Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Llyfrgelloedd 2014/15

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys Asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Llyfrgell am 2014/15 a'r materion sy'n codi.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu bod y safonau a nodir yn y Pumed Fframwaith Ansawdd o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014-17 wedi cael eu hymestyn sy’n ei gwneud yn anos cymharu perfformiad gyda'r flwyddyn flaenorol. Mae'r pumed fframwaith yn rhoi pwyslais ar ganlyniadau a'r manteision y mae'r Gwasanaeth yn eu darparu i drigolion yr Ynys. Mae'r asesiad yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd yn ffurflen flynyddol Ynys Môn ac mae’n dangos bod y Gwasanaeth yn perfformio'n dda ac wedi cwrdd â 14 o’r 18 hawliau craidd yn llawn. O'r 7 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, mae Ynys Môn wedi cyflawni 4 yn llawn a 3 yn rhannol. Fodd bynnag, mae'r asesiad hefyd yn nodi bod y gwasanaeth yn Ynys Môn yn un sydd ag elfennau perfformiad cryf a gwan ac y gallai unrhyw doriadau ychwanegol i’r gyllideb adael y Gwasanaeth mewn sefyllfa fregus a bod perygl i’r perfformiad ddirywio. Cyfeiriwyd yn benodol  at lefelau staffio y bernir eu bod yn is na'r safonau a bennwyd a nodir hynny fel rhywbeth sy’n achosi pryder o ran datblygiad y Gwasanaeth. Dywedodd y Swyddog bod dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y Gwasanaeth tra'n ceisio cynnal safonau yn her barhaus.

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell ar y 4 hawl graidd a nodwyd yn yr hunanasesiad fel rhai yr oedd  Ynys Môn ond wedi eu cyflawni’n rhannol yn ogystal â'r 3 dangosydd ansawdd a oedd ond wedi eu cyflawni’n rhannol. Hefyd, rhannodd y Swyddog wybodaeth am broffiliau llyfrgelloedd unigol gan gynnwys nifer yr ymwelwyr, eitemau a roddwyd ar fenthyg, y gost fesul ymweliad a chost fesul eitem a fenthycwyd. Mewn ymateb i ymholiadau ynglŷn â pheth o’r data, dywedodd y Swyddog y byddai'n adolygu'r ffigurau ac ailgylchredeg y wybodaeth.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad ynghylch y modd yr oedd y tanberfformiad cyfredol yn dylanwadu ar y Rhaglen Trawsnewid Llyfrgelloedd. Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai un o'r prif heriau yw sicrhau bod y Gwasanaeth yn parhau i fod mor effeithiol ac effeithlon â phosibl o fewn cyfyngiadau'r gyllideb. Mae toriadau cyllidebol o 10% wedi cael eu gweithredu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol gan arwain at ostyngiad yn nifer y staff. Gan mai staffio a chostau cynnal a chadw adeiladau yw prif wariant y Gwasanaeth mae’r rhain yn cael sylw fel rhan o'r adolygiad trawsnewid gwasanaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd yr ymgynghoriad yn bwydo i mewn i opsiynau a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w cymeradwyo ym mis Chwefror, 2016 a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini yn ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror, 2016 am fewnbwn cyn penderfynu pa opsiynau i ymgynghori'n ffurfiol arnynt. Mae'r ymgynghoriad felly mewn dau gam - cam anffurfiol i gasglu gwybodaeth am ddewisiadau a fydd yn ffurfio sail i opsiynau i'w cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Chwefror ac ymgynghoriad statudol dilynol ar yr opsiynau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith. Bydd opsiynau penodol ar y ffordd ymlaen ar gyfer y Gwasanaeth yn dod yn ôl gerbron y ym mis Medi 2016.

 

Nododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol -

 

           Bod rhaid cael eglurhad ar y broses ymgynghori ar yr adolygiad o’r Gwasanaethau Llyfrgell ac mae angen i'r cyhoedd a chymunedau fod yn ymwybodol bod yn ofynnol iddynt gymryd rhan yn y ddau gam o’r broses.

           Bod y Pwyllgor yn bryderus ynghylch y prinder staff a’i oblygiadau ar gyfer darparu gwasanaeth llyfrgell effeithlon ac yn ehangach ar gyfer gwella safonau addysgol a llythrennedd.

           Potensial i wneud defnydd mwy amrywiol o adeiladau llyfrgelloedd a'r angen i lyfrgelloedd  ddatblygu mwy ar gysylltiadau gydag ysgolion lleol.

 

Penderfynwyd -

 

           Nodi Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2014/15

           Nodi Asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Llyfrgelloedd Blynyddol 2014/15 y Gwasanaethau Llyfrgell 2014/15  a'r materion sy'n codi ohono.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

Dogfennau ategol: