Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 12C31A/ENF – 13 Rosemary Lane, Biwmares

 

12.2 12C463/ENF – 1 Hampton Way, Llanfaes

 

12.3 19LPA875C/CC – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

12.4 19LPA1023A/CC – Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

 

12.5 32C197 – The Stables, Caergeiliog

 

12.6 38C316 – Cen Villa, Carreglefn

 

12.7 40C58L/RE – Maes Carafannau Tyddyn Isaf, Dulas

 

12.8 44C250A – Tai Cyngor, Fourcrosses, Rhosgoch

 

12.9 45C841 – White Lodge, Penlon, Niwbwrch

 

12.10 45C84J – Caffi’r Marram Grass, White Lodge, Penlon, Niwbwrch

 

12.11 45C441A/FR – Tal y Bont Bach, Dwyran

 

Cofnodion:

12.1 12C31A / ENF – Cais ôl-weithredol i godi estyniad deulawr yn 13 Rosemary Lane, Biwmares.

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod yr estyniad arfaethedig yn dderbyniol o ran maint, dyluniad a deunyddiau ac y bydd yn dod â chymesuredd i gefn y teras, ac ym marn yr Awdurdod Cynllunio Lleol bydd yn welliant i ymddangosiad cefn y teras. Dygodd y Swyddog sylw’r Pwyllgor at luniau o'r adeilad dan sylw a ddangosai sut y byddai'r estyniad deulawr arfaethedig yn dod â chysondeb i gefn y teras am ei fod yn cyfateb yn union i estyniad a godwyd ar yr eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies, sydd hefyd yn Aelod Lleol, er nad oedd yn gwrthwynebu'r bwriad mewn egwyddor, ei fod yn pryderu bod y cais yn cael ei wneud yn ôl-weithredol. Teimlai fod hyn yn adlewyrchu gwendid yn y system gynllunio wrth adael i ddatblygiadau gychwyn heb ganiatâd ac wrth beidio cosbi’n ddigonol pan fo hynny’n digwydd. Roedd y Cynghorydd John Griffith o'r un farn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 12C463 / ENF – Cais ôl-weithredol i gadw stabl / storfa gardd ynghyd ag estyniad i'r cwrtil yn 1 Hampton Way, Llanfaes, Biwmares

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies, sydd hefyd yn Aelod Lleol, bod ymweliad safle'n cael ei gynnal er mwyn i'r Aelodau fedru gwerthfawrogi’n well effeithiau posib y cynnig ar fwynderau preswylwyr tai cyfagos. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

12.3 19LPA875C / CC – Rhybudd o fwriad i ddymchwel pont ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyflwynir y cais fel rhybudd ymlaen llaw o’r bwriad i ddymchwel y bont. Mae’r gwaith dymchwel yn ddatblygiad a ganiateir o dan ran 31, Atodlen 2  Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Y materion dan sylw, felly, yw'r dull o ddymchwel ac adfer y safle ac ystyrir bod y rhain yn briodol ac yn addas at y diben. Mae’r bont dan sylw wedi bod yn bryder iechyd a diogelwch am dros ddwy flynedd bellach.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd bod y datblygiad yn mynd yn ei flaen fel datblygiad a ganiateir yn unol â'r manylion a gyflwynwyd.

 

12.4 19LPA1023A – Cais llawn i godi 10 o unedau busnes hyblyg ynghyd â lle parcio cysylltiedig ac iard wasanaeth, tirlunio, pwynt i wefru cerbydau trydan, paneli solar a dwy storfa biniau / ailgylchu a lle i gadw beics ar safle’r hen Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai cais gan y Cyngor ydyw ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5 32C197 – Cais amlinellol i godi annedd sy’n cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir The Stables, Caergeiliog

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol ar sail angen lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r argymhelliad yw gwrthod y cais oherwydd ym marn y Swyddog, ni fyddai codi annedd yn y lleoliad fel y cynigir yn estyniad derbyniol i'r pentref a byddai’n creu nodwedd ymwthiol annerbyniol i’r dirwedd a phetai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n creu cynsail peryglus am geisiadau eraill yn y dyfodol. Mae'r bwriad felly’n groes i bolisi cynllunio. Ar ben hynny mae'r Awdurdod Priffyrdd hefyd yn argymell gwrthod oherwydd gwelededd is-safonol o'r fynedfa arfaethedig. Rhoddodd y Swyddog wybod i'r Pwyllgor bod asiant yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio tan fis Chwefror 2016, er mwyn ailystyried y materion Priffyrdd, ac er ystyrir y byddai modd datrys y materion hyn, y prif faterion o hyd yw lleoliad y cynnig a'i effaith ar yr ardal leol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6 38C316 – Cais amlinellol i godi annedd sy’n cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ynghyd â gosod system breifat i drin carthion ar dir ger Cen Villa, Carreglefn

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, ar ran y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol yn gwrthwynebu'r cais. Gofynnodd i’r Aelodau ymweld â'r safle i gael gwell dealltwriaeth o bryderon lleol ynghylch y graig y byddai’n rhaid ei chloddio petai’r cynnig yn mynd yn ei flaen ynghyd â materion llifogydd a mynediad. Dywedodd bod rhaid i'r Aelodau fod â’r holl wybodaeth yn eu meddiant gan fod Aelod Lleol arall yn gefnogol i'r cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r argymhelliad yw gwrthod y cais oherwydd ystyrir y byddai’r cais, sydd ar ymyl pentref Carreglefn, yn ymestyn y ffurf adeiledig ymhellach i mewn i'r dirwedd ar draul cymeriad a mwynderau'r ardal leol ac yn groes i ddarpariaethau Polisi 50. Mae lluniau o safle'r cais fel y dangoswyd i'r Pwyllgor yn dangos graddfa a màs y graig ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7 40C58L / RE – Cais llawn i osod rhesi ffotofoltäig 100kw ar dir ym Mharc Carafanau Tyddyn Isaf, Dulas

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes, gan fod datblygiad tebyg ar fferm gyfagos, y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r effaith gronnus ar yr ardal. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle am y rheswm a roddwyd.

 

12.8 44C250A – Cais amlinellol i godi annedd yn cynnwys manylion llawn am addasu'r fynedfa amaethyddol bresennol ar dir gyferbyn â’r Tai Cyngor, Four Crosses, Rhosgoch

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Darparwyd copi o'r fersiwn gywir o'r cynllun safle i'r Pwyllgor yn y cyfarfod.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol, wrth y Pwyllgor fod asiant yr ymgeisydd wedi gofyn am ragor o amser i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ac roedd felly’n gofyn am ohirio.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod asiant yr ymgeisydd wedi gofyn am gael gohirio tan fis Chwefror, 2016 i ailystyried y cais. Dywedodd y Swyddog mai’r argymhelliad yw gwrthod y cais oherwydd ystyrir y byddai codi annedd yn y lleoliad fel y cynigir yn arwain at ddatblygiad fyddai’n ymwthio i gefn gwlad agored, a hynny’n groes i bolisi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones fod yr Aelodau’n ymweld â'r safle; nid oedd unrhyw eilydd i'r cynnig. Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans eu bod yn gohirio ystyried y cais yn unol â'r cais a wnaed ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei gynnig. Yn y bleidlais ddilynol, pasiwyd y cynnig i ohirio ystyried y cais ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais tan fis Chwefror, 2016 er mwyn caniatáu i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

 

12.9 45C841 – Cais llawn i greu mynedfa a maes parcio i gerbydau ar dir ger White Lodge, Pen Lon

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Anerchodd Mr John Ifan Jones y Pwyllgor gan wrthwynebu’r cais a nododd mai’r prif resymau am hynny oedd colli tir amaethyddol, diogelwch y ffordd a diogelwch i gerddwyr, effaith andwyol ar gymeriad gwledig yr ardal a'r cyffiniau, ac agosrwydd y safle at yr AHNE.

 

Siaradodd Mr Liam Barrie o blaid y cais a phwysleisiodd pa mor bwysig yw’r maes parcio arfaethedig i fedru diwallu anghenion y busnes lle mae’r sylfaen cwsmeriaid yn ehangu. Ar hyn o bryd mae'r Marram Grass yn dibynnu ar gymorth cymydog sydd wedi caniatáu i gwsmeriaid barcio ar ei dir, yn enwedig dros fisoedd yr haf pan fydd 60 o geir yn parcio ar dir y busnes ar gyfartaledd. Un rhwystredigaeth dros y blynyddoedd fu effaith weledol y Marram Grass o'r tu allan – ni fu erioed gyfle i dirlunio safle cyfyng sy’n orlawn o geir. Daeth datrysiad posib i’r fei pan brynodd y teulu y tir gyferbyn, a’r syniad oedd creu maes parcio diogel a hygyrch y gellid ei sgrinio gyda choed brodorol. Byddai hefyd yn ffurfio rhan o brosiect addysgol a rhaglen tyfu cynnyrch y busnes. Mae'r cae dan sylw y tu allan i'r AHNE ac nid oes unrhyw fudd mewn creu maes parcio sy'n sefyll allan. Mae parcio i gwsmeriaid yn broblem drwy gydol y flwyddyn a bydd edrychiad y cae yn newid beth bynnag; y pryder yw sut i fodloni anghenion cwsmeriaid petai’r cynnig yn cael ei wrthod gan gofio nad yw parcio ar y ffordd yn ddelfrydol ac nad yw'n strategaeth tymor hir i barcio mewn cae cymydog. Mae opsiynau eraill wedi cael eu harchwilio ond nid ydynt yn hyfyw. Mae angen y maes parcio i ddiogelu swyddi, er mwyn i’r busnes barhau i lwyddo, i gwrdd ag anghenion cyfredol cwsmeriaid ac i wella diogelwch ar hyd y ffordd.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod dau lythyr arall o wrthwynebiad wedi dod i law. Adroddodd y Swyddog er bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn awyddus i gefnogi ffyniant parhaus busnesau lleol, na fedr wneud hynny ar draul yr amgylchedd. Yr argymhelliad yw gwrthod ar y sail y byddai'r bwriad yn cael effaith annerbyniol ar yr ardal trwy ei gwneud yn fwy trefol, ac y byddai'n cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl o ran sŵn, aflonyddwch a gweithgareddau cyffredinol. Mae swyddogion yn fodlon, fodd bynnag, parhau â trafodaethau i chwilio am ddatrysiadau amgen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith wrth y Pwyllgor ei bod yn sefyll i lawr fel Is-gadeirydd am y cais hwn er mwyn siarad fel Aelod Lleol i gyflwyno’r ddau safbwynt mewn perthynas â'r cais hwn a'r cais cysylltiedig dilynol (cais 12.10 ar drefn yr agenda). Cyfeiriodd at faterion mewn perthynas â newid defnydd y tir, yr effaith drefol a’r effaith ar fwynderau preswyl, yr agosrwydd at yr AHNE, torri'r llwybr arfordirol trwy greu maes parcio, effeithiau ar fywyd gwyllt gan gynnwys adar sy'n ymweld, diogelwch y briffordd a cherddwyr, a phryderon ynghylch newid posib i ddefnydd y maes parcio yn nes ymlaen i ganiatáu cerbydau teithiol / faniau yn ogystal â chwsmeriaid y Marram Grass, fel materion oedd yn mynd yn erbyn y cynnig. Y farn leol yw y gellid cwrdd â’r anghenion parcio trwy aildrefnu’r safle presennol. Gan gyfeirio at gais 12.10 dywedodd fod gan y pentref eisoes gyfleusterau i gynnal y digwyddiadau y mae'r cais yn cael ei wneud ar eu cyfer. Bydd lleoliad ychwanegol yn arwain at gystadleuaeth ddiangen am adnoddau. Mae pryderon y bydd y datblygiad ychwanegol yn gwaethygu effaith sŵn sy’n deillio o ddigwyddiadau a gynhelir ar y safle ar hyn o bryd. Mae'r cynnig mewn AHNE ac mae problemau o ran draenio. Mae angen asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg ynghyd ag eglurhad o natur y gyflogaeth ychwanegol y cyfeirir ati, a p’un a fydd y swyddi a gaiff eu creu yn rhai llawn amser parhaol, neu’n gontract dim oriau. O blaid y cynigion, mae poblogrwydd y Marram Grass a'i lwyddiant fel busnes yn golygu nad oes bellach unrhyw wahaniaethau mewn niferoedd tymhorol sy'n golygu bod angen maes parcio er mwyn datrys y problemau parcio ceir presennol. Mae'r ymgeisydd wedi dewis ymgartrefu yn y gymuned hon a datblygu'r busnes yno; mae’n bryderus y byddai gwrthod y cynnig yn peryglu’r datblygiad newydd arfaethedig, ond hefyd yn peri risg i’r busnes cyfredol. Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, yn anffodus, fod honiadau wedi’u gwneud ei bod wedi derbyn ffafriaeth gan yr ymgeisydd. Mae hi'n gwadu hynny. Pwysleisiodd ei bod wedi ceisio ymdrin â'r cynigion yn ddi-duedd ac wedi rhoi sylw i'r ystyriaethau perthnasol o'r ddwy ochr.

 

Er eu bod yn gefnogol i'r busnes ac yn cydnabod ei lwyddiant, roedd sawl Aelod o'r Pwyllgor yn poeni am leoliad y datblygiad arfaethedig a'i oblygiadau i’r ardal o gwmpas ac i ddiogelwch y briffordd a cherddwyr. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Victor Hughes ei gynnig. Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn awyddus i drafodaethau gael eu cynnal i chwilio am atebion amgen a chynigiodd ohirio er mwyn rhoi amser i'r ymgeisydd ailystyried y cais a chanfod ffordd ymlaen. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei gynnig.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, wrth ohirio’r cais i ystyried datrysiadau eraill posib, y dylai'r Pwyllgor fod yn glir mewn egwyddor ynghylch a ddylai'r cais am ddatblygiad aros yn y lleoliad arfaethedig fel ar hyn o bryd, neu ar yr ochr arall i'r briffordd lle mae'r Marram Grass ac eiddo preswyl eraill wedi’u lleoli.

 

Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid gwneud penderfyniad ar y cais fel ei cyflwynwyd, a phwysleisiodd petai’r cais yn cael ei wrthod, y byddai’r ymgeisydd yn medru dewis cyflwyno cais newydd.

 

Yn y bleidlais ddilynol ar y mater, cariodd y cynnig i wrthod y cais.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.10                        45C84J – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad allanol presennol a chodi ysgubor newydd yn cynnwys ystafell ddigwyddiadau, bar, ystafell arddangosiad / seminar, toiledau a swyddfa yn y Marram Grass Café, White Lodge, Penlon, Niwbwrch

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ystyrir bod y cais hwn yn gysylltiedig â chais 12.9 ac y dylai'r ddau gais gael eu hystyried ar y cyd. Roedd Aelod Lleol wedi galw cais 12.9 i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Anerchodd Mr John Ifan Jones y Pwyllgor – roedd yn gwrthwynebu'r cais ar y sail bod cyfleusterau presennol ar gyfer digwyddiadau ar gael yn y pentref sy'n golygu nad oes angen y datblygiad arfaethedig; y byddai sŵn sy’n bodoli yn gwaethygu gan effeithio ar fwynhad y trigolion o fwynderau ac yn creu llygredd sŵn, a'r effaith ar yr AHNE a'r ardal leol.

 

Siaradodd Mr Rhys Davies o blaid y cais gan ddweud mai bwriad y cynnig oedd ceisio cynnwys digwyddiadau a gaiff eu cynnal yn yr awyr agored ar hyn o bryd mewn adeilad pwrpasol a thrwy hynny leihau sŵn. Ni fwriedir creu capasiti ychwanegol. Mae'r ymgeisydd yn bwriadu buddsoddi yn y busnes ond yn ceisio lleddfu pryderon cymdogion ynghylch aflonyddwch sŵn ar yr un pryd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor mewn perthynas ag aflonyddwch sŵn a pharcio, dywedodd Mr Rhys Davies fod y cynnig yn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch sŵn ac yn darparu ateb trwy'r adeilad arfaethedig sy'n dod â'r holl strwythurau gwahanol sydd ar y safle ar hyn o bryd o dan yr un to. Pe na bai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen, bydd y sefyllfa bresennol yn parhau sy’n golygu na fydd y sŵn presennol yn cael ei liniaru o gwbl. Mewn perthynas â pharcio, ni fydd y datblygiad arfaethedig yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol o ran parcio ceir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod un llythyr ychwanegol wedi dod i law ers paratoi’r adroddiad ysgrifenedig yn ogystal ag ymateb gan yr Awdurdod Priffyrdd. O safbwynt cynllunio mae'r bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor ac nid argymhellir gwrthod y cais oherwydd materion aflonyddwch sŵn – ymgynghorwyd gyda’r adran Iechyd yr Amgylchedd ac nid yw'n gwrthwynebu'r cynllun. Barn y Swyddog yw bod y cynnig yn annerbyniol oherwydd parcio annigonol ar y safle fel mae wedi’i drefnu ar hyn o bryd ac na fydd yn medru darparu ar gyfer y datblygiad, ac y bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar ddiogelwch y briffordd gan fod cerbydau'n debygol o barcio ar y briffordd gyhoeddus oherwydd y diffyg llefydd parcio tu mewn i’r safle.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Priffyrdd a Rheoli Datblygu) fod yr Awdurdod Priffyrdd o’r farn y bydd amnewid pabell fawr dros dro gydag adeilad parhaol, pwrpasol yn debygol o ddenu mwy o ddigwyddiadau gan arwain at fwy o ddefnydd – mae'r fynedfa bresennol yn is-safonol ac oherwydd bod y cais cysylltiedig am faes parcio ar wahân wedi cael ei wrthod nid oes ateb ar unwaith i'r broblem.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.11                        45C441A / FR – Cais llawn i newid defnydd tir yn safle carafanau a gwersylla (yn cynnwys 5 o leiniau pebyll, 5 o leiniau glampio a 10 o leiniau ar gyfer carafanau teithiol), codi adeilad cyfleusterau ymolchi, gosod tanc trin carthffosiaeth yn lle’r tanc septig presennol ynghyd â gwelliannau tirlunio ar dir yn Tal y Bont Bach, Dwyran

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod polisïau’r cynllun datblygu yn cefnogi datblygiadau o'r math a fwriedir yn amodol ar gwrdd â meini prawf.

 

Ym marn y Swyddog mae’r cynnig yn dderbyniol yn ei gyd-destun cyn belled ag y rhoddir amodau ar y caniatâd sy’n cynnwys creu cynllun rheoli safle i ymdrin â materion ynglŷn â risg llifogydd a phryderon cyffredinol am fwynderau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Ann Griffith. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: