Eitem Rhaglen

Archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cyflwyno adroddiad Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Panel - adroddiad y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd yn ymgorffori adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar Wasanaeth Gorfodaeth Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Ynys Môn yn dilyn archwiliad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, 2014. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y Cynllun Gweithredu a luniwyd i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ynghyd â diweddariad ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu'r argymhellion hynny.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd fod yr archwiliad yn cynnwys trefniadau Ynys Môn ar gyfer hylendid bwyd, safonau bwyd a gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid, sef swyddogaethau sy’n cael eu darparu gan adain Gwarchod y Cyhoedd yn yr Adran Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Ar y pryd, roedd y gwaith yn cael ei wneud gan swyddogion yn y timau Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach. Derbyniwyd adroddiad ffurfiol yr ASB ar 21 Gorffennaf, 2015. Cyfeiriodd y Swyddog at ganfyddiadau'r archwiliad a'r argymhellion ynddo fel y cânt eu crynhoi dan baragraff 2.2 o'r adroddiad ac mae Cynllun Gweithredu manwl wedi cael ei lunio mewn ymateb (Atodiad A yr Adroddiad ASB). Dechreuwyd mynd i’r afael â'r argymhellion yn dilyn y sesiwn atborth anffurfiol a gynhaliwyd gan Archwilwyr ASB ar 18 Gorffennaf, 2014. Mae'r Cynllun Gweithredu wedi bod yn ddogfen fyw ac wedi cael ei diweddaru yn rheolaidd wrth i’r camau y cytunwyd arnynt gael eu cwblhau; gweler y fersiwn ddiweddaraf yn Atodiad 1.

 

Dywedodd y Swyddog wrth y Pwyllgor fod y rhan fwyaf o'r argymhellion a wnaed o natur weithdrefnol ac wedi cael sylw. Fodd bynnag, erys pryderon ynghylch digonolrwydd yr adnoddau staffio i gynnal archwiliadau Hylendid Bwyd, Safonau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid ac mae dadansoddiad cyfredol yn dangos bod yr adain yn brin o  2 swyddog. Mae'r gwasanaeth yn y broses o drawsnewid er mwyn rhoi sylw i heriau o'r fath; er gwaethaf hynny, mae’n debygol y bydd bwlch o hyd o ran adnoddau hyd yn oed gyda gweithlu sy’n fwy ystwyth, modern a hyblyg. Mae'r camau lliniaru’n ymwneud â sicrhau bod staff yn cael eu defnyddio yn unol â thystiolaeth dda a blaenoriaethau. Oherwydd nad yw’r dull symlach hwn eto wedi’i brofi a’r broses drawsnewid yn parhau i fod yn anghyflawn, yr ateb tymor byr yw cyflogi staff asiantaeth.  Bydd yr ASB yn dychwelyd i asesu cynnydd yn erbyn yr adroddiad llawn yn ffurfiol cyn 31 Mawrth 2016.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion canlynol ar hynny -

 

           O gymharu ag awdurdodau tebyg eraill, a yw’r sefyllfa staffio’n broblem benodol i'r awdurdod hwn ac a oes amserlen ar gyfer elwa o hyfforddiant sydd wedi'i gynllunio fel y gall swyddogion fod yn amlswyddogaethol. Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd bod staffio yn broblem gyffredinol. Bwriedir cwblhau’r ailstrwythuriad o’r gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ym mis Ionawr, 2016 ac wedi hynny rhoddir sylw i hyfforddiant ac arferion gwaith. Un broblem o ran materion Hylendid Bwyd yw bod angen i swyddogion fod yn swyddogion iechyd yr amgylchedd cymwys a phrofi eu cymhwysedd yn barhaus, felly rhaid cael system hyfforddiant rheolaidd a bydd angen ymestyn hynny i aelodau eraill y tîm.

           A yw cydweithio yn ateb posibl i anawsterau staffio yn enwedig o ddefnyddio adnoddau i dalu am absenoldebau, ee absenoldeb mamolaeth. Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd y gellir darparu rhai agweddau ar orfodi a rheoleiddio ar draws ardal ehangach ond bod gwaith archwilio, yn arbennig o safbwynt Hylendid Bwyd yn tueddu i gael ei wneud yn lleol. Mae awdurdodiadau trawsffiniol wedi cael eu cyflwyno sy’n golygu y gall swyddogion i weithio yn unrhyw un o'r chwe awdurdod Gogledd Cymru. Fodd bynnag, o gofio bod cymhwysedd yn allweddol o ran Hylendid Bwyd, yr hyn sy’n cael ei ystyried yw'r posibilrwydd o gyfuno gwasanaethau arbenigol fel y gellir rhannu arbenigedd yn cael ei rannu a gofyn amdano pan fydd angen.

           Nododd y Pwyllgor gyda phryder bod y gwasanaeth yn cael ei lesteirio gan faterion sylfaenol sy’n ymwneud â chapasiti a graddfa’r gwaith a chan lefelau tâl anghystadleuol sy'n gwneud recriwtio yn fwy anodd. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd na fydd ailhyfforddi swyddogion i ymgymryd ag agweddau eraill ar y gwaith yn rhoi baich ychwanegol ar staff. Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, er bod risgiau yn uchel o ran staff yn gadael, bod Gwarchod y Cyhoedd yn llwyddo’n dda i ddal gafael yn ei staff ac mae proses o ddatblygu staff a chynllunio olyniaeth ar gael. Mae anawsterau’n fwy tebygol o godi mewn amgylchiadau lle gallai staff efallai adael yn sydyn. O ran ymdrin ag ystod o ddyletswyddau,  dywedodd y Swyddog y dylai rheoleiddiad un cyffyrddiad leihau'r pwysau o ran galw ac mae hefyd yn fater o flaenoriaethu llwyth gwaith i gyflawni yn unol â'r rheoliadau.

           Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yr incwm o tua £ 12k a dderbyniondd y gwasanaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer cynnal arolygiadau yn adlewyrchiad teg o'r costau dan sylw.   Dywedodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd fod Hylendid Bwyd Anifeiliaid yn agwedd llawer llai o'r gwasanaeth na Hylendid Bwyd sy'n cynnwys oddeutu 500 o ymweliadau y flwyddyn (o gymharu â 100 ar gyfer Hylendid Bwyd Anifeiliaid). Mae’r cyntaf yn bwysig o ran cynnal cyfanrwydd y gadwyn fwyd. Fodd bynnag, nid ystyrir bod yr incwm sy'n deillio o'r gwaith arolygu yn ddigonol i adennill y costau y mae'r gwaith yn ei olygu.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad Archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDU: Y Pwyllgor i gael diweddariad ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu.

Dogfennau ategol: