Eitem Rhaglen

Premiymau’r Dreth Gyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn wag am Gyfnod Hir

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ynghylch a ddylid codi premiymau’r Dreth Gyngor ar anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir neu anheddau y mae rhywun yn byw ynddynt yn achlysurol (gelwir yn ail gartrefi fel arfer) o 1 Ebrill 2017 ymlaen, ac os penderfynir gwneud hynny, pennu pa ganran o bremiwm y Dreth Gyngor y dylid ei godi ar anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod newidiadau deddfwriaethol wedi dod i rym yn sgil Deddf Tai (Cymru) 2014 oedd yn rhoi pwerau dewisol i awdurdodau lleol benderfynu codi premiwm ar anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir neu ail gartrefi (neu’r ddau). Roedd Deddf 2014 yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 drwy roi dwy adran newydd i mewn ynddi, sef 12A a 12B, sy’n galluogi awdurdod sy’n bilio (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) yng Nghymru i dynnu unrhyw ddisgownt a roddir i anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir neu anheddau y mae rhywun yn byw ynddynt yn achlysurol, a chodi swm uwch o’r dreth gyngor (premiwm). Bydd gan awdurdodau lleol yn awr y dewis i benderfynu ar faint o bremiwm i’w godi, o 0% hyd at uchafswm o 100% o gyfradd safonol y dreth gyngor sy’n berthnasol i’r eiddo. Gall awdurdod sy’n bilio wneud, amrywio neu ddiddymu penderfyniad a wnaed dan Adrannau 12A a 12B y Ddeddf, ond dim ond cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’r penderfyniad yn ymwneud â hi. Ar gyfer ail gartrefi fodd bynnag, mae’n rhaid i awdurdod sy’n bilio wneud ei benderfyniad cyntaf dan Adran 12B o leiaf flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y bydd y premiwm yn berthnasol iddi. Golyga hyn er mwyn codi premiwm o 1 Ebrill 2017 bod rhaid i awdurdod sy’n bilio wneud ei benderfyniad ar gyfer ail gartrefi cyn 1 Ebrill 2016. Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2016 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor llawn y dylid gosod Premiwm y Dreth Gyngor ar 25% o gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac anheddau y mae rhywun yn byw ynddynt yn achlysurol (sef ail gartrefi).

 

Nododd yr aelodau fod angen dybryd am dai i deuluoedd ifanc lleol ar yr Ynys ac roeddent yn cefnogi’r cynnydd yn y Premiwm Dreth Gyngor. Dywedwyd fod angen i dai gwag fod ar gael i’w rhentu neu i’w prynu mewn cymunedau lleol. Roedd rhai o’r Aelodau’n ystyried y dylid cynyddu Premiwm y Dreth Gyngor 30%.

 

PENDERFYNWYD:-

 

1. Bod Cyngor Sir Ynys Môn (“Cyngor Llawn”), fel awdurdod bilio yng Nghymru, yn defnyddio ei bwerau dewisol, o dan adrannau 12A a 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) i ddatgymhwyso unrhyw ddisgownt/disgowntiau a ganiatawyd i anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn achlysurol (a elwir fel arfer yn ail gartrefi) ac i gymhwyso mwy o’r dreth gyngor (a elwir yn Bremiwm y Dreth Gyngor) a bod hynny’n dod i rym o 1 Ebrill 2017.

 

2. Bod Premiwm y Dreth Gyngor yn cael ei osod i fod yn 25% o’r dreth gyngor safonol i’r ddau, sef anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiannir yn achlysurol (a elwir fel arfer yn ail gartrefi), a bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn cynnal adolygiad o bremiymau’r Dreth Gyngor yn ystod 2018/19 (ar ôl y flwyddyn gyntaf lawn o weithredu premiymau’r Dreth Gyngor) er mwyn penderfynu a yw’r premiymau a bennwyd wedi bodloni amcanion y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn ac o ganlyniad, a oes angen i lefelau’r premiwm a bennwyd gael eu hamrywio neu eu diddymu pan fo’r Cyngor Llawn yn pennu gofynion y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20. Yna, os yn gymwys, bydd y premiymau diwygiedig yn dod i rym o 1 Ebrill 2019.

 

3. Bod y Cyngor Llawn yn cyfarwyddo ac yn awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 i:–

 

i.       Gyhoeddi rhybudd o’i benderfyniad i godi premiwm mewn papur newydd lleol o fewn 21 diwrnod o’i benderfyniad;

 

ii.    Cyfathrebu ei benderfyniad, hefyd o fewn 21 diwrnod, ac yn arbennig i’r rhai y bydd hyn efallai yn effeithio arnynt, trwy gyhoeddi hysbysiadau yn y wasg, darparu gwybodaeth ar wefannau neu ddefnyddio dulliau eraill o godi ymwybyddiaeth. Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu’n uniongyrchol â threthdalwyr y cyngor sy’n debygol o fod yn atebol i dalu’r premiwm, ac yn arbennig y rhai hynny sydd fel arfer yn byw y tu allan i ardal yr awdurdod lleol;

 

iii.   Sicrhau bod trefniadau gweinyddol wedi eu sefydlu er mwyn amcangyfrif (cyn i’r Pwyllgor Gwaith gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18 a bod y Cyngor Llawn yn pennu gofynion y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18) faint o anheddau sy’n wag am gyfnod hir a faint o anheddau a feddiennir yn achlysurol (a elwir fel arfer yn ail gartrefi) fydd yn gymwys i godi premiwm y Dreth Gyngor arnynt o dan Ddeddf 1992, fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf 2014, yn amodol ar eithriadau a ganiateir gan reoliadau;

 

iv.   Sicrhau bod trefniadau gweinyddol yn cael eu sefydlu er mwyn gweinyddu a gorfodi premiwm y Dreth Gyngor yn briodol o 1 Ebrill 2017, a nodi bod y Pwyllgor Gwaith yn cytuno mewn egwyddor (yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith) ag unrhyw adnoddau ychwanegol y tybir sydd eu hangen (gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151), er mwyn sicrhau bod premiwm y Dreth Gyngor yn cael ei weinyddu a’i orfodi yn briodol, fydd ar y cychwyn yn cynnwys amcangyfrif faint o anheddau fydd yn gymwys i dalu premiwm y Dreth Gyngor.

 

4. Bod y Cyngor Llawn hefyd yn cyfarwyddo ac yn awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 (cyn i’r Pwyllgor Gwaith gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18 ac i’r Cyngor Llawn bennu gofynion y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18) i gynghori’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn (fel awdurdod bilio yng Nghymru) ynghylch a fydd angen penderfynu, o dan adran 13A Deddf 1992, defnyddio ei bwerau dewisol i ostwng atebolrwydd y dreth gyngor fydd yn deillio o godi premiwm y Dreth Gyngor, i’r graddau y mae’n credu sy’n briodol. Er mwyn tegwch a thryloywder, petai angen penderfyniad o’r fath, bydd cyngor yn cael ei roi petai’r Cyngor Llawn yn mabwysiadu polisi clir ynghylch a ddylid defnyddio’r pwerau hyn neu beidio ag ym mha fodd, gydag awdurdod gwneud penderfyniadau dirprwyedig priodol yn cael ei ddarparu yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ond hefyd byddid yn cydnabod bod angen i bob achos gael ei ystyried ar sail teilyngdod gan ystyried amgylchiadau pob achos unigol.

 

Dogfennau ategol: