Eitem Rhaglen

Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru Grid Cenedlaethol - Ymgynghoriad Cam 2

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Swyddogion o’r Adran Gynllunio a Mr. Peter Hulson o ARUP Consultants i’r cyfarfod.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod Adran 42 Deddf Cynllunio 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i ‘hyrwyddwrprosiectau isadeiledd sydd o bwys cenedlaethol (NSIP), sef National Grid yn yr achos hwn, gynnal ymgynghoriad cyn-gwneud-cais gyda rhestr benodedig o gyrff, awdurdodau lleol a’r rheini sydd â diddordeb yn y tir y mae’r prosiect yn effeithio arno, cyn gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Yn ôl amserlen gyfredol National Grid, disgwylir y bydd y broses statudol hon o ymgynghori ac ymgysylltu yn digwydd yn hwyrach yn 2016.

 

Mae’r deunydd ymgynghori gerbron yr Awdurdod ar hyn o bryd ac mae’n ffurfio rhan o ymgynghoriad cam 2 National Grid, sef ymgynghoriad anstatudol ei natur, ynghyd â’r deunydd ymgynghori ar leoli ceblau o dan ddaear yn ardal y Fenai ac sydd i fod i gael ei ryddhau yn ystod gwanwynhaf 2016. Pwrpas y deunydd ymgynghori yw cyfrannu at y broses a dylanwadu arni. Er bod ymgynghoriad diweddaraf National Grid o natur anstatudol, ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb a phwysigrwydd y mater dan sylw i’r Ynys a’I thrigolion, ac mae’r Awdurdod wedi llunio ymateb yn erbyn y cefndir hwn ac mae’n ymateb sydd mor fanwl, cynhwysfawr a chadarn â’r ymateb a roddir gan yr Awdurdod fel rhan o’I ymwneud â gweithdrefnau ymgynghori ffurfiol.

 

Nodwyd bod ail gam yr ymgynghoriad anstatudol gan National Grid ynglŷn ag adeiladu ail linell drosglwyddo trydan foltedd uchel 400kv a pheilonau ar draws Ynys Môn wedi dechrau ar 21 Hydref, 2015 a bydd yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos tan 16 Rhagfyr, 2015. Roedd dogfen yr ymateb ffurfiol gan yr Awdurdod ynghlwm yn yr adroddiad. Mae ymateb yr Awdurdod wedi arwain at gynnal dadansoddiad manwl a chynhwysfawr o gyflwyniad National Grid, sydd wedi arwain at ryw 345 o sylwadau gwahanol.

 

Rhestrodd y Swyddog Caniatadau Mawr y prif themâu a adnabuwyd yn yr ymgynghoriad ail gam a rhoddodd ddadansoddiad manwl o’r materion a godwyd ym mhob un o’r themâu allweddol hyn i’r Cyngor Sir:-

 

· Yn gynamserol ac â diffygion

· Cymdeithasol-economaidd

· Cyfleoedd am Swyddi a chyfleoedd i’r Gadwyn Gyflenwi

· Yr Iaith Gymraeg

· Asesiad Effaith ar Iechyd

· Effeithiau cronnus

· Lliniaru

· Costau

 

Nodwyd bod nifer o sylwadau, pwyntiau eglurhad a cheisiadau am wybodaeth bellach wedi’u cynnwys yn y ddogfennaeth fel y gallai National Grid roi sylw i’r pwyntiau a godwyd pan fo angen a chywiro unrhyw ddiffygion a ganfuwyd.

 

Nododd Mr. Peter Hulson, ARUP eu bod yn rhannu pryderon yr Awdurdod ynglŷn â

diffiniad y prosiect, eglurder ar y strategaeth i sicrhau caniatâd ac ymgysylltu’n foddhaol â’r gymuned â budd-ddeiliaid ehangach ar gamau lliniaru a rheoli. Mae’n rhaid i National Grid amlinellu sut bydd yn ymgynghori ar groesi’r Fenai, gan gynnwys y dulliau adeiladu arfaethedig a’r camau lliniaru. Mae angen gadael digon o amser i’r awdurdod lleol gael trafodaeth ddigonol yng nghyswllt gofynion cynllunio a mesurau o reoli ynghyd â mesurau iawndal ehangach o dan rwymedigaethau cynllunio.

Nododd ymhellach eu bod yn ceisio cael manylion ac ymrwymiadau ehangach mewn

perthynas â’r rhaglen adeiladu h.y. Rheolaeth Amgylcheddol, Bioamrywiaeth, Sŵn a

Dirgryniad, Iechyd, Traffig a Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Mae National Grid yn

ymroddedig i ‘wirio’n ôlfel eu bod yn gwerthuso eu cynigion yn gyson ac maent yn

ymroddedig i ddarparu tystiolaeth o ba mor ymarferol fyddai rhoi’r ceblau dan ddaear yn llawn rhwng Wylfa a Phentir. Dylai National Grid hefyd ystyried cyfleoedd ehangach I ymrwymo i leihau’r effeithiau o’r isadeiledd 400kV presennol ochr yn ochr â’r cynllun arfaethedig.

 

Roedd aelodau’r Cyngor llawn yn unfrydol o’r farn, fel yr oeddent wedi’i ddatgan yn

flaenorol, na ddylid adeiladu unrhyw beilonau neu linellau trosglwyddo trydan ychwanegol ar draws yr Ynys a’r Fenai. Nodwyd y dylai National Grid roi’r ceblau o dan ddaear er mwyn cysylltu’r orsaf bŵer niwclear arfaethedig yn Wylfa Newydd i’r rhwydwaith trydan.

 

Nododd yr aelodau ymhellach y dylai National Grid dynnu’r logo ‘Ynys Ynni’ o

ddogfennaeth gyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD

 

·   Bod yr Awdurdod yn glynu at y farn y daeth iddi’n flaenorol ym mis Rhagfyr 2012 na ddylai unrhyw beilonau neu linellau trosglwyddo trydan ychwanegol gael eu hadeiladu ardraws yr Ynys a’r Fenai;

 

·   Bod y materion a’r pryderon a nodir yn yr Ymgynghoriad hwn yn derbyn sylw ym mhrif gorff yr adroddiad ac y bydd National Grid yn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r rhain fel rhan o’r ymgynghoriad anstatudol;

 

·   Y dylai National Grid dynnu’rlogo ‘Ynys Ynni’ o bob dogfennaeth gyhoeddus sy’n ymwneud â Phrosiect Cysylltedd Gogledd Cymru.

Dogfennau ategol: