Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn dadansoddi canlyniadau yn ysgolion Môn ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2014/15.
Roedd yr adroddiad yn cyfeirio’n benodol at fframwaith Estyn ar gyfer arolygu awdurdodau a’r disgwyl i’r agweddau allweddol a ganlyn fod yn destun sgriwtini fel rhan o'r broses hunanwerthuso:-
• Sut mae'r Awdurdod yn perfformio’n erbyn y meincnodau a osodir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer CA3 a CA4?
• Sut mae perfformiad yr Awdurdod yn cymharu gyda gweddill yr Awdurdodau yng Nghymru?
• A yw perfformiad yn y pynciau craidd yn debyg?
• Ym mha gyfnod allweddol y mae’r perfformiad ar ei orau? Ym mha agweddau y mae angen gwneud gwelliannau?
• Beth yw dosbarthiad ysgolion ar draws chwarteli cinio am ddim? A yw’r dosbarthiad hwn yn well ynteu’n waeth na'r patrwm cenedlaethol?
• Oes ysgolion yr ymddengys eu bod yn tanberfformio?
Cyflwynwyd gwybodaeth am gategoreiddio a bandiau ysgolion fel a ganlyn:-
4 ysgol yn y band gwyrdd - 3 gynradd ac 1 uwchradd;
29 ysgol yn y band melyn; 13 yn y band ambr; rhai yn y band coch.
13 o ysgolion yn y band ambr eleni, o gymharu â 18 y llynedd – roedd hyn yn
siomedig iawn, ond mae cynnydd yn cael ei wneud.
Mewn perthynas â sefyllfa gyffredinol yr Awdurdod ar gyfer 2014/15, mae'r Cyngor yn safle 11 allan o 22 ac nid yw hynny wedi newid ers nifer o flynyddoedd.
Cododd y Pwyllgor y materion canlynol:-
• Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y trefniadau ar gyfer addysgu plant yn y cartref a holwyd a yw’r Awdurdod yn ymweld â chartrefi. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu ei fod yn ofyniad statudol bod un ymweliad yn cael ei wneud gan Swyddog Addysg i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol.
• Codwyd cwestiwn ar argaeledd prydau ysgol am ddim. Adroddodd y Pennaeth Dysgu bod prydau ysgol am ddim yn cael eu defnyddio fel dangosydd ar gyfer amddifadedd. Os yw teulu’n dod o fewn y categori prydau ysgol am ddim, mae data hanesyddol yn dangos nad ydynt yn perfformio cystal ac nad oes ganddynt, yn aml, gefnogaeth gartref. Mae cyflawni’n fwy o her i blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ac mae rhai plant yn syrthio drwy'r rhwyd.
• Cyfeiriwyd at banel arbennig i blant sy'n derbyn gofal. Awgrymwyd bod y Cyngor yn gofyn am ddadansoddiad o berfformiad y plant hyn, fel y gellir gwneud cymariaethau ar draws Cymru.
• Holodd y Pwyllgor a oedd cydweithio effeithiol ar Ynys Môn rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu bod rhaid mynd i'r afael â’r
materion a nodwyd ar frys. Mae cydweithredu ysgol-i-ysgol yn cynnwys ysgolion
cynradd ac uwchradd.
• Trafododd y Pwyllgor yr heriau sy'n wynebu'r Awdurdod mewn perthynas ag ysgolion yn y categori ambr, ac awgrymwyd na ddylid eu caniatáu i fynd i'r categori coch. Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod heriau enfawr i’r ysgolion, ond bod y sefyllfa wedi gwella.
• Nodwyd bod Llywodraethwyr Ysgolion ac uwch reolwyr yn ymweld ag ysgolion i holi sut maent yn gweithredu. Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod modd gwneud cynnydd trwy fewnbwn gan GwE a’r Awdurdod Addysg, a'r ffordd orau i ysgolion i symud ymlaen yw trwy i Aelodau, Llywodraethwyr Ysgolion, rheolwyr, athrawon, swyddogion a rhieni weithio gyda'i gilydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: