Eitem Rhaglen

Cofnodion Cyfarfod 14 Hydref, 2015

Cyflwyno, er cadarnhad, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2015.

 

Materion yn codi ohonynt a diweddariadau:-

 

1.      Côd Ymarfer ac Ymrwymiadau Ariannu

 

2.      Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

3.      Gallu a Gwytnwch y Trydydd Sector

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion -

 

  Gofynnodd Prif Swyddog Medrwn Môn am eglurhad ar statws yr Adroddiad Terfynol ar yr Adolygiad o'r Trydydd Sector ac a fyddai'r canfyddiadau’n cael eu rhannu gydag ef.  Cadarnhaodd  Arweinydd y Cyngor bod dadansoddiad manwl o fuddsoddiad yr Awdurdod Lleol yn y Trydydd Sector wedi cael ei wneud gan y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 ac y byddai Prif Swyddog Medrwn Môn yn cael cyfle i’w weld.

  Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod sesiwn friffio ar gyfer y trydydd sector ar drefniadau tendro wedi ei chynnal gyda Swyddog Caffael y Cyngor ac wedi bod o fudd. Fodd bynnag, roedd bylchau yn parhau yng ngwybodaeth y sector, yn enwedig mewn perthynas â chaffael.

  Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod wedi cyfarfod â'r Prif Weithredwr mewn perthynas â defnydd posibl o gronfeydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Mae Bwrdd Medrwn Môn yn awyddus i ddatblygu syniadau a gofynnir am gyfarfod arall maes o law. Mae'n bwysig hefyd bod y Cyngor yn cael sicrwydd bod y sector yn gwneud defnydd effeithiol o'r cyllid y mae'n ei dderbyn a’i fod yn gallu dangos bod ei drefniadau llywodraethu yn gadarn.

  Côd Ymarfer Cyllido - nodwyd bod y Brif Weithredwraig Gynorthwyol (Partneriaethau) yn adolygu trefniadau partneriaeth y Cyngor yn eu cyfanrwydd ar hyn o bryd ac y bydd statws y Côd yn eglurach yn dilyn yr adolygiad. Fodd bynnag, awgrymwyd bod y Côd Cyllido yn cael ei anfon at y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 am sylwadau.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Prif Weithredwraig Gynorthwyol i ddilyn i fyny mater y Côd  Ymarfer Cyllido gyda'r Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151.

 

  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiantnodwyd y pwysau sy’n debygol o ddod yn sgil y ddeddf.  Nodwyd hefyd mai’r hyn sy'n newydd yn y Ddeddf yw'r pwyslais a roddir ar y dimensiwn llesiant ac ar ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y person. Mae'r Trydydd Sector yn gweithio gyda'i bartneriaid ynghylch y defnydd gorau o’i adnoddau ac i ddatblygu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth fel nad yw problemau bach yn troi'n rhai mawr sydd angen ymyrraeth arbenigol. Mae ffocws ar waith ataliol. Nodwyd y bydd yn rhaid ailystyried sut mae gofal yn cael ei ddarparu fel bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion yr unigolyn mewn modd sy'n cyd-fynd â dymuniadau'r unigolyn ac mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd gorau o'r hyn sydd ar gael yn y gymuned. Mewn rhai achosion, gallai hyn gynnwys mesurau syml megis cymorth gyda siopa neu fynd i'r afael ag unigrwydd, sef materion nad oes angen pecynnau gofal drud ar eu cyfer o reidrwydd.  Mae’n golygu darganfod beth yw anghenion yr unigolyn ac mae’n ymwneud cymaint â mabwysiadu ymagwedd a meddylfryd gwahanol ag ydyw â defnyddio adnoddau mewn ffordd fwy effeithlon. Cyfeiriwyd at brosiect peilot yng Ngwynedd sy'n golygu rhoi’r sgwrs  'Yr hyn sy’n bwysigar waith ac fe nodwyd a thrafodwyd enghreifftiau o sut mae hyn yn gweithio.

  Gallu a Gwydnwch y Trydydd Sector - nodwyd bod Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys wedi cynhyrchu adroddiad ar Allu a Gwydnwch y Trydydd Sector ac y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol, yng ngoleuni'r gostyngiadau cyllido, i ymchwilio i fanteision ymgymryd ag ymarfer tebyg ar Ynys Môn. Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn, er bod y strwythur cefnogi o ran Compact a Chôd  Ariannu wedi ei sefydlu, yr hyn sydd angen ei ddatblygu yw strategaeth ynglŷn â disgwyliadau'r Cyngor ar gyfer y sector yn yr hinsawdd bresennol. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol i gynrychiolwyr Medrwn Môn gynnal deialog gyda'r Brif Weithredwraig Gynorthwyol (Partneriaethau) ynghylch beth yw disgwyliadau'r Cyngor a sut y gall y Trydydd Sector eu cyflawni a allai, yn ei dro, fod o gymorth gyda’r broses gyllido.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI:

 

  Prif Weithredwraig Gynorthwyol (Partneriaethau) i ddilyn i fyny gyda Medrwn Môn ar ddichonoldeb cynnal Adolygiad o Allu a Gwydnwch y Trydydd Sector ar Ynys Môn.

  Prif Weithredwraig Gynorthwyol (Partneriaethau) i gwrdd â chynrychiolwyr o Medrwn Môn i drafod ac egluro disgwyliadau'r Cyngor ar gyfer y sector.

Dogfennau ategol: