Eitem Rhaglen

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Strwythur yr Ardal ac wedi hynny derbyn cwestiynau ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd.

 

(MAE GWAHODDIAD WEDI EU HANFON I HOLL AELODAU’R CYNGOR I FYNYCHU’R CYFARFOD MEWN PERTHYNAS A’R EITEM HON).

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd groeso i Mrs. Ffion Johnstone, Mr. Andrew Jones, Mr. Geoff Lang, Ms. Alison Cowell a Mr. Wyn Thomas fel cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod. Nodwyd nad oedd Mr. Simon Dean, y Prif Weithredwr Dros Dro yn gallu bod yn y cyfarfod oherwydd ei fod wedi cael galwad i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru. 

 

Nododd y Cadeirydd ymhellach fod holl Aelodau’r Cyngor Sir wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon a’u bod wedi cael cyfle i gyflwyno cwestiynau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn y cyfarfod. Roedd ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd wedi cael ei anfon at Aelodau’r Cyngor Sir.

 

Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dwyn sylw at yr isod :-

 

Egwyddorion Gweithredu

 

·           Ymgysylltu gyda’r cyhoedd a staff;

·           Gweledigaeth Gogledd Cymru – Darparu Gwasanaethau yn Lleol;

·           Dadansoddiad o anghenion y boblogaeth a chleifion, ‘beth sy’n bwysig’;

·           Atal salwch a lleihau dibyniaeth;

·           Comisiynu gwybodus ar gyfer gofal sylfaenol;

·           Diwylliant ardal-eang o Weithio mewn Partneriaeth;

·           Llwybrau’n cael eu harwain gan y gymuned – y cartref yw’r rhagdybiaeth gyntaf;

·           Datblygu’r Gweithlu – dadansoddiad o’r cymysgedd o sgiliau, swyddogaethau generig ac uwch;

·           Cynllunio Olyniaeth;

·           Sefydlu’n gadarn drefniadau ar gyfer diogelu Plant ac Oedolion;

·           Diogelwch cleifion, rheoli risg ac ansawdd y gwasanaeth;

·           Cynllunio gweithredol a busnes cadarn, rheolaeth ariannol, atebolrwydd a rheoli perfformiad.

 

Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd

 

·           Cleifion a chymunedau’n llai dibynnol;

·           Clystyrau’n dylanwadu ar y system;

·           Perthnasau o ymddiriedaeth ar lefel leol;

·           Gwasanaethau cymunedol craidd a thimau integredig cadarn;

·           Gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau lleol gyda phartneriaid a staff yn cymryd perchenogaeth a chymunedau lleol yn eu deall, cynllunio ar y cyd;

·           Gweithlu wedi ei ysbrydoli a chanddo’r sgiliau priodol;

·           Gwasanaethau wedi eu moderneiddio drwy dechnoleg ac arloesedd;

·           Gwella enw da Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;

·           Gwneud penderfyniadau ar lefel leol a dylanwadu ar y cyfeiriad strategol.

 

Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb a mynegwyd y sylwadau a’r pryderon a ganlyn :-

 

·           BIPBC yn gwneud newidiadau dros dro i Wasanaethau i Ferched a Gwasanaethau Mamolaeth yng Ngogledd Cymru. Pryderon ar Ynys Môn bod gwasanaeth mamolaeth arbenigol yn Ysbyty Gwynedd mewn perygl. Dywedodd BIPBC mewn ymateb eu bod ar hyn o bryd wrthi’n gweithio drwy’r ymatebion i’r ymgynghori ar wasanaethau mamolaeth yng Ngogledd Cymru ac y bydd adroddiad yn cael ei baratoi wedyn ar yr asesiad o’r effaith ar ansawdd ac iechyd a’i gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd yn gynnar ym mis Rhagfyr. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwahodd y Coleg Brenhinol Obstetreg a Gynecoleg i weithio ochr yn ochr â Thîm Clinigol y Bwrdd ar draws Gogledd Cymru i edrych ar wasanaethau cyfredol y Bwrdd Iechyd i Ferched a’r Gwasanaeth Mamolaeth. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y gwasanaethau Obstetreg yng Ngogledd Cymru. Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn bod angen cadw’r Gwasanaethau i Ferched a’r Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor;  

 

·           Mae’r Cyngor Sir, drwy ei Raglen Drawsnewid ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i oedolion, yn ymrwymedig i ddatblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol ar hyd a lled Ynys Môn gan gefnogi gweledigaeth y Cyngor i symud oddi wrth ofal preswyl traddodiadol a chyflwyno modelau gofal amgen. Gofynnwyd a ymgynghorwyd gyda BIPBC fel rhan o’r ymgynghoriad yn ddiweddar ynghylch Cartref Preswyl Haulfre yn Llangoed.  Mewn ymateb, dywedodd BIPBC y trafodwyd Cartref Preswyl Haulfre mewn cyfarfod o Fwrdd Integredig ac arno gynrychiolwyr o BIPBC, y Cyngor Sir a’r Trydydd Sector. Dywedodd Mrs Ffion Johnston, Cyfarwyddwr Ardal (Y Gorllewin) ei bod hefyd yn  cyfarfod yn rheolaidd gyda Phrif Swyddogion y Cyngor Sir ac y cafwyd trafodaeth ynghylch darpariaethau Gofal Ychwanegol ar Ynys Môn;

 

·           Yn ddiweddar, mae amlder sgrinio serfigol i ferched dros 50 oed wedi cael ei newid o 3 i 5 mlynedd. Gofynnwyd a oedd hynny oherwydd tystiolaeth glinigol neu’r angen i arbed arian. Mewn ymateb, dywedodd BIPBC bod sgrinio yn cael ei yrru gan dystiolaeth glinigol ac argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Dengys astudiaethau bod sgrinio merched rhwng 50-64 oed bob pum mlynedd yn cynnig yr un diogelwch â sgrinio bob tair blynedd oherwydd mae’r siawns o gael canser serfigol yn gostwng gydag oed.  Mae 78% o ferched ar Ynys Môn yn mynd i sesiynau sgrinio serfigol;

 

·           O ran gofal y fron a diagnosis canser, holwyd am yr amser aros cyfredol am gyfeiriad i weld arbenigwr. Dywedodd BIPBC y byddai’n rhaid iddynt adrodd yn ôl gyda data am yr amseroedd aros cyfredol ar gyfer gofal y fron a diagnosis canser;

 

·           Uned Seiciatrig Hergest yn Ysbyty Gwynedd -

 

·        Gofynnwyd faint o gwynion a gafwyd ynghylch ymddygiad ymosodol gan gleifion eraill neu ymddygiad annerbyniol staff tuag at gleifion mewn perthynas ag Uned Seiciatrig Hergest yn 2015.  Mewn ymateb, dywedodd BIPBC y cafwyd 16 o gwynion gan gleifion yn 2015.  Bydd angen adrodd yn ôl i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch digwyddiadau’n ymwneud â chleifion a staff;

 

·        Gofynnwyd faint o achosion o chwythu’r chwiban gan staff a gafwyd yn 2015 ac a yw’r data hanesyddol yn adlewyrchu unrhyw batrwm. Dywedodd BIPBC na chafwyd unrhyw achosion o chwythu’r chwiban yn Uned Hergest yn 2015.  Ymgymerwyd â rhaglen waith gyda staff a chefnogaeth allanol i wella safon y gofal yn Uned Hergest. Gofynnwyd am farn y Bwrdd Comisiwn Seiciatreg mewn perthynas ag   ansawdd y gwasanaeth yn Uned Hergest;  

 

  • Mae cyflwr mewnol yr Uned Hergest wedi cael ei adael i ddirywio dros y blynyddoedd. Ymatebodd BIPBC y bydd ansawdd yr amgylchedd yn Uned Hergest yn cael ei ymgorffori yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a oedd yn digwydd ar hyn o bryd. 

 

·           Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi ac Ysbyty Cefni, Llangefni – holwyd ynghylch bwriadau BIPBC ar gyfer y ddau ysbyty yn y dyfodol. Ymatebodd BIPBC fod yna ward wag yn Ysbyty Penrhos Stanley a bod ymchwiliadau’n cael eu gwneud ar hyn o bryd i leoli uned therapi mewnwythiennol ac asesu yn Ynys Môn.  Mae uned asesu breguster yn cael ei hystyried ar gyfer Ysbyty Penrhos Stanley.  Mae ward iechyd meddwl yn bodoli ar hyn o bryd yn Ysbyty Cefni ac mae BIPBC yn ymchwilio i sefydlu uned iechyd meddwl ar gyfer pobl o bob oed yn y dyfodol.  Fodd bynnag, pwysleisiwyd nad oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ar gyfer dyfodol y cyfleuster hyd yma.  Bydd angen i'r Cyfarwyddwr Ardal (Y Gorllewin) a Swyddogion o'r Awdurdod Lleol drafod y defnydd posib o'r cyfleusterau yn y man;

 

·           Mae cleifion sy’n ceisio cael apwyntiad gyda meddyg teulu yn gorfod gwneud nifer o alwadau ffôn cyn cael trwodd.  Mae llawer yn mynychu'r Uned Damweiniau ac Achosion Brys neu’n ffonio’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn Ysbyty Gwynedd gan eu bod yn cael trafferth  gwneud apwyntiad gyda'u meddygon teulu eu hunain.  Ymatebodd BIPBC trwy ddweud bod llawer o feddygfeydd ar yr Ynys yn ymchwilio i systemau ffôn / apwyntiadau newydd ac efallai y bydd angen i'r bwrdd iechyd eu cefnogi’n ariannol gyda hyfforddi staff eraill o fewn meddygfeydd meddygon teulu;

 

·           Materion recriwtio gyda staff nyrsio.  Ymatebodd BIPBC y bu newid sylweddol dros y 3 blynedd diwethaf o ran faint o nyrsys a ddisgwylir ar wardiau a hynny er mwyn adlewyrchu natur newidiol anghenion pobl sy'n cael gofal.  Mae'r DU gyfan yn ceisio recriwtio staff yn dilyn Adroddiad Frandis ar y gwasanaeth iechyd gwladol yn Swydd Stafford.  Mae’r rhaglenni hyfforddi ar ei hôl hi.

 

·           Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y gymhareb rhwng swyddi rheoli/ gweinyddol  a swyddi staff meddygol yn Ysbyty Gwynedd.  Holwyd hefyd a oedd BIPBC yn ystyried diswyddo gwirfoddol ar gyfer swyddi gweinyddol.  Ymatebodd BIPBC fod y gymhareb staff meddygol yn Ysbyty Gwynedd yn llawer uwch nag yn unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru.  Dywedwyd bod y swyddi gweinyddol yn rhan o dimau clinigol da yn Ysbyty Gwynedd ac nid oes bwriad i gynnig diswyddiadau gwirfoddol oherwydd bod nifer y swyddi gweinyddol wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd.  Bydd manylion ynghylch y costau rheoli’n cael eu hanfon at yr Aelodau maes o law;

 

·         Mae camddefnyddio cyffuriau / alcohol yn cael effaith ddifrifol ar blant, teuluoedd a'r henoed.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant ei bod yn cytuno yn llwyr â'r datganiad bod camddefnyddio cyffuriau / alcohol yn cael effaith enbyd ar blant a theuluoedd.  Mae'r Cyngor Sir yn awdurdod arweiniol ar gyfer Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd Gwynedd a Môn (ar ran Gwynedd ac Ynys Môn a'r Bwrdd Iechyd) sy'n gweithio gyda theuluoedd lle mae problemau cyffuriau ac alcohol yn peryglu diogelwch y plant yn eu cartrefi.  Cafodd y gwasanaeth 20 o atgyfeiriadau'r llynedd, ac yn ystod y 6 mis diwethaf, mae 20 o atgyfeiriadau eraill wedi eu derbyn.  Nododd y Cyfarwyddwr Cymuned fod Bwrdd 'Model Môn' ar gyfer oedolion wedi cael ei ymgorffori o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ers nifer o flynyddoedd a bod bwriad i ymgorffori Bwrdd 'Model Môn' ar gyfer gwasanaethau plant hefyd; mae gwahoddiad wedi ei estyn i'r Pennaeth Dysgu fod yn aelod o'r Bwrdd hwn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ddod i'r cyfarfod ac i holl Aelodau a Swyddogion y Cyngor Sir am eu cyfraniadau i’r eitem hon.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a disgwyl am ymateb BIPBC i'r materion ynglŷn â pham nad oedd gwybodaeth ar gael yn y cyfarfod. 

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: