Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 11C500A - Nwyddau Diogelwch Mona, Stryd Wesley, Amlwch

 

7.2 19C895E - Canolfan Gymuned Millbank, Caergybi

 

7.3 19LPA875B/CC - Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

7.4 45LPA605A/CC - Dwyryd , Niwbwrch

Cofnodion:

7.1     11C500A – Cais llawn i newid defnydd yr adeilad yn 6 fflat ynghyd ag addasu a dymchwel rhan o’r adeilad ym Mona Safety Products, Stryd Wesla, Amlwch

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd  2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a gwnaed hynny ar 18 Tachwedd  2015.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle'r cais o fewn ffin anheddiad Amlwch. Oherwydd bod y cynnig mewn ardal breswyl roedd y Swyddog o’r farn bod tynnu’r defnydd diwydiannol presennol a’i newid i chwe fflat dwy ystafell wely yn fwy priodol. Nid ystyrir y bydd unrhyw effeithiau andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos ac ar ben hynny, caniatawyd defnyddio 8 fflat eisoes mewn  apêl, sy’n golygu y byddai gwrthod y cais hwn, sydd ar raddfa lai, yn anodd ei amddiffyn mewn apêl.

 

Amlygodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, sef Aelod Lleol, bryderon mewn perthynas â'r traffig ychwanegol y mae creu chwe fflat yn debygol o’i achosi, gan gymryd y bydd gan ddeiliaid pob fflat o leiaf un car, a thynnodd sylw hefyd at bryderon am ddigonolrwydd y cyfleusterau parcio. Nododd fod y ffyrdd o amgylch y safle’n gul. Mae diogelu preifatrwydd trigolion yr eiddo cyfagos hefyd yn fater o bwys.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn darparu ar gyfer naw o leoedd parcio oddi ar y ffordd ac ystyrir bod hynny’n ddigonol o ran safonau parcio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ar y sail bod y cynnig yn ddefnydd mwy addas o'r safle. Cafodd ei gynnig ei eilio gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2     19C895E – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi canolfan gymunedol newydd yn ei le yng Nghanolfan Gymunedol Millbank, Caergybi

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn Aelod o'r Awdurdod. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor. Yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd 2015, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes derbyniwyd  y tystysgrifau perchnogaeth cywir.

 

Fel Aelod Lleol cyfeiriodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes at bryderon a godwyd mewn perthynas â'r cais a oedd yn ymwneud â pharcio, mwynderau a cholli golau naturiol a disgrifiodd sut roedd y rheini wedi cael sylw gan gynnwys cyflwyno cynlluniau diwygiedig. Dywedodd yr Aelod Lleol mai’r amcan wrth wneud y cais oedd creu adnodd newydd a gwell i drigolion hŷn yr ardal.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried bod y cais yn dderbyniol ac mai’r argymhelliad felly oedd ei ganiatáu. Cadarnhaodd y Swyddog hefyd fod y tystysgrifau perchnogaeth cywir bellach wedi dod i law.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3     19LPA875B / CC – Cais llawn i newid defnydd rhan o'r tir yn faes i garafanau teithiol (28 o leiniau), codi bloc cawodydd / toiledau ynghyd â ffurfio ffordd fynediad newydd ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Mae Aelod Lleol wedi gofyn am i’r cais gael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar y sail bod y safle’n barc cyhoeddus a ddylai gael ei ddiogelu rhag cael ei orddatblygu. Yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd  2015, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle cyn gwneud ei benderfyniad.  Ymwelwyd â'r safle ar 18 Tachwedd  2015.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y prif faterion yn ymwneud â chydymffurfiaeth â pholisi a’r effaith ar yr ardal leol, gan gynnwys effeithiau ar fwynderau preswyl.  Mae polisïau cynllunio yn caniatáu creu safleoedd carafanau teithiol newydd ar yr amod nad oes gan y cynllun unrhyw effaith annerbyniol ar yr ardal gyfagos. Mae safle'r cais wedi’i leoli mewn ardal gaeedig a chymharol anymwthiol yn y Parc Gwledig. Mae giât i’r ardal ac nid yw’n hygyrch i’r cyhoedd ar hyn o bryd fel rhan o'r Parc. Mae'r cais hefyd yn cynnwys gwaith plannu a thirlunio i greu datblygiad integredig a derbyniol. Mae'r Swyddog o’r farn fod y safle carafanau teithiol arfaethedig mewn lleoliad allan o’r golwg yn y Parc a’i fod yn gydnaws â defnyddiau a gymeradwywyd. Ystyrir bod y cynllun yn dderbyniol yn ei gyd-destun ac o ran defnydd tir. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, sef Aelod Lleol, am eglurhad ynghylch a oes gan y Cyngor ddiddordeb breintiedig y dylai ei ddatgan yn y mater hwn fel tirfeddiannwr. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad yw'n ofynnol i'r Cyngor ddatgan diddordeb fel perchennog y tir a bod y cais yn cael ei gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Aeth y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ymlaen i amlinellu ei bryderon am y cynnig, a chredai y byddent yn cael dylanwad annerbyniol ar y Parc Gwledig. Nododd fod Cyngor Tref Caergybi hefyd yn gwrthwynebu'r datblygiad ar y sail y byddai'n cael effaith andwyol ar y Parc a’i fod  yn y lle anghywir mewn ardal gadwraeth ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Cyfeiriodd at Bolisi Cynllunio Cymru sy'n nodi y bydd rhagdybiaeth gref yn erbyn unrhyw ddatblygiad arfaethedig a fydd yn tynnu’n groes i’r amcan o gadw neu wella cymeriad ardal gadwraeth neu ei hamgylchedd.  Tynnodd y Cynghorydd  R. Llewelyn Jones sylw pellach at y posibilrwydd o lygredd golau ac at bryderon ychwanegol am gulni'r ffordd fynediad i'r safle.  Gofynnodd i'r Pwyllgor wneud safiad yn erbyn gorddatblygiad a gwrthod y cais gan y bydd y cynnig yn amharu ar harddwch yr ardal.

 

Adleisiwyd pryderon am y ffordd gan y Cynghorydd Raymond Jones, yn siarad fel Aelod Lleol. Teimlai fod y ffordd yn beryglus i gerddwyr heb sôn am gerbydau. Cafodd y Cynghorydd Jones ei gynghori gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y dylai wneud datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu a pheidio â chymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais oherwydd bod y Cynghorydd  wedi mynegi ei wrthwynebiad cryf i’r cynnig ymlaen llaw ac wedi rhagfarnu ei safiad o’r herwydd. Fodd bynnag, nid yw'r diddordeb yn effeithio ar ei hawl i annerch y cyfarfod fel Aelod Lleol. Ar ôl siarad yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Aelod Lleol, datganodd y Cynghorydd Raymond Jones ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod cyn i’r Pwyllgor benderfynu ar y cais.

 

’Roedd y Cynghorydd Lewis Davies yn cytuno gyda’r ddau Aelod Lleol a dywedodd mai diben parc gwledig yw gwarchod yr amgylchedd a rhoi’r rhyddid i’r cyhoedd ei fwynhau yn llawn. Gan ei fod yn credu bod y cynllun arfaethedig yn gwrthdaro â’r diben hwn, cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Ann Griffith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod rhwng dau feddwl rhwng cefnogi'r cynnig oherwydd ei fanteision tymor hir posib o ran cynhyrchu incwm a’r posibilrwydd o gyfrannu at hyfywedd y parc yn y dyfodol, a’i wrthwynebu oherwydd ei effeithiau negyddol posib.

 

Cydnabu sawl Aelod y teimladau cryf yn lleol, ond teimlent, ar ôl pwyso a mesur, fod safle'r cais mewn lle a fyddai’n cael yr effaith leiaf ar y Parc ar gyfer datblygiad o'r math hwn ac y gallai gyfrannu tuag at ei ddiogelu i’r dyfodol. Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes. Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i gymeradwyo'r cais ei gario.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymataliodd y Cynghorwyr Jeff Evans a W T Hughes eu  pleidleisiau)

 

7.4     45LPA605A / CC – Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer codi 17 o anheddau newydd, dymchwel y bloc toiledau presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dwyryd, Niwbwrch.

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Mae'r ddau Aelod Lleol wedi mynegi dymuniad i alw’r cais i mewn i’w benderfynu gan y Pwyllgor. Yn ei gyfarfod ar 2 Medi, 2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle  a gwnaed hynny ar 16 Medi, 2015. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2015, penderfynodd y Pwyllgor ohirio penderfynu ar y cais er mwyn rhoi amser i’r ymgeisydd ystyried cynigion amgen ar gyfer y safle a allai gynnwys cadw'r maes parcio a'r toiledau cyhoeddus.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Diane Broad, sef preswylydd a pherchennog busnes yn Niwbwrch a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Nododd y broblem barhaus gyda lleoedd parcio yn yr ardal fel sail i  wrthwynebu.  Dywedodd nad yw'r cynnig yn rhoi ystyriaeth ddigonol i ddatblygiadau diweddar yn Niwbwrch ar ffurf busnesau newydd a thwf y busnesau cyfredol – os yw'r rhain am ffynnu ymhellach mae cadw’r toiledau a’r maes parcio yn hanfodol er mwyn gwasanaethu'r twristiaid y mae’r busnesau yn eu denu. Nifer gyfyngedig o fannau parcio sydd ar y stryd yn Niwbwrch ac mae'r rhain yn cael eu defnyddio gan breswylwyr cartrefi cyfagos. Nid yw hyn ond yn gadael ychydig o fannau parcio, os o gwbl, ar gyfer cwsmeriaid busnes, siopwyr sy’n galw heibio a thwristiaid. Mae angen y maes parcio ar gyfer y gorlif hwn gan fod cyfyngiadau parcio ar y gyffordd ac mae pobl yn dueddol o’u hanwybyddu, gan arwain felly at y posibilrwydd o ddamweiniau, anaf a niwed i gerddwyr a defnyddwyr y ffyrdd. Cyfeiriodd at gyfaddawd i ddatrys y sefyllfa, a fyddai'n golygu cadw'r ardal bloc toiledau a 12 o lecynnau parcio ac un llecyn i bobl anabl ond gan golli un teras o dai o’r cynnig. Fodd bynnag, ar ôl astudio’r cynlluniau ymhellach credai y gallai ailwampio’r cynlluniau olygu y gall y ddau deras aros ynghyd â'r bloc toiledau a 12 o lecynnau parcio.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Ms Broad o ran y defnydd a wneir o’r maes parcio cyfredol. Ar adeg yr ymweliad ychydig iawn o ddefnydd oedd yn cael ei wneud ohono ac roedd pobl yn dewis parcio cyn agosed â phosibl at y siopau. Holwyd hefyd am y bwriad i ddarparu 23 o leoedd parcio fel rhan o'r cynnig a maint y risg i hyfywedd yr ardal pe collid y maes parcio. Dywedodd Ms Broad fod ymwelwyr yn tueddu i ddilyn yr arwyddion parcio ac y byddai colli’r cyfleusterau yn niweidiol i dwf busnesau ac i'r pentref yn ei gyfanrwydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod penderfyniad ar y cais wedi cael ei ohirio yn flaenorol er mwyn ymweld â’r safle ac i ystyried opsiynau eraill a gofyn am wybodaeth ychwanegol sydd bellach wedi dod i law ac wedi’i chynnwys yn y papurau a ddarparwyd i'r Aelodau. Mae safle'r cais o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer y pentref ac roedd rhan ohono wedi’i neilltuo ar gyfer lawnt fowlio dan y Cynllun Lleol. Fodd bynnag, ni chafodd y safle ei ddatblygu ac o dan bolisïau’r CDU a stopiwyd mae’r safle bellach yn safle gwag o fewn y ffin ddatblygu. Nid ystyrir y byddai datblygiad tai yn niweidio’r cynllun datblygu ac mae'r cynnig yn cynnwys darpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy. Nid oes gwrthwynebiad o safbwynt Priffyrdd os gosodir amodau ac ar yr amod na fydd materion technegol yn codi ac nid ystyrir y byddai’n cael effaith ar y dirwedd neu fwynderau ac ystyrir bod y datblygiadau deulawr arfaethedig yn gydnaws â chymeriad yr ardal.

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y mater parcio a gofynnodd a fydd y llecynnau parcio a ddarperir fel rhan o'r datblygiad arfaethedig ar gael i'w defnyddio hefyd gan y cyhoedd.  Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd yn dangos y bydd 28 o lecynnau parcio yn cael eu darparu, ond nad oedd yn gallu dweud y byddant ar gael i'r cyhoedd drwy'r amser.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Ann Griffith a Peter Rogers fel Aelodau Lleol. Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn siomedig nad oedd trafodaethau wedi digwydd gyda'r ymgeisydd parthed cynllun amgen a fyddai'n caniatáu cadw'r maes parcio a’r bloc toiledau.  Ailadroddodd bod problemau gyda pharcio eisoes a byddant yn gwaethygu os bydd y cynnig yn cael ei weithredu fel y mae wedi’i gyflwyno, yn arbennig felly yn sgil diddordeb cynyddol yn Llys Rhosyr, o gofio nad oes sôn am ddarpariaeth ar gyfer parcio bysus twristiaeth. Bydd y mwyafrif o’r 28 o lecynnau parcio a ddarperir fel rhan o'r cynnig yn cael eu defnyddio’n bennaf gan drigolion y tai newydd. Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried diwygiad i'r cynllun i sicrhau bod maes parcio yn parhau i fod ar gael ar gyfer y pentref ac ymwelwyr. Ailbwysleisiodd y Cynghorydd Peter Rogers fod angen cefnogi datblygiadau tai gyda buddsoddiadau mewn busnes a seilwaith a chreu swyddi, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc y pentref.

 

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais ac ar ôl annerch y cyfarfod fel Aelod Lleol, gadawodd y Cynghorydd Ann Griffith yr ystafell am weddill y drafodaeth ar y cais a'r penderfyniad yn ei gylch.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Ni chafodd ei eilio. Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei wrthod oherwydd y materion priffyrdd a cholli mwynderau yn yr achos hwn. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes. Awgrymodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y gellid ystyried cyfaddawd a fyddai'n golygu datblygu un rhan o'r safle yn unig er mwyn cadw'r cyfleusterau toiled.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, er y gellir rhannu’r cais yn ddwy ran yn ffisegol, fod  gwrthod un rhan (h.y. colli teras) yn arwain at oblygiadau o ran cyfansoddiad y ddarpariaeth tai fforddiadwy ac y bydd Swyddogion angen amser i ystyried y goblygiadau hynny yn enwedig os derbynnir bod angen lleol am dai fforddiadwy. Mae angen ystyried a yw 30% o'r hyn a fyddai ar ôl o’r datblygiad (ar ôl tynnu un teras) yn ddarpariaeth tai fforddiadwy sy'n cyd-fynd â phroffil y rheini yr ystyrir eu bod angen tai fforddiadwy yn y dalgylch.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod penderfyniad ar y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu i Swyddogion a’r ymgeisydd ystyried ymarferoldeb diwygio'r datblygiad arfaethedig yn unol â’r hyn a drafodwyd, yn enwedig o ran yr elfen tai fforddiadwy.  Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn fodlon tynnu’n ôl ei gynnig i wrthod fel y gellid gohirio’r penderfyniad ac fe eiliodd y cynnig a wnaed gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd gohirio penderfynu’r cais er mwyn derbyn gwybodaeth bellach ynghylch ymarferoldeb newid y cynnig fel yr amlinellwyd.     

Dogfennau ategol: