Cyflwyno adroddiad y AGGCC ac atodiadau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol AGGCC a llythyr cysylltiedig ar gyfer 2014-15 er sylw'r Pwyllgor. Mae'r adroddiad yn nodi gwerthusiad o berfformiad Cyngor Sir Ynys Môn wrth gyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn 2014/15, gan gynnwys meysydd cynnydd allweddol o gynnydd a meysydd ar gyfer eu gwella.
Ymhelaethodd Mark Roberts, AGGCC ar y meysydd penodol ar gyfer eu gwella a meysydd o gynnydd yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fel y cofnodwyd yn yr adroddiad ac fe grynhodd y perfformiad fel a ganlyn -
• Yn y Gwasanaethau Oedolion mae’r Cyngor yn gwneud defnydd da o'r adnoddau sydd ar gael ac yn cyflawni ei nod o gefnogi pobl i fod yn annibynnol ac mor hunangynhaliol â phosibl.
• Mae perfformiad cryf o ran cyflawni yn erbyn y cynllun busnes.
• Mae perfformiad mewn llawer maes yn gryf ac mae cynnydd yn cael ei wneud i gwrdd â thargedau’r Cyngor.
• Cymerwyd camau sylweddol i foderneiddio gwasanaethau.
• Bu llai o gynnydd o ran datblygu gwasanaethau i oedolion iau ac mae angen gwerthuso effaith y newid ar oedolion hŷn i sicrhau nad ydynt yn agored i unrhyw risgiau diangen.
• Yn y Gwasanaethau Plant, mae’r Cyngor yn ymwybodol o'r risgiau lle mae’r gwelliant yn fregus.
• Mae angen gwelliant parhaus yn ansawdd y gwasanaethau.
• Bu canlyniadau da wrth gwrdd â thargedau perfformiad ond mae datblygu’r gwasanaeth wedi bod yn arafach yn y gwasanaethau plant.
• Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi elwa o’r gwelliannau mewn cefnogaeth gorfforaethol, goruchwylio a sgriwtini.
• Mae’r capasiti i gyflawni cynlluniau gwella yn anhawster yn y gwasanaeth ac adlewyrchir hynny yn y diffyg cynnydd mewn perthynas â nifer o’r meysydd i'w gwella a nodwyd yn adroddiad y flwyddyn flaenorol.
‘Roedd y pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth eang a gafwyd wedyn fel a ganlyn -
• Gofynnwyd am eglurhad ar y defnydd o'r gair "bregus" i ddisgrifio gwelliannau yn y gwasanaethau plant. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd ynghylch gwydnwch y gwasanaethau a chynaliadwyedd gwelliannau i’r dyfodol. Oherwydd materion mewn perthynas â maint, capasiti, arbenigedd a phrofiad y gweithlu, ynghyd â materion mewn perthynas ag arferion a pherfformiad yn y gorffennol, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor yr ystyrir y gallai fod yn her i’r gwasanaethau plant gyflawni’r holl gyfrifoldebau a disgwyliadau sydd arno, a dyna pam y defnyddiwyd y gair ‘bregus’ i ddisgrifio’r gwelliannau mewn rhai meysydd.
• Materion recriwtio a chapasiti a'r angen am sefydlogrwydd yn y gweithlu Gwasanaethau Plant er mwyn datblygu’r profiad a'r arbenigedd angenrheidiol.
• Cadernid y gwasanaethau i fedru gwrthsefyll pwysau ariannol parhaus. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gallai rhai opsiynau cyllidebol gael effaith ar ansawdd, ond o ran gweithredu dewisiadau a wnaed yn y gorffennol, nid oes dim i awgrymu bod y rheini wedi bod yn afresymol neu nad ydynt wedi bod yn drylwyr.
• Cododd y Pwyllgor nifer o faterion gweithredol a chytunwyd y byddai modd rhoi sylw iddynt yn llawnach ac yn fwy priodol mewn cyfarfod at y diben hwnnw mewn perthynas ag -
• Cwblhau dim ond 41 o asesiadau o 172 o geisiadau am Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ac a yw hyn yn rhoi unigolion mewn sefyllfa beryglus. Hysbyswyd y Pwyllgor bod gofynion wedi newid yn sgil "Dyfarniad Gorllewin Swydd Gaer" a bod llawer o'r achosion yn rhai hanesyddol i'w hailasesu yn sgil dyfarniad hwnnw. Mae'r Gwasanaeth yn fodlon bod capasiti wedi cael ei gryfhau i gyflawni’r gofynion a bod achosion risg uchel yn cael eu blaenoriaethu a'u bodloni.
• A fyddai gweithio ar y cyd ag awdurdodau eraill yn gwella gwydnwch o ran gwasanaethau diogelu.
• Y gostyngiad yn nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael eu cefnogi yn y gymuned
• Y tueddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y gwasanaethau plant o gynnydd yn nifer y cyfeiriadau a’r gostyngiad yn nifer yr asesiadau.
• Sefyllfa Ynys Môn o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru mewn perthynas â gwariant y pen ar wasanaethau cymdeithasol.
Penderfynwyd -
• Derbyn adroddiad AGGCC a’r llythyr cysylltiedig.
• Nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd gan AGGCC
• Bod atborth ar gynnydd a wnaed gyda’r materion blaenoriaeth a nodwyd gan AGGCC yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn chwarterol.
CAM GWEITHREDU YN CODI: Trefniadau ar gyfer adborth i’w hymgorffori o fewn rhaglen waith y Pwyllgor.
Dogfennau ategol: