Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2016/17: Refeniw a Chyfalaf

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar y broses ddiwygiedig ar gyfer pennu'r gyllideb a weithredwyd i baratoi ar gyfer cyllideb 2016/17.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dro fod y Pwyllgor hwn eisoes wedi ystyried y cynigion cychwynnol ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ac wedi sgriwtineiddio’r wybodaeth a gyflwynwyd gan y Penaethiaid Gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015.

 

Roedd yr adroddiad dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn yn gyfle i'r Pwyllgor lunio argymhellion i'r Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys dadansoddiad pellach gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 o’r cyllidebau refeniw a chyfalaf arfaethedig ar gyfer 2016/17, a oedd hefyd cynnwys datganiad ar y sefyllfa yn y meysydd canlynol: -

 

i.    Cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb

ii.   Setliad dros dro i Lywodraeth Leol

iii.  Sefyllfa ddiwygiedig cyllideb 2016/17

iv.  Dreth Gyngor

v.   Cronfeydd wrth gefn

vi.  Cyllidebau ysgolion

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn crynhoi negeseuon allweddol o'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar, a gwybodaeth a gyflwynwyd gan Reolwr y Rhaglen Gorfforaethol.

 

Yn ystod y drafodaeth tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol fel meysydd y gofynnwyd i’r swyddogion roi eglurhad arnynt.

 

  Defnydd o gronfeydd wrth gefn, pwysau ar y gyllideb a lefelau gwarchodaeth i’r dyfodol.

  Lefel yr arbedion i'w gwireddu fel rhan o'r Cynllun Ariannol Tymor Canol ac adolygu'r Cynllun yn y dyfodol, gan gymryd i gyfrif lefelau’r Dreth Gyngor yn y tymor canol.

  Arbedion a ganfuwyd hyd yn hyn a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor o ran cyflawni targedau arbedion yn y dyfodol, sy'n debygol o fod yn fwy sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

  Lefel y cronfeydd wrth gefn o fewn cyllidebau Addysg, a chyfeiriad at ysgolion mewn diffyg ariannol. Nododd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y byddai angen ailystyried y fformiwla gyfredol.

  Gofynnwyd am eglurhad ar y gweithdrefnau ar gyfer delio â gwargedau yng nghyllidebau ysgolion. Yn ogystal, gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y balansau ysgol yn gyffredinol. Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu fod balansau yn y Sector Cynradd dros 7% ar gyfartaledd, a 3% yn y Sector Uwchradd. Wrth symud ymlaen, bydd angen edrych ar y pwysoliad rhwng y ddau Sector.

  Effaith toriadau yng nghyllidebau ysgolion ar Gyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig Ynys Môn a Gwynedd. Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu na fyddai unrhyw doriadau eleni.

  Pwysau ar wasanaethau a arweinir gan y galw a chyllid i fynd i'r afael â risgiau allweddol.

  Gofynnwyd am eglurhad ar y Grant Amddifadedd a'r effaith ar y Gwasanaethau Plant.

  Toriadau yn y Dyfodol i grantiau ysgol a’r goblygiadau i'r Awdurdod.

  Lefel y warchodaeth a roddir i gyllidebau ysgolion.

 

Canolbwyntiwyd wedyn ar nifer o gwestiynau allweddol a oedd yn sail i drafodaethau’r Pwyllgor a’i sylwadau / argymhellion o dan bob pennawd i'w hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith:-

 

i. A ddylid sicrhau cymaint ag sy’n bosibl o’r arbedion a nodwyd fel rhai y gellir

eu cyflawni yn 2016/17 gan gadw mewn cof y bydd sicrhau’r arbedion mwyaf

posibl yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i’r Cyngor ymateb i bwysau ar

wasanaethau a gofynion o ran arbedion yn y dyfodol?

 

Argymhelliad / Sylwadau

Argymell gwneud cymaint â phosibl o’r arbedion a nodwyd fel rhai y gellir eu cyflawni yn 2016/17 er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd i'r Cyngor ymateb i bwysau ar wasanaethau a gofynion am arbedion yn y dyfodol.

 

ii. A yw’r Pwyllgor yn cefnogi argymhelliad i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith,

bod swm yn cael ei ddyrannu o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i ariannu

newidiadau a gynlluniwyd mewn prosesau busnes er mwyn rhyddau rhagor o

arbedion effeithlonrwydd y gellir eu defnyddio i ymateb i wella gwasanaethau neu i gwrdd â’r pwysau arnynt?

 

Argymhelliad / Sylwadau

Argymell bod swm yn cael ei ddyrannu o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i ariannu’r newidiadau yn y prosesau busnes a nodwyd uchod.

 

iii. Ar ba lefel y dylid gosod y Dreth Gyngor yn y dyfodol gan gadw mewn cof y

materion a godwyd gan y Pennaeth Adnoddau yn ei adroddiad, y cyfraniad y

mae’r Dreth Gyngor yn ei wneud i refeniw cyffredinol y Cyngor a'r pwysau

ariannol y mae’r Cyngor yn debygol o’u hwynebu o 2017/18 ymlaen?

 

Argymhelliad / Sylwadau

Argymell cynnydd yn y Dreth Gyngor na fydd yn uwch na 3.5% tra'n

cydnabod argaeledd cronfeydd wrth gefn y Cyngor a'r angen i fuddsoddi

mewn gwasanaethau er mwyn cynnal safonau gwasanaeth.

 

iv. Ar ba lefel o warchodaeth y dylid ei rhoi i gyllidebau ysgolion gan gadw mewn cof yr angen i ysgolion gyfrannu at yr arbedion cyffredinol sydd eu hangen ar y Cyngor?

 

Argymhelliad / Sylwadau

Argymell bod lefel o ddiogelwch yn cael ei roi i gyllidebau ysgolion fel rhan o'r strategaeth ariannol ar gyfer y tymor canol.

 

v. Os bydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud penderfyniad terfynol i weithredu

arbedion effeithlonrwydd i gyllidebau ysgol, gofynnir i'r Pwyllgor wneud sylwadau ynghylch a ddylai lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn y sector cynradd ddylanwadu ar y penderfyniad ynghylch sut bydd yr arbedion yn cael eu dyrannu ar draws y sectorau.

 

Argymhelliad / Sylwadau

Mewn perthynas â chyllidebau ysgolion yn gyffredinol, argymell bod yna

sgôp o fewn y sector cynradd i gyflawni arbedion yn y dyfodol pe bai'r

Pwyllgor Gwaith yn gofyn am arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol.

 

vi. Oes gan y Pwyllgor Sgriwtini unrhyw sylwadau pellach ynghylch y gyllideb

gyfalaf arfaethedig?

 

Argymhelliad / Sylwadau

Nid oedd gan y Pwyllgor farn ar y mater hwn

 

vii. Sut mae'r cynigion ar gyfer cyllideb 2016/17 yn galluogi'r Pwyllgor Gwaith i

gyflawni’r Cynllun Corfforaethol a’r rhaglen drawsnewid? A oes unrhyw risgiau

penodol?

 

Argymhelliad / Sylwadau

Argymell bod balansau yn cael eu defnyddio i liniaru risgiau allweddol yn y rhaglen Cynllun Corfforaethol a Thrawsnewid.

 

viii. Sut mae'r cynigion i arbed yn cael eu hatgyfnerthu gan egwyddorion

Strategaeth Effeithlonrwydd y Cyngor?

 

Argymhelliad / Sylwadau

Nid oedd gan y Pwyllgor farn ar y mater hwn.

 

Yr Ymgynghoriad Cyhoeddus

 

Mewn perthynas â negeseuon allweddol o'r ymarferiad ymgynghori

cyhoeddus a gynhaliwyd, PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: