae’r awdurdod yn brin o’r targed statudol a restrir. Yn achos Ynys Môn, mae hyn yn golygu y byddai’n rhaid i’r Cyngor dalu oddeutu £80k mewn dirwyon am bob 1% y mae’n brin o’r targed ailgylchu. Amcangyfrifir bod perfformiad Ynys Môn o ran ailgylchu ar hyn o bryd yn 55% ar gyfer 2015/16.
I sicrhau’r cyfle gorau posib o ran cwrdd â’r targed ailgylchu statudol o 58% ar gyfer 2015/16, mae’r Adain Rheoli Gwastraff ar hyn o bryd yn cludo rhywfaint o’i wastraff gweddilliol i’w drin yn hytrach na defnyddio safleoedd tirlenwi, lle mae rhywfaint o’r deunydd ‘pen pellaf’, sef y lludw a gynhyrchir yn sgil llosgi’r gwastraff mewn llosgydd yn cael ei gyfrif tuag at gyfraddau ailgylchu. Gobeithir y bydd y dull hwn yn sicrhau y gellir cwrdd â’r targed o 58% ar gyfer 2015/16.
Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff hefyd fod Swyddogion y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda Rhaglen Newid Cydweithredol WRAP Cymru (a gyllidir gan LlC i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddylunio a darparu gwasanaethau ac i lunio strategaethau), Biffa a swyddogion o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf i drafod pa opsiynau sydd ar gael i sicrhau’r cynnydd mawr sydd raid wrtho yn y cyfraddau ailgylchu. Mae'r rhan fwyaf o gynghorau ar draws Cymru yn edrych ar opsiynau i gyfyngu ar wastraff gweddilliol ac mae amryw ohonynt wrthi’n cyflwyno biniau llai neu’n casglu gwastraff gweddilliol bob 3 wythnos neu wedi gwneud hynny’n barod. Mae nifer gynyddol o awdurdodau lleol hefyd yn ystyried casglu gwastraff gweddilliol bob 4 wythnos.
Gan ddefnyddio cyllid gan WRAP Cymru, penodwyd ymgynghorydd allanol profiadol (Eunomia) i gynnal dadansoddiad manwl o’r opsiynau mewn perthynas â systemau casglu gwastraff ar ochr y ffordd ac i benderfynu beth fyddai’r costau a’r adnoddau y byddai eu hangen os byddai lefel y gwastraff gweddilliol yn cael ei chyfyngu mewn rhyw fodd.Sefydlwyd gweithgor ar y cyd i nodi rhai egwyddorion allweddol y byddai’n rhaid eu mabwysiadu fel rhan o unrhyw waith i fodelu gwerthusiadau newydd o’r opsiynau ar gyfer gwneud unrhyw newidiadau i’r system casglu gwastraff.
Rhoes Mr. Adrian Gibbs, Euromia Research & Consulting a Ms. Kelly Thomas, WRAP Cymru gyflwyniad i’r pwyllgor ar y gwaith a wnaed ar werthuso’r opsiynau ar gyfer casglu gwastraff yn Ynys Môn. Roedd tabl yn dangos crynodeb o ganfyddiadau’r holl Werthusiadau o’r Opsiynau ynghlwm wrth adroddiad fel Atodiad 1.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y sylwadau a ganlyn:-
· I gwrdd â thargedau statudol LlC mewn perthynas ag ailgylchu, mae angen blychau mwy/blychau eraill ar gyfer ailgylchu deunyddiau ynghyd â phlastigau cymysg eraill;
· Dywedodd rhai aelodau fod pobl yn prynu gormod o fwyd, h.y. ‘prynu un/dau, cael un am ddim’ ac yna’n taflu’r bwyd nad ydynt ei angen;
· Problemau posibl yn achos pobl sy’n byw mewn fflatiau ac sy’n defnyddio cyfleusterau gwastraff cymunedol;
· Posibilrwydd y ceir gwared ar wastraff yn anghyfreithlon. Dywedodd y Swyddogion nad yw awdurdodau lleol eraill sydd wedi cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff pob tair wythnos wedi gweld unrhyw gynnydd yn lefel y gwastraff y cafwyd gwared arno’n anghyfreithlon yn eu hardaloedd;
· Pryderon ynghylch y posibilrwydd o bla os bydd gwastraff gweddilliol yn cael ei gasglu pob 4 wythnos;
· Dywedodd rhai aelodau fod eu hetholwyr wedi cysylltu gyda nhw yn gwrthwynebu’r cynnig i wagio biniau duon bob 4 wythnos oherwydd bod y Cyngor yn cynnig cynnydd o 4.5% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2015/16;
· Mae angen i archfarchnadoedd becynnu llai ar fwyd. Roedd y Swyddogion yn cytuno fod angen rhoi sylw i hyn ac ystyriwyd bod siopau yn delio gyda’r materion hyn;
· Byddai aelwydydd gyda theuluoedd mawr yn ei chael yn anodd ymdopi gyda’r cynnig i gasglu gwastraff gweddilliol ‘bin du’ pob 4 wythnos. Dywedodd y Swyddogion y byddai’r opsiwn i ddarparu blychau ailgylchu ychwanegol yn cael ei drafod gyda Biffa fel rhan o unrhyw amrywiad i’r contract;
· Angen rhoi sylw i gyfleusterau ar gyfer clytiau. Dywedodd y Swyddogion y byddai clytiau’n cael eu casglu bob pythefnos, sef yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd;
· Mynegwyd pryderon ynghylch pobl yn byw yn y cefn gwlad sy’n gorfod danfon eu biniau trwm i bwyntiau casglu dynodedig. Dywedodd y Swyddogion fod gwasanaeth ‘nôl a danfon’ ar gael ar gyfer pobl mewn oed a phobl a chanddynt broblemau iechyd;
· Rhaid rhoi sylw blaenllaw i addysgu pobl mewn perthynas ag ailgylchu a’r dirwyon y gellir eu codi ar gyfer cael gwared ar wastraff gweddilliol er mwyn cwrdd â thargedau ailgylchu LlC. Mae angen mynd at y Cynghorau Tref a Chymuned a’r Cynghorau Ysgol. Dywedodd y Swyddogion fod 2 Swyddog dynodedig wedi cael eu cyflogi i fynychu ysgolion a sefydliadau eraill i sôn am bwysigrwydd ailgylchu;
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff Domestig Gwalchmai i ddelio gyda mwy o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu. Dywedodd y Swyddogion y byddai’n rhaid gwneud gwaith addasu yng Nghanolfan Ailgylchu Gwalchmai i ddelio gyda’r gwaith ailgylchu ychwanegol (fel y nodir yn Atodiad 1);
· Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r cynnydd ym mhoblogaeth yr Ynys oherwydd mewnlifiad gweithwyr i adeiladu Wylfa Newydd. Dywedodd y Swyddogion nad yw’r mater hwn wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad i’r Pwyllgor ond bydd angen codi’r mater gyda Pŵer Niwclear Horizon yn y man;
· Gofynnwyd am dabl yn dangos y ffigyrau ailgylchu ar gyfer pob cymuned.
Yn dilyn trafodaethau maith, PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith :-
GWEITHREDU: Bod argymhelliad y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio’n cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyried yn y cyfarfod a gynhelir ar 30 Tachwedd, 2015.
Dogfennau ategol: