Eitem Rhaglen

Sicrhau Gwasanaethau Cynaliadwy ac Effeithlon ar gyfer y Dyfodol: Trawsffurfio Llyfrgelloedd

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Dysgu yn adolygu'r ffordd y mae gwasanaethau llyfrgell yn cael eu darparu.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg fod y rhaglen genedlaethol a heriau ariannol yn golygu bod angen i'r Cyngor adolygu'r ffordd y mae'n darparu gwasanaethau, sy'n cynnwys y gwasanaeth llyfrgelloedd yn gorfod gwneud arbedion o rhwng 20% a 60%. Dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi caniatáu i'r Gwasanaeth Llyfrgell gynnal adolygiad o fodelau darparu.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu fod ymgynghoriad wedi’i gynnal ym mis Hydref a mis Tachwedd y llynedd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw drwy arolwg ar- lein ac wyneb yn wyneb. Mae’r ymateb i’r ymgynghoriad wedi bod yn arbennig o dda, gyda bron 1500 o drigolion yn cwblhau’r holiadur a llawer o ddiddordeb wedi cael ei ddangos yn y maes. Roedd grwpiau o bobl nad ydynt yn ddefnyddwyr llyfrgell nodweddiadol wedi cymryd rhan. Roedd angen cynnal yr ymgynghoriad i chwilio am ffyrdd i wneud arbedion yn y gwasanaeth, a rhoddodd gyfle i edrych ar y ffyrdd gorau o ddarparu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Nododd y Pennaeth Dysgu fod gan y Cyngor well syniad o'r mathau o fodelau y gall eu cynnig yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad. Cyfeiriodd at yr opsiwn o lyfrgelloedd cymunedol. Mae’r cyhoedd yn awyddus i weld mwy o wasanaethau cyffredinol y Cyngor mewn llyfrgelloedd, yn enwedig modelau sy'n golygu defnyddio gwirfoddolwyr dan arweiniad gweithwyr proffesiynol, i gwrdd â safonau cenedlaethol.

 

(Gwnaed datganiadau o ddiddordeb yn yr eitem hon gan y Cynghorwyr R Meirion Jones a Llinos M Huws, gan eu bod wedi bod yn cymryd rhan yn y gwaith sydd wedi esblygu o fewn y Gwasanaeth)

 

Cododd yr aelodau'r materion canlynol yn ystod y drafodaeth:-

 

  Gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau;

  Gwneud defnydd o adeiladau cymunedol;

  Mae cefnogaeth fawr i’r llyfrgelloedd yn y gymuned, mae'n golygu mwy na llyfrau a chyfrifiaduron;

  Mae pobl o'r gymuned leol yn barod i weithio gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol, ac yn unol â gofynion y Ddeddf;

  Mae trigolion oedrannus yn defnyddio llyfrgelloedd ar gyfer gweithgareddau eraill megis cinio.

 

Dywedodd yr Aelodau fod staff o fewn y Gwasanaeth yn gadarnhaol iawn ac yn ymroddedig i'r broses ailfodelu ac fe'u canmolwyd am eu gwaith. Teimlwyd nad oedd y toriad o 60% yn gyraeddadwy a byddai'n anodd cwrdd â safonau cenedlaethol.

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

a)  Bod yr Ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Llyfrgell yn glodwiw a dylid ystyried mabwysiadu ei fethodoleg yn gyfan gwbl ar gyfer yr holl ymgynghoriadau o'r fath yn y dyfodol;

b)  Ar ôl ystyried canlyniadau’r Ymgynghoriad, teimlai'r Pwyllgor fod arbedion o 60% yn afrealistig ac nid oedd yn eu croesawu. Cefnogwyd y farn honno gan sylwadau’r Pennaeth Gwasanaethau "y byddai 60% yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i gwrdd â’r Safonau Llyfrgell Cenedlaethol statudol." Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Sgriwtini’n cefnogi y dylai’r Gwasanaeth barhau i archwilio a chostio'r modelau posib yn y dyfodol yng nghyd-destun canlyniadau’r ymgynghoriad hwn, fel yr amlinellwyd yn yr adolygiad o'r gwasanaeth llyfrgell.

c)  Cefnogaeth i'r cysyniad o lyfrgelloedd sy'n cynnig mwy o wasanaethau o’u hadeiladau cyfredol. Maent yn sylweddoli na fyddai hyn yn debygol o gyflawni arbedion i'r gwasanaeth llyfrgell, ond roedd yn derbyn bod potensial i wneud arbedion corfforaethol yn rhywle arall mewn cydweithrediad â rhaglenni trawsnewid eraill.

ch) Cefnogi'r cynigion i ddechrau costio modelau llyfrgell o'r fath.

 

Gweithredu: Rheolwr Sgriwtini i lunio ymateb i'r Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: