Eitem Rhaglen

Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru

(a)    Derbyn cyflwyniad gan y Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch yr uchod.

 

(b)    Derbyn copi o Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Andy Bruce a Mr Jeremy Evans o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod. Nododd Mr Bruce nad oedd Mr Huw Lloyd Jones yn medru dod i’r cyfarfod am ei fod wedi colli ei fam yn ddiweddar. Roedd Aelodau a Swyddogion y Cyngor Sir yn dymuno mynegi eu cydymdeimlad dwysaf â Mr Huw Lloyd Jones a’i deulu.

 

Rhoddodd Mr Bruce grynodeb o’r meysydd allweddol o’r Asesiad Corfforaethol i’r Cyngor llawn. Nododd fod sylwadau AGGCC ac Estyn wedi eu hymgorffori yn yr adroddiad hwn h.y. –

 

·   Roedd y Cyngor wedi perfformio’n dda yn erbyn cyfran uchel o ddangosyddion cenedlaethol 2013/14, sy’n ymgorffori ystod eang o wasanaethau;

·  Roedd Estyn wedi barnu bod newid a gwelliant sylweddol wedi digwydd dros gyfnod cymharol fyr, o fewn y gwasanaeth ysgolion ac yn gorfforaethol;

·      Roedd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi barnu, yn 2013/14, bod y Cyngor yn y camau cynnar o weithredu rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ar gyfer y gwasanaethau oedolion a phlant, ac

·  Mae’r Cyngor yn parhau i wneud cynnydd o ran gwella medrusrwydd ei staff

gyda’r iaith Gymraeg.

 

Adroddwyd nad yw Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud unrhyw argymhellion statudol yn ystod gwaith blaenorol y flwyddyn hon ac nad yw wedi gwneud unrhyw argymhellion yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi gwneud argymhellion a all fod yn berthnasol i’r Cyngor yn ei Adroddiad Cenedlaethol i Lywodraeth Leol, fel a ganlyn:-

 

Cynigion ar gyfer gwelliant:-

 

·  Dylai’r Cyngor adolygu ei flaenoriaethau gwelliant i sicrhau bod graddfa ei

uchelgeisiau yn glir ai fod yn adlewyrchiad realistig o’r capasiti a’r adnoddau sydd gan y Cyngor i’w defnyddio.

·  Dylai’r Cyngor sicrhau bod ei strategaethau ar gyfer Pobl, TGCh a Rheoli

Asedau wedi’u cysylltu’n glir â Chynllun Corfforaethol y Cyngor a’r

strategaeth ariannol gysylltiedig.

 

·  Dylai’r Cyngor:-

 

· Wreiddio ymhellach ddiwylliant o weithio corfforaethol cyson ymysg staff

ar bob lefel; a

· Sicrhau bod staff ar bob lefel yn cael eu dal yn atebol am gydymffurfio â

pholisïau’r Cyngor a rhoi penderfyniadau ar waith.

 

·  Wrth weithredu ei strategaeth gaffael newydd, dylai’r Cyngor sicrhau ei fod

yn datblygu ac yn defnyddio’r sgiliau angenrheidiol i reoli a monitro’n well ei

gontractau gyda chyflenwyr allanol nwyddau a gwasanaethau.

 

· Dylai’r Cyngor sicrhau ymagwedd gyson tuag at gynllunio gweithlu a

defnyddio’r canlyniadau fel sail i ostyngiadau mewn niferoedd staff yn y

dyfodol.

 

· Dylai’r Cyngor roi sylw’n systematig a phan fo’n briodol, yn gorfforaethol, i’r

argymhellion a’r cynigion ar gyfer gwelliant sydd wedi eu cynnwys yn:-

 

· Adolygiadau Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau’r Cyngor i gefnogi’r

gwaith o ddiogelu plant a Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd Gwynedd a

Môn;

· Yr adolygiad o’r gwasanaeth TGCh a gomisiynwyd gan y Cyngor;

· Y Rhybudd Gorfodaeth a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd

Gwybodaeth;

· Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2013/14 a gyhoeddwyd gan

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ac

· Adroddiadau a gynhyrchwyd gan Archwilio Mewnol.

 

Roedd Aelodau’r Cyngor Sir yn croesawu’r Asesiad Corfforaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru ac yn llongyfarch Arweinydd y Cyngor, yr Uwch Dîm Rheoli a holl aelodau’r Cyngor am y gwaith caled wrth wneud cynnydd da yn erbyn ei brif flaenoriaethau gwelliant.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion oedd wedi’u cynnwys ynddo fel y nodir uchod.

Dogfennau ategol: