Eitem Rhaglen

Diweddariad ar Grantiau 2015/16

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â'r sefyllfa ynghylch grantiau a ddyfarnwyd yn 2015/16 ac a oedd yn rhoi gwybodaeth am incwm buddsoddi a diweddariad ar grantiau a ddyfarnwyd mewn blynyddoedd blaenorol

 

Adroddwyd bod y tabl yn yr adroddiad yn dangos y dyraniad grantiau ar gyfer 2015/16.  Y  cyfanswm a neilltuwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £737,766 ac roedd £128,537 o’r swm hwnnw wedi ei hawlio hyd yn hyn (17.4%).  Nid oes rhaid i'r sefydliadau hawlio eu dyraniad yn 2015/16 gan fod amod y grant yn dweud   'Bydd raid cwblhau unrhyw gynllun cyfalaf cyn pen 4 blynedd i flwyddyn dyrannu’r grant. Bydd unrhyw ddyraniad sydd ar ôl heb ei ddefnyddio ar ddiwedd 4 blynedd ariannol yn cael ei drosglwyddo’n ôl i Gronfa’r Ymddiriedolaeth’. 

 

Rhaid cwblhau unrhyw gynllun cyfalaf cyn pen 4 blynedd ar gyfer y flwyddyn dyrannu'r grant.  Bydd unrhyw ddyraniad sy'n weddill heb ei ddefnyddio ar ddiwedd 4 blynedd ariannol yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r Gronfa Ymddiriedolaeth.

 

Mae'r adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2014/15 yn dangos Incwm o £515,804 o’r buddsoddiadau o gymharu â £499,915 yn 2013/14.  Mae'r dyraniad grant o £737,766 yn 2015/16 yn uwch na’r ffigyrau hyn ac yn debygol o fod yn uwch na'r incwm a ragwelir ar gyfer 2015/16.  Fodd bynnag, dylid nodi bod lefel y grantiau a ddyfarnwyd yn llai na'r twf a ragwelir yng ngwerth y gronfa. 

 

Roedd tabl yn dangos y dyraniad grant ym mlynyddoedd ariannol 2008-2015 wedi'i gynnwys yn yr adroddiadRoedd y tabl yn dangos bod dyraniadau grant o £469,863 o’r blynyddoedd cynt wedi eu dwyn ymlaen i 2015/16.  Hyd yma, talwyd £306,654, sef 65% o'r cyfanswm a ddygwyd ymlaen. Mae hyn yn gadael balans o £163,208.92.  O’r balans hwn, mae £29,238.19 ohono’n  grantiau a gafodd eu dyfarnu dros 4 blynedd yn ôl ac felly ni chawsant eu hawlio yn unol ag amodau dyfarnu’r grant.  Cynigiwyd yn yr adroddiad y dylai Swyddogion yr Ymddiriedolaeth ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnodau 2008/09 i 2010/11 i'w hysbysu bod y grant wedi cael ei dynnu'n ôl yn unol â chanllawiau'r Ymddiriedolaeth Elusennol bod raid cwblhau prosiectau cyn pen pedair blynedd i’r dyfarniad grant. 

 

Roedd aelodau'r Pwyllgor yn ystyried y dylid cysylltu gyda sefydliadau nad ydynt wedi hawlio'r grantiau a ddyfarnwyd yn 2010/11 i ganfod a ydynt yn gallu cyflawni eu prosiectau a hawlio'r grant a ddyfarnwyd iddynt.

    

PENDERFYNWYD: -

 

·           Awdurdodi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnodau 2008/09 a 2009/2010 i'w hysbysu bod y cynnig o grant wedi cael ei dynnu'n ôl erbyn hyn.

·           Awdurdodi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnod 2010/11 i weld a ydynt yn gallu cwblhau eu prosiectau a hawlio'r grant a ddyfarnwyd iddynt.

·           Nodi bod y lefel gwariant cyfredol yn uwch na'r incwm a gynhyrchir sy'n cael effaith ar falans cyfalaf cyffredinol y buddsoddiadau.

 

Dogfennau ategol: